• English
  • Cymraeg

W867

W867

 

 

 

 

 

 

 

 

Byddai copi o Lyfr y Meirw, boed ar waliau’r beddrod, ar bapurfrwyn neu rwymynnau, yn gwmni i’r meirw i sicrhau bod defodau’n cael eu cynnal yn dragywydd. Mae darn o Lyfr y Meirw sydd yn y Ganolfan Eifftaidd, W867, yn darlunio sawl defod sy’n angenrheidiol ar gyfer dod yn akh. Mae hon yn bapurfrwynen o gyfnod y Frenhinlin Hwyr i’r Cyfnod Ptolemaidd sy’n mesur 54 a 33.5cm ac wedi’i ysgrifennu arni mae’r emyn i’r haul sy’n codi, Swyn 15 yn Llyfr y Meirw.[i]. Mae’n rhan o sgrôl oedd yn perthyn Ankh-Hapi, mab Pa-Khered-en-Min a Ta-di-Aset[ii]. Mae darnau eraill yn goroesi mewn mannau eraill. [iii]

Heddiw, y gred boblogaidd yw bod mymïo gyda rhwymynnau yn rhan mor hanfodol o ddiwylliant hynafol yr Aifft fel bod ymwelwyr ag amgueddfeydd yn disgwyl gweld mymi. Ond rhywbeth elitaidd oedd hyn i raddau helaeth, gyda phobl dlotach ar y gorau’n cael eu mymïo’n naturiol yn nhywod sych yr anialwch. Dechreuodd mymïo mor gynnar â 4300 C.C., er bod y prosesau’n amrywio dros amser ac mewn dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol.[iv] Mae bron yn sicr y byddai Ankh-Hapi wedi ei lapio mewn rhwymynnau a’i fymïo, yn wir mae mymi ei gorff i’w weld ar y bapurfrwynen.

Ar ochr chwith eithaf y bapurfrwynen gwelwn Re wedi’i orseddu ac offrymau wedi’u gosod o’i flaen. O flaen ei fwrdd offrwm mae to pigfain y beddrod. Nid oedd beddrodau’n cael eu hadeiladu fel hyn ar ôl y Cyfnod Ramesside (1295-1069 B.C.), ond byddai wedi’i gydnabod mewn cyfnodau diweddarach. Mewn clostir o flaen y beddrod ceir rhagor o offrymau, ac i’r dde mae dau obelisg pigfain yn sefyll nesaf at ei gilydd. Mae’r rhain yn cynrychioli duw’r haul ac mewn rhai cyfnodau penodol yn hanes yr Aifft dywedid bod y duw oddi mewn iddynt. I’r dde i’r rhain ceir maen coffa â thop crwn, a fyddai â chysegriad i’r un a fu farw arno. Yna ceir ffigur sydd naill ai’n cynrychioli Anubis, y duw â phen siacal, neu offeiriad â mwgwd. Mae’n dal mymi Ankh-Hapi i dderbyn amrywiol ddefodau gan gynnwys puro, Seremoni Agor y Geg a goleuo solar.[v]

Mae mygydau Anubis wedi’u canfod, sy’n golygu bod y dehongliad mai offeiriad yn gwisgo mwgwd yw hwn yn debygol iawn. Mae un mwgwd bellach yn Amgueddfa Harrogate (HARGM.10686). Ceir un arall yn Amgueddfa Roemer Pelizaeus, Hildesheim (1585). Yn ogystal, yn Dendera ceir darlun o orymdaith o offeiriaid. Dangosir un yn gwisgo mwgwd (credir ei fod yn fwgwd am ei fod yn ymddangos yn dryloyw).[vi]

Byddai mymïau’n cael eu gosod i bwyso yn erbyn meini coffa yng nghlosydd y beddrodau a’u goleuo gan yr haul. Roedd y ddefod hon, a ddaeth yn boblogaidd yng nghyfnod y Deyrnas Newydd, yn caniatáu i belydrau solar gyflymu neu adfywio cyrff daearol. Fe’i perfformiwyd hefyd ar gerfluniau’r deml. Caiff y sentiment ei ddarlunio ar damaid o arch yn y Ganolfan Eifftaidd sydd hefyd yn tynnu ar eiconograffi Swyn 15 (gweler W648 yng nghas y tamaid o arch). Er ei bod yn bosibl fod y mymi wedi’i osod am hanner dydd, y swyn sy’n cyd-fynd yw’r emyn i’r haul sy’n codi, ac roedd y clos yn symbolaidd yn y dwyrain, felly mae’n bosibl fod y seremoni’n cael ei chynnal ar doriad gwawr.[vii]

Ceir gwraig yn galaru ar ei gliniau gerbron y mymi a’r tu ôl iddi offeiriaid yn arllwys diod-offrymau o ddŵr sy’n puro tuag ato. Roedd purdeb defodol yn hanfodol ar gyfer dod yn akh. I’r dde i’r offeiriad hwn ceir cysegrfa fach ag arni’r offer a ddefnyddid yn Seremoni Agor y Geg. Weithiau byddai’r neddyf, ar frig y pentwr, yn symbol o’r ddefod gyfan. Mae’n arwyddocaol mai’r gair am ‘neddyf’ oedd netjerty, o’r gwraidd netjer (‘duwdod’) a diben y seremoni hon oedd creu duwdod o’r mymi.[viii] Mae offeiriad yn sefyll ac yn dal dau declyn arall ar gyfer Agor y Geg i gyfeiriad y mymi.

