• English
  • Cymraeg

 

 

W5367

Mae’r pot hwn wedi’i wneud o glai marl ac mae’n mesur 94cm wrth ei ddiamedr lletaf. Defnyddiwyd clai marl a gafwyd ar ymyl yr anialwch a dan y cnydau ger yr anialwch.

Dyma bowlen bwt ag ymyl mewndro ac addurn wedi’i endorri. Mae arddull y llestr yn awgrymu ei fod yn dyddio o’r Ail Gyfnod Canol.

Mae’r ffaith nad oes gan y llestri hyn waelod gwastad yn dangos eu bod naill ai wedi’u rhoi mewn dalwyr potiau, eu hongian â rhwyd neu eu rhoi yn y tywod i aros yn unionsyth. Yn anffodus, nid ydym yn gwybod beth oedd ynddynt. Gan eu bod yn eithaf bach, roeddent fwy na thebyg yn dal rhywbeth drud.

Mae 4 twll o amgylch yr ymyl a allai fod i hongian y pot neu i glymu clawr iddo.

Roedd yr eitem hon yn rhan o gasgliad Rustafjaell a brynwyd gan Wellcome ym 1906.

Am enghreifftiau tebyg gweler: UC18385 a Bourriau (1981, 58, rhifau 100-102). Mae addurn wedi’i endorri fel hwn yn gyffredin ar grochenwaith yr Ail Gyfnod Canol. Am enghreifftiau gweler Brunton (1937 pl. 74) a Brunton (1926 11, pls. xii-xv).

Llestri eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Other Second Intermediate Period items

Darllen Pellach

Arnold, D. a Bourriau, J. (gol.) 1993, An Introduction to Ancient Egyptian Pottery. Mainz: Philipp von Zabern. 

Bourriau, J. 1981. Umm el-Ga’ab. Pottery from the Nile Valley Before the Arab Conquest. Caergrawnt: Fitzwilliam Museum.

Bourriau, J., Nicholson. P. a Rose, P. 2000. Pottery yn Nicholson, P.T. a Shaw, I. (gol.) Ancient Egyptian Materials and Technology, Caergrawnt: Cambridge University Press, 121-147.

Brunton, G. 1926. Qau and Badari III. Llundain: British School of Archaeology in Egypt.

Brunton, G. 1937. Mostagedda and the Tasian Culture. Llundain: B Quaritch.

Hope, Colin, 1987. Egyptian Pottery. Princes: Risborough: Shire.

 

css.php