Pwy oedd Is-Sarsiant Johnson?
Wyddon ni fawr ddim amdano ond hoffem yn fawr wybod mwy. Pe gallech gynorthwyo e-bostiwch ni ar c.a.graves-brown@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 295960. Diolch yn fawr.
- Ei enw llawn oedd James Mason Johnson
- Gwyddom iddo ddod o Gaerfyrddin gan fyw efallai yn Stryd y Bont (mae blaen yr albwm lluniau sy’n cynnwys ei sleidiau yn dwyn y cyfeiriad: d/o Mr Davies 13 Stryd y Bont)
- Cyn ymuno â’r fyddin gweithiai fel saer celfi i John Thresh a’i Gwmni Caerfyrddin
- Ymunodd â’r fyddin gyntaf ym mis Mawrth 1914 a’i rhif milwrol oedd 448139
- Roedd yn aelod o 436 Gwmni’r Maes Cymreig
- Roedd yn Is-Sarsiant a leolwyd yn yr Aifft ym 1917
- Fe’i trosglwyddwyd at y milwyr wrth gefn ym mis Gorffennaf 1919 pan oedd yn 27 oed yn dilyn anaf i’w ben-glin tra ar ddyletswydd
Ymysg ei sleidiau mae nifer sy’n dangos yr un dyn. Tybed ai hwn yw’r Is-Sarsiant Johnson?
Ai ef yw’r dyn yn eistedd yn y blaen ar y camel?
Ai ef yw hwn ym mhen blaen y felucca?