I’r dde iddo mae offeiriad arall yn sefyll ac yn dal sgrôl wedi’i agor. Ar ei ben ceir penwisg gyda dwy bluen estrys. Hwn yw’r llëwr-offeiriad sy’n gyfrifol am lafarganu neu ddarllen testunau cysegredig ac ambell waith byddai’n gweithredu fel oracl. Llëwr-offeiriaid yn y Trydydd Cyfnod Canolradd oedd yn gwisgo’r benwisg hon ac arweiniodd at ddefnyddio’r term ‘gwisgwr adenydd’ (Groeg – pterophorus) ar gyfer yr offeiriaid.

Y tu ôl i’r llëwr-offeiriad saif offeiriad arall yn cyflwyno diod-offrymau dros fwrdd o offrymau i sicrhau bwyd i’r meirw. I’r dde eithaf ceir golygfa erchyll. Mae blaengoes llo byw yn cael ei thorri, gyda’i mam yn gwylio. A hithau’n dal yn gynnes, byddai’r goes yn cael ei chyflwyno i’r meirw, gan drosglwyddo grym ka, grym bywyd yr anifail anffodus.[ix] Gall y llo hefyd gynrychioli’r duw Seth sy’n gorfod cael ei gosbi cyn bod bywyd tragwyddol yn bosibl.

Gwerthwyd y darn penodol hwn i Henry Wellcome mewn arwerthiant yn Sotheby’s yn 1932, ar ôl bod yn nwylo casglwr anhysbys er 1830.[x]

Gallwch weld amdo prin iawn gyda rhan o Lyfr y Meirw wedi’i beintio arno yn yr oriel yn y llofft.

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â Llyfr y Meirwon yn y Ganolfan Eifftaidd

[i]Mae’r portread ar y bapurfrwyn hon fel arfer yn darlunio Llyfr y Meirw 1 yn y Deyrnas Newydd ond erbyn Cyfnod y Freinlin Hwyr a’r Cyfnod Ptolemaidd mae’r portread yn darlunio swynion 1–15.

[ii]Cyhoeddwyd gan Kate Bosse-Griffiths, ‘The Papyrus of Hapi-ankh’, Zeitschrift für Ägyptische Sprache und Alterumskunde, 123 (1996), 97–102; a M. Müller-Roth, a Weber, F., ‘Pretty Good Privacy’, yn R. Lucarelli, M. Müller-Roth a A. Wüthrich (gol.), Herausgehen am Tage. Gesammelte Schriften zum altägyptischen Totenbuch (Wiesbaden, 2012), tt. 117–18.

[iii]Ar gyfer yr Amgueddfa Brydeinig gweler EA9946. Ar gyfer eraill gweler: Norman Hurst, A Passion for the past. Historic Collections from Egypt and the Levant (Cambridge, Mass, 1997), tt. 14–16.

[iv]Jana Jones, T. F. G. Higham, R. Oldfield, T. P. O’Connor, a S. A. Buckley, 2014, ‘Evidence for Prehistoric Origins of Egyptian Mummification in Late Neolithic Burials’, PLoS ONE 9(8): e103608.

[v]Disgrifir y defodau yn TT23: Jan Assmann, Death and Salvation in Ancient Egypt, Cyfieithwyd o’r Almaeneg gan David Lorton, (Ithica and London), tt. 323–4. Ceir tystiolaeth a disgrifiadau o Seremoni Agor y Geg yn Eduard Otto, Das Ägyptische Mundöffnungsritual, (Wiesbaden, 1960). Ceir tystiolaeth am oleuo’r meirw o’r 18fed Brenhinlin: H. Kocklemann, ‘Sunshine for the Dead: On the Role and Representation of Light in the Vignette of Book of the Dead Spell 154 and Other Funerary Sources from Pharaonic to Graeco-Roman Times’ yn Richard Jasnow a Ghislaine Widmer (goln.), Illuminating Osiris: Egyptological Studies in Honor of Mark Smith (Atlanta, 2017), p. 56.

[vi] Mariette, A. 1871. Dendérah: description générale du grand temple de cette ville (Cyfrol 4): (Paris), pl. 31.

[vii]Er bod y mwyafrif o Eifftolegwyr yn credu mai defod ganol dydd oedd hon, e.e. Assmann, Death and Salvation, t. 318; John Taylor, (gol.) Journey through the afterlife. Ancient Egyptian Book of the Dead. (Llundain), t. 88.

[viii]D. Lorton, ‘The Theology of Cult Statues in Ancient Egypt’ yn M. B. Dick (gol.), Born in heaven, made on earth: The making of the cult image in the ancient Near East (Winona Lake, IN, 1999) tt. 123–201, 149.

[ix]Assmann, Death and Salvation, 324–9; N. Harrington Living with the Dead. Ancestor Worship and Mortuary Ritual in Ancient Egypt (Oxford and Oakville, 2013), tt. 14–15.

[x]Gwerthwyd y bapurfrwyn fwy o faint yn lotiau 79 ac 81 fel y dangosir yng nghatalog Arwerthiant Sotheby dyddiedig 12.12.1932, t. 10. W867 yw lot 79. Nid oedd lot 80. Roedd yr eitemau wedi’u caffael gan fonheddwr oedd yn gasglwr c. 1830.

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â Llyfr y Meirwon yn y Ganolfan Eifftaidd

 

css.php