• English
  • Cymraeg

W2052 Bed Legs showing Bes and Taweret

W2052a

Prynodd Syr Henry Wellcome y ddwy goes wely hon ym 1906 o gasgliad Robert de Rustafjaell.[i] Maent wedi’u creu o bren, eu gorchuddio â phlastr a’u paentio. Mae’r ddwy ohonynt yn portreadu nadroedd. Mae eu tebygrwydd yn awgrymu bod y ddwy ohonynt yn dod o’r un eitem o ddodrefn. Mae un yn dangos Bes, o’r blaen, ond mae’r darn lle dylai’r pen fod wedi’i ddifrodi. Mae’r llall yn dangos hipopotamws yn sefyll, o’r ochr a heb benwisg. Mae’n bosib bod gan yr hipo olion crocodeil ar ei gefn, er ei bod hi’n anodd