• English
  • Cymraeg

 

W649

Mae hyn yn un darn yn unig o’r hyn a oedd yn lliain llawn. Yn anffodus, mae’r lliain llawn wedi cael ei dorri lan, yn fwy na thebyg gan werthwr a oedd yn gobeithio cynyddu faint a werthodd. Prynwyd y darnau gan Henry Wellcome mewn arwerthiant ar 13.1.1931 (lot 314) ac a gyhoeddwyd gan Gwyn Griffiths.[i]

Mae’r lliain hwn wedi cael ei ddyddio yn seiliedig ar steil gwallt y fenyw i 140–160 OC pan fyddai dylanwadGroeg-Rufeinig yn amlwg.[ii]

Mae’r adran hon yn dangos mymi Tashay yn gorwedd ar wely ar ffurf llew gyda jariau canopig oddi tano. Mae jariau o’r fath yn gysylltiedig â Phedwar Mab Horus. Caiff Tashay ei adfywio gan y dduwies Nephthys sy’n cael ei phortreadu ar ffurf ddynol ac fel hebog sy’n arnofio uwchben yr ymadawedig. Mae’r darn yn mesur 30 x 14cm.

Roedd uniaethu’r fenyw farw â’r Osiris gwrywaidd wedi arwain at yr hyn y gellid ei ddehongli fel portreadau rhyfedd o aileni benywaidd. Er enghraifft, roedd ailrywioli Osiris yn hanfodol i aileni ac yn cael ei bortreadu fel yr Osiris wedi’i fymïo yn gorwedd ar wely wrth i Isis, ei chwaer a’i wraig, arnofio ar ffurf aderyn uwchben ei ffalws, gan ei gyffroi i fywyd. Defnyddid yr un motiff ar gyfer aileni’r fenyw, gyda’r aderyn benywaidd yn arnofio uwchben ardal yr organau cenhedlu. Mae’n bosib ei bod hi’n cynrychioli proses ddifeddwl o gopïo’r ffurf wrywaidd o aileni, neu fel arall yn awgrymu bod yn rhaid i fenywod newid rhyw i gael eu haileni.

Mae rhai Eifftolegwyr yn credu bod uniaethu ag Osiris yn golygu bod yn rhaid i fenyw golli ei rhyw cyn aileni, ond yna’n ei ailfeddiannu ar ôl cael ei haileni. [iii] Yn aml, portreadir yr unigolyn sydd wedi’i aileni â rhyw ar fyrddau mewnol y mymi ac ar waelod yr arch ar y tu allan. Mae eraill yn honni bod gormod o bwyslais ar y cysylltiad ag Osiris. Yr hyn sy’n cefnogi’r ddadl hon, o’r 6ed Brenhinlin (2345–2181 CC) ac yn gynyddol gyffredin o’r Deyrnas Ganol ymlaen, oedd bod meirwon gwrywaidd a benywaidd weithiau’n gysylltiedig â Hathor.[iv] Roedd Hathor yn eiriolydd.

Ar ran yr ymadawedig a Thestun Arch 331 o’r teitl ‘Becoming Hathor.’ Ar gerfwedd o’r 11fed Frenhinlin (2055–1985 CC) yn yr Amgueddfa Ashmoleaidd, er bod y dyn yn cael ei ‘fawrygu o flaen Osiris’, caiff y fenyw ei ‘mawrygu o flaen Hathor’.[v] Mae mwy o bortreadau o hunaniaeth fenywaidd ar eirch o’r Deyrnas Newydd hwyr ymlaen. Er enghraifft, yn ystod y Cyfnod Hwyr, roedd y fenyw ymadawedig weithiau yn gwisgo penwisg barcutgi, a oedd yn draddodiadol ar gyfer breninesau’n unig.[vi]

Daeth y cysylltiad benywaidd â Hathor yn enwedig o amlwg mewn testun o’r Bedwaredd Ganrif CC. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddid mwy o anrhydedd i’r fenyw am greu’r plentyn ac yr oedd offer claddu menywod yn yr Hen Deyrnas wedi cael eu hesgeuluso yn bennaf gan gladdiadau gwrywaidd, ond o’r Cyfnod Ptolemaidd, roedd mwy o offer claddu a wnaed yn benodol i fenywod.[vii] Mae gan y Ganolfan Eifftaidd ddarnau o liain Ptolemaidd sy’n portreadu’r ymadawedig fel Hathor yn hytrach nag Osiris (EC175 ac EC176).

[i]G Griffiths, ‘Eight Funerary Paintings with Judgement Scenes in Swansea Wellcome Museum’, Journal of Egyptian Archaeology 68 (1982), 228–52. Mae rhan arall o’r lliain wedi cael ei nodi’n ddiweddar a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir.

[ii]Christina Riggs, ‘Art and identity in the Egyptian funerary tradition, c. 100 BC to AD 300’ (traethawd D.Phil. heb ei gyhoeddi, Rhydychen: Cyfadran Astudiaethau Dwyreiniol, Prifysgol Rhydychen, 2001), t. 262.

[iii]K. Cooney, ‘The Fragmentation of the Female: Re-gendered Funerary Equipment as a Means of Rebirth’, yn C. Graves-Brown, C. (gol.), Sex and gender in ancient Egypt: ‘don your wig for a joyful hour’ (Abertawe, 2008), tt. 1–25; K. Cooney, ‘Where does the Masculine Begin and the Feminine End? The Merging of the Two Genders in Egyptian Coffins during the Ramesside Period’, yn Heininger, B. (gol.), Ehrenmord und Emanzipation: Die Geschlechterfrage in Ritualen von Parallelgesellschaften, Geschlecht – Symbol – Religion (Münster, 2009), tt. 99–124.

[iv]Smith Yn dilyn Osiris, tudalennau 158–9, 213–5, 267.

[v]Riggs, Beautiful Burial, t. 43-4.

[vi]J. Taylor, ‘The vulture headdress and other indications of gender on women’s coffins of the 1st millennium BC’, yn A. Amenta a H. Guichard (golygyddion), Proceedings of the First Vatican Coffin Conference 12-22 Mehefin 2013 cyfrol 2, (Vatican, 2017), t. 541–56.

[vii]Darnell, Enigmatic Netherworld Books, t. 452 troednodyn 7; Riggs, Beautiful Burial, t. 34, 41–94; Smith, Traversing Eternity, troednodyn 27.

 

Other pieces of Tashay’s shroud:

W650 (similar image to W649)

 

css.php