• English
  • Cymraeg

W702a cathode clap?

W702a

Gwrthrych pren ar ffurf gellygen. Darganfuwyd nifer o’r rhain ar safle anheddu Lahun a chyfeiriodd Petrie, y cloddiwr, atynt fel ‘cathod clap’. Darnau o bren tebyg i’r rhain heb lawer o ffurf arnynt yw cathod clap, a byddent yn cael eu defnyddio ym Mhrydain fel mewn mannau eraill fel teganau plant. Byddent yn cael eu defnyddio o’r 16eg ganrif o leiaf tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Byddai’r ‘gath’ (gwrthrych pren tebyg i’r enghraifft hon) yn cael ei tharo’n galed â ffon ar un o’i dau ben pigfain fel y byddai’n hedfan i fyny i’r awyr. Tra yn yr awyr byddai’n cael ei tharo eto â’r ffon. Y ‘gath’ fyddai’n teithio bellaf fyddai’n ennill. Am ei fod yn gyfarwydd ag eitemau o’r fath ym Mhrydain, credai Petrie mai ‘cathod clap’ oedd y rhai a ddarganfuwyd yn Lahun hefyd. Roedd chwaraeon cath gnap yn cael eu chwarae ym Mhrydain gan oedolion yn ogystal â phlant, weithiau am arian.

 

css.php