• English
  • Cymraeg

 

W927

Plastr wal o feddrod y gweithiwr Khabekhenet a’i wraig Saht (ar y dde) yn addoli’r duwiau Isis, Ptah Sokar a Ptah (y duwiau o’r chwith i’r dde). Dangosir Ptah ag wyneb gwyrdd. Mae’r darn yn dyddio o deyrnasiad Rameses II (1779-1212 CC) ac mae’n dod o Deir el-Medina. Mae’r plastr bellach wedi’i osod mewn ffrâm bren ac mae’n mesur 71x42cm.

Gweler Davies (1999 t. 44–47) a Théby (2007) am wybodaeth ynghylch y teulu. Eu beddrod yw Beddrod Theben 2 ond mae’n anodd gweld ymhle mae’r eitem yn ffitio i’r gerfwedd bresennol. Efallai ei bod yn rhan o gapel preifat? Khabekhenet oedd mab hynaf Sennedjem (TT1).

Ar yr ochr chwith, crybwyllir y duwiau Ptah a Ptah-Sokar. Gellir gweld rhywfaint o enw Isis yn y golofn ar yr ochr dde eithaf. Mae Isis yn dal blodyn lotws.

Yn y darlun hwn, mae Ptah-Sokar yn edrych yn fenywaidd, ond gallai hyn fod yn oddrychol. Roedd Ptah-Sokar yn gyfuniad o dduw’r creawdwr Ptah a’r duw hebog Sokar. Crybwyllir Ptah-Sokar mewn testunau amrywiol, gan gynnwys Llyfr y Meirw 151a, ‘Henffych i ti (hardd ei wynepryd),arglwydd y (ddwy. nefolaidd) lygad, y mae Ptah Sokar wedi ei greu….’ a 170 ‘Ptah Sokar a roddodd i ti gyfran o addurniadau ei dem ‘.

Prynwyd yr eitem gan Syr Henry Wellcome yn arwerthiant Sotheby o eitemau Robert de Rustafjaell (catalog arwerthiant 19–21 Rhagfyr 1912). Dyma’r disgrifiad o eitem 404 ar dudalen 26 y catalog: ‘Two pieces of painted stone or stucco and various fragments of the same. A painted stone stela. And a large piece of a painted stone with figure designs and inscription. [Plate X, 22, 23]‘. Gwerthwyd yr eitem am £5.10.0.

Yn 1982, cafodd y gwahanol ddarnau eu huno gan Susan Rees yn y Sefydliad Archaeoleg yng Nghaerdydd.

Cyfeiriadau

Davies, Benedict G.: Who’s who at Deir el-Medina : a prosopographic study of the royal workmen’s community

Leiden : Nederlands Instituut voor Her Nabije Oosten, 1999

Théby : město bohů a faraónů = Thebes : city of gods and pharaohs / Jana Mynářová & Pavel Onderka (gol.) Praha : Národní Museum, 2007.

Other items from Deir el-Medina in the Egypt Centre

Ptah-Sokar-Osiris figures

 

css.php