• English
  • Cymraeg

W962 Ffôn daflu o Amarna

w962

Gwnaed yr eitem hon o faience a’i mesuriadau yw 4.4 x 4 x 1.8cm. Ar yr ochr chwith, gwelir cartouche Akhenaten, ar yr ochr dde, gwelir rhan o lygad wadjet faience. Mae rhan o gartouche ar y tu cefn hefyd.

Ffôn daflu neu fwmerang model ydyw.

Tybir y cyfeirir at yr eitem hon yn Pendlebury (1951, 91) fel gwrthrych 31/556 o’r Prif Ddinas: ‘Two fragments of faience throwing-stick, one with part of the king’s name (Wellcome)’. Cysylltwyd y rhif 31/556 â’r arteffact gan guradur cyntaf y Ganolfan Eifftaidd, Kate Bosse-Griffiths, cyn 1997. Nid oes llun yng nghyfrol Pendlebury, ond dywedir bod yr eitem wedi mynd i Wellcome, sef ffynhonnell y rhan fwyaf o ddeunydd Abertawe. Fodd bynnag, nid oes rhif cloddiad ar yr arteffact. Felly, ni allwn fod yn sicr mai W962 a 31/556 sydd yma.

Cyfeirir at eitem hynod debyg (er nad yw’n union yr un peth) yn Stevens, a cheir llun ohoni (2006, 119, ffig. II.3.30), fel 24/625, unwaith eto o’r Prif Ddinas. Yma, hefyd, gwelir cartouche Akhenaten ar y chwith a’r llygad wadjet ar y dde, wedi’u gwahanu gan ddwy gyflinell.

Mae Stevens (2006, 118-120) yn trafod ffyn taflu model eraill a ddarganfuwyd yn Amarna a’u symbolaeth. Mae hi wedi adnabod dros 20 darn o ffyn taflu model o Amarna. Ceir ffyn taflu pren a faience yn aml mewn beddau brenhinol o’r Deyrnas Newydd ac ymddengys iddynt gael eu defnyddio fel eitemau adfywio. Fodd bynnag, nid yw’r rhai o feddau preifat wedi’u gwneud o faience fel arfer. Serch hynny, mae enghreifftiau faience wedi cael eu darganfod fel offrymau addunedol ac mewn temlau. Yn anaml iawn y ceir y rhain mewn cyd-destunau domestig. Am ragor o wybodaeth am ffyn taflu, cliciwch yma.

 

Cyfeiriadau

Pendlebury J.D.S. 1951. The City of Akhenaten Part III, Text. Egypt Exploration Society: London. 

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. Archaeopress: Oxford.

Gwrthrychau eraill o Amarna

 

 

 

 

css.php