• English
  • Cymraeg

W769 Dol Badl

W769

Prynwyd y ffigwr pren hwn ar ffurf padl gan Syr Henry Wellcome mewn arwerthiant yn Sotheby’s ym 1919.

Mae doliau tebyg i hon i’w canfod gan amlaf yn yr Aifft Uchaf. Pan fyddant yn gyflawn mae ganddynt wynebau a gwallt o linynnau o leiniau clai neu faience. Mae hon heb ei gwallt. Darganfuwyd nifer yn dyddio o ail hanner yr 11eg Frenhinllin mewn beddrodau yng nghyffiniau Deir el-Bahri ac maen nhw’n gyffredin yn Thebes. Fodd bynnag, cafwyd o leiaf ddwy mewn beddrodau cynharach yn Beni Hasan ac un yn Rifeh. Cafwyd un arall yn dyddio o’r 13eg Frenhinllin o dan y Ramesseum yn Thebes (Bourriau 1988, 126–127). Mae’r mwyafrif o’r 11eg Frenhinllin i’r Deyrnas Ganol.

Credir mai tatŵau neu sgraffiniau yw’r marciau ar y corff ac awgrymwyd mai parth y gedor wedi’i mwyhau yw gwaelod y badl. Mae’r ffaith i ddoliau o’r fath gael eu darganfod yn bennaf ym meddau menywod wedi arwain Eifftolegwyr i awgrymu mai ffigyrau ffrwythlondeb bychain ydynt wedi eu rhoi mewn beddau i sicrhau ffrwythlondeb yn y bywyd tu hwnt i’r bedd.

Mae marciau tatŵ a sgraffiniau wedi’u darganfod ar rai mymïod Eifftaidd benywaidd o’r 11eg Frenhinllin. Mae’r marciau tatŵ a sgraffiniau hyn, dotiau a llinellau haniaethol mewn patrymau geometrig, yn debyg i’r rhai a welir ar ddoliau padl. Mae rhai o’r menywod mymiedig hyn o leiaf yn offeiriadesau i Hathor.

Mae Ellen Morris wedi awgrymu mai cynrychioli dawnswyr- khener diwedd yr Hen Deyrnas i’r Deyrnas Newydd y mae’r doliau padl, a bod y doliau hyn yn gysylltiedig â Hathor.

Y mae hefyd bortreadau o fenywod o’r Deyrnas Newydd gyda marciau’r duw Bes <http://www.swan.ac.uk/egypt/infosheet/Bes.htm> ar ran uchaf eu coesau, i sicrhau ffrwythlondeb efallai. Does neb yn gwybod  ai tatŵau neu sgraffiniau neu baent corff oedd y rheiny. Yn ystod y Cyfnod Dynastig mae’n ymddangos fod sgraffinio a thatŵio wedi’u cyfyngu yn yr Aifft i fenywod. Keimer (1948) yw’r ffynhonnell orau oll os am dystiolaeth o datŵio yn yr hen Aifft.

Mae ffurf y corff wedi’i gymharu i wrthbwys cadwyn wddf Eifftaidd o’r enw menat. Awgrymwyd mai fersiynau arddulliedig yw’r ddau o gorff Hathor.

Darllen pellach

Bourriau, J. 1988, Egyptians and Mortals. Egyptian Art in the Middle Kingdom. Cambridge University Press.

Capel, A.K. and G.E.Markoe, eds., 1997. Mistress of the House Mistress of Heaven. Women in Ancient Egypt. Hudson Hills Press.

Hayes, W.C. 1953. The Sceptre of Egypt. Metropolitan Museum of Art.

Keimer, L. 1948. Remarques sur le Tatouage dans l’Egypte Ancienne. Cairo

Morris, E. Paddle 2011. Dolls and Performance in Ancient Egypt. Journal of the American Research Center in Egypt 47, 71-103.

 

Other fertility figurines in the Egypt Centre

 

css.php