• English
  • Cymraeg

W345

Stôl grochenwaith gyda “TA 30/31 TA36.61” mewn inc du (rhif y gloddfa). O Amarna. Mae hon yn Frankfort a Pendlebury 1933 cyfrol t. 48) yn cydberthyn i dŷ ym Maestref y Gogledd oedd ag ‘ystafell meistr’, grisiau i’r to a selar wedi’i leinio â phriddfeini. Mae’r stôl grochenwaith beintiedig hon wedi ei rhestru fel darganfyddiad rhif 256, ynghyd â chrochenwaith o Mycenae, befel modrwy cornelian ayb. Ar dudalen 87 o’r un gyfrol sonnir am ddeilen aur.

Efelychiad o stôl bren isel gyda thop hesg yw’r eitem hon. Gellir gweld olion o baent glas, cobalt mwy na thebyg, yn amlygu’r manylion. Efelychu blodau lotws mae’r traed.

Caiff yr eitem ei rhestru yn Sefydliad Wellcome (WA/HMM/CM/Col 34) ar restr yr eitemau o Amarna.

Darllen pellach.

Frankfort, H. a Pendlebury J.D.S. 1933, The City of Akhenaten Part II, The north suburb and the desert alters: the excavations at tell el-Amarna during the seasons 1926-1932. Llundain: Egypt Exploration Society.

Killen, G.P. 1980 (cyfrol 1), 1994 (cyfrol 2), Ancient Egyptian Furniture. Warminster: Aris and Phillips.

Killen, G.P. 1994, Egyptian Woodworking and Furniture. Princes Risborough: Shire Egyptology.

Eitemau eraill o Amarna yn y Ganolfan Eifftaidd

Dodrefn yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php