• English
  • Cymraeg

W869Dyma ran o amwisg brin wedi’i pheintio o’r Deyrnas Newydd, sydd â rhannau o Lyfr y Meirw arni. Mae’n dod o Rifeh ac mae’n dyddio o’r 19eg-20fed Breninlinau. Yn ystod teyrnasiad Thutmose III, dechreuwyd peintio penodau o Lyfr y Meirw ar amwisgoedd unigolion preifat.

Mae’r eitem yn mesur 66.8×45.4cm ac roedd yn perthyn i ddyn o’r enw Hapi. Mae golygfeydd o Lyfr y Meirw wedi’u peintio arni. Mae’r rhain yn cynnwys: pedwar dyn yn cario cwch ar bolyn (y tu mewn i’r cwch y mae arch ar ffurf mymi); y Llyn Tân, (Pennod 126); trawsnewid yn neidr, (Pennod 87); trawsnewid yn lotws (Pennod 81); trawsnewid yn Aderyn Shenti; (Pennod 84 o’r Book of the Dead). Mae maint yr addurnau yn dangos pa mor bwysig yr oeddent yn y cyfnod hwn. Mae swynion trawsnewid, y Llyn Tân a chludo’r mymi hefyd yn ymddangos ar amwisg Resti o’r Amgueddfa Brydeinig (EA 73808).

Roedd y Llyn Tân yn ffordd o buro’r ymadawedig yn y bywyd i ddod.

Roedd Van Voss (1974) yn credu bod yr eiconograffi ac enw’r perchennog yn awgrymu dyddiad yng nghyfnod Rameses (1320-1075 CC).

Cafwyd yn Rifeh (gweler Petrie 1937, 7).

Rhoddodd Petrie yr eitem hon i Wellcome yn 1927.

 

Eitemau cysylltiedig yn y Ganolfan:

 

Llyfryddiaeth

Van Voss, M. Heerma, 1974, ‘Een Dodendoek Als Dodenboek’ Phoenix 20, 335-338.

Petrie, W.M.F., 1937, Funeral Furniture and Stone Vases. Llundain: Bernard Quaritch.

El-Weshahy, 2007. Studying representation of the ‘Flame Lake’ in the Egyptian underworld, Yn J.-C. Goyon, C. Gardin, (gol.), Proceedings of the Ninth International Congress of Egyptologists – Actes du Neuvième Congrès International des Égyptologues. Orientalia Lovaniensia Analecta 150, 641–652.

 

 

 

 

 

css.php