• English
  • Cymraeg

W727 Palet cosmetic ‘lechen’

W727

Palet cosmetig ‘lechen’ (sgist neu leidfaen ) wedi’i chloddio o fedd 11727 ym Mostagedda yn yr Aifft Uchaf. Mae’n dyddio o Gyfnod Naqada II-III (4000 C.C. – 3100 CC). Gellir cael gwybodaeth fwy cyffredinol ar y rhain yn Needler (1984).

Byddai eitemau o’r fath wedi cael eu defnyddio i falu mineralau i wneud colur llygaid. Mae gan rai enghreifftiau olion o falachit gwyrdd, a mwyn copr. Yn y Cyfnod Dynastig Diweddar, roedd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r mineral du, galena.

Er bod dynion a menywod yn defnyddio addurn llygaid yn yr hen Aifft, mae’n ymddangos fod paletau fel hyn yn cael eu gosod yn fwy cyffredin ym meddau dynion yn hytrach na rhai menywod (e.e. Ellis 1992; Hassan a Smith 2002). Mae adroddiad cloddfa ar Mostagedda yn awgrymu i’n un ni gael ei darganfod ym medd plentyn neu fenyw (Brunton 1937, 87, pl. XLIII.7).

Roedd nifer o baletau cosmetig lleidfaen yn cael eu gwneud ar ffurf adar arddulliedig, mae enghreifftiau eraill sy’n amlwg yn adar go-iawn ac eraill sydd â nodweddion fel llygad enosodedig. Aderyn israddol yw’n un ni mwy na thebyg. Mae Hassan a Smith (2002) yn gweld cysylltiad rhwng menywod ac adar (yn ogystal â rhwng menywod a gwartheg) yn y Cyfnod Cynddynastig a hefyd yn awgrymu y gallai’r aderyn fod yn symbol o’r enaid yn y cyfnod hwn. Mae Hassan a Smith (2002, 61-63) hefyd yn tynnu sylw at yr agweddau adfywiol sy’n gysylltiedig â phaletau ac addurn wyneb yn yr hen Aifft. Fe wyddom fod y lliw gwyrdd, lliw colur llygaid yn y cyfnod hwn, yn ddiweddarach yn cael ei gysylltu gan yr hen Eifftiaid â bywyd newydd. Roedd addurn llygaid yn cael ei ddefnyddio nid yn unig i ddiogelu’r llygaid rhag yr haul ac efallai rhag clefydau’r llygaid, hefyd â chysylltiadau crefyddol. Roedd symbolaeth cosmetigau yn esbonio’r defnydd o rai paletau diweddarach, fel Palet Namer, fel symbolau o rym.

Mae gan W727, fel eraill, dwll i’w hongian ond ni wyddom ai i’w hongian o fewn annedd yr oedd ai o berson unigol.

 

Llyfryddiaeth

Brunton, G. 1937. Mostagedda and the Tasian Culture. London: Bernard Quaritch Ltd. 

Ellis, C. 1992. A statistical analysis of the protodynastic burials in the “Valley” Cemetery of Kafr Tarkhan. In E.C.M. van den Brink (ed.) The Nile Delta in Transition: 4th-3rd Millenium BC. Tel Aviv: Israel Exploration Society 241-258. 

Hassan, F.A. and Smith, S.J. 2002. Soul birds and heavenly cows: Transforming gender in Predynastic Egypt. In S.M. Nelson and M. Rosen-Ayalan (eds.) In Pursuit of Gender. Worldwide Archaeological Approaches. Walnut Creek: Altamira Press, 43-65. 

Needler, W. 1984. Predynastic and Archaic Egypt in The Brooklyn Museum, Brooklyn: Brooklyn Museum, 319-326.

More on birds in ancient Egypt

css.php