• English
  • Cymraeg

 

 

W920

Mae’r mygydau hyn yn ei gwneud hi’n glir mai diben y broses fymïo oedd gwneud corff yr ymadawedig yn gorff yr ymadawedig bendigaid, ac yn fod duwiol.

 

Mae’r mwgwd wedi’i wneud o cartonnage, sef lliain a gesso (plastr). Mae wedi’i orchuddio gydag eurad. Roedd mygydau mymïod fel yr un hwn yn aml wedi’u llywio gydag eurad oherwydd pwysigrwydd symbolaidd aur. Roedd paralel i natur sgleiniog y metel â natur sgleiniog y meirwon cyfiawn, gan liwio’r ymadawedig gyda’r un nodwedd o sglein. Yn ogystal, metel tragwyddol yw aur nad yw’n afliwio.

Sylwer ar y llygad wedjet ar y talcen.

Ceir hefyd arysgrif wedi’i ddifrodi ac aneglur sy’n ymddangos fel cylch o gwmpas y pen. Mae hwn yn rhan o Lyfr y Meirwon, 151a. Gellir cyfieithu’r darn uwchben yr ael fel a ganlyn: ‘Eich llygad de yw Cwch y Nos a’ch lygad chwith yw Cwch y Bore; mae’ch aeliau fel y Naw Duw…’. Roedd pob rhan o’r corff yn gysylltiedig â duw gwahanol pan gafodd y corff ei ddwyfoli ar ôl marw. Fodd bynnag, mae cyfatebiaeth rhannau’r corff gyda’r duwiau penodol hyn yn dyddio’n ôl i Destun Arch 531 sy’n  ymdrin yn unig â’r pen, fel Llyfr y Meirwon 151a. Mae’r swyngan hon yn esbonio’r angen i gael ‘wyneb prydferth’ (nfr Hr) ymhlith y duwiau. Yn ogystal â chael ei gyfieithu fel ‘prydferth’, mae gan Nfr gynodiadau o newydd-deb. Gallai hyn esbonio pam y caiff y duwiau Ptah ac Osiris, sy’n aml ar ffurf mymi, eu galw’n nfr Hr (Lüscher, 246) am fod y cysyniad o newydd-deb yn aml yn cael ei atgyfnerthu gan y lliw gwyrdd.

Mae’r testun yn amnewid y ‘goron o gyfiawnder’, sef coronbleth, a ddangosir  yn aml ar fygydau mymïod. Mae gweddill y swyngan yn disgrifio nodweddion yr ymadawedig mewn termau duwiol; Eich ael fel Anubis, gwallt fel Ptah-Sokar, etc. Roedd troi’r ymadawedig yn fymi yn cael ei gymharu â’i wneud yn dduw ac, wrth reswm, roedd gan dduwiau nodweddion o aur tragwyddol. Yn achlysurol, gellir canfod y testun hwn yn y Deyrnas Newydd, e.e. ar fwgwd Tutankhamun, ond mae’n ailymddangos yn y Cyfnod Hwyr.

Am wybodaeth ar y Goron Gyfiawnhau, gweler Christian Riggs 2005, The Beautiful Burial in Roman Egypt. Art, Identity and Funerary Religion tudalennau 81-83.

Am baralelau â’r testun coronbleth, gweler Tamás Mekis 2012, The Cartonnage of Nestanetjeretten (Louvre AF 12859; MG E 1082) a’i enigma. Bulletin de L’Institut Français D’Archéologie Orientale, 112, tudalennau 243-273.

 

Am esboniad o’r swyngan mwgwd, gweler: Taylor, J. H. 2010 The Mummy in the Tomb yn J. H Taylor gol. Journey Through the Afterlife. Ancient Egyptian Book of the Dead, Llundain: Gwasg yr Amgueddfa Brydeinig.108-109; Nyord, R. 2009. Breathing Flesh, Conceptions of the Body in the Ancient Egyptian Coffin Texts. Gwasg Amgueddfa Tusculanum 520ff.

 

Am ddwyfoli rhannau o’r corff, gweler: DuQuesne, T. 2002. La déification des parties du corps. Correspondances magiques et identification avec les dieux dans l’Égypte ancienne. Yn Koenig, Y. golygyddion. La magie en Égypte: à la recherché d’une définition. Actes du colloque organisé par le musée du Louvre les 29 et 30 septembre 2000. Paris: Louvre.2 37-271.

 

Am wybodaeth ynghylch Testun Arch 151, gweler Lüscher, B. 1998. Untersuchungen zu Totenbuch Spruch 151 Wiesbaden: Harrossowitz Verlag.

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â Llyfr y Meirwon yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php