• English
  • Cymraeg

 

W946 Commodus stela

W946bis

Roedd y tarw Buchis yn cael ei ystyried fel ymgnawdoliad o Montu a Re ac yn Armant yr oedd ei ganolfan gwlt. Roedd y tarw mor bwysig fel bod hyd yn oed ei fam yn cael ei chlodfori a’i chladdu mewn grŵp o feddrodau a elwid yn Baqaria yn Armant.

Uchod, ar y dde, gallwch weld stela yn dangos mam tarw Buchis yn cael ei haddoli gan yr Ymerawdwr Commodus. Mae dyddiad marwolaeth y tarw wedi’i groniclo fel 190OC. Cafodd hwn ei ddarganfod o flaen beddrod 27 yn y Baqaria yn Armant. Mae’r fuwch fymïedig yn cael ei dangos ar y chwith.

Uchod, ar y chwith, gallwch weld clamp arch. Byddai buchod wedi’u gosod ar fwrdd. Byddai clampiau fel yr un uchod wedi’u rhoi o’u cwmpas ac yna byddai rhwymynnau lliain wedi’u clymu ar draws y corff i’r clampiau, yn sicrhau bod y fuwch yn aros yn ei lle. Mae papyrws o’r enw Papyrws yr Apis yn disgrifio’r defodau ar gyfer mymïo’r tarw Apis. Mae’n debyg bod defodau tebyg yn cael eu harfer ar y Buchis ac ar fam y Buchis. Mae’r Papyrws yn dweud y dylai 22 o glampiau gael eu defnyddio. Roedd y rhan fwyaf o gladdiadau’r Buchis a mam y Buchis yn defnyddio rhwng 21 a 23 o glampiau.

 

The Egypt Centre also has several coffin clamps which come from tomb 13 at the Baqaria at Armant. 

 

W605 is the glass eye from the mummy of a Buchis or Apis bull 

 Darllen pellach:

Mond, R. and Myers, O.H. 1934. The Bucheum London, Egypt Exploration Society, II, 20.

css.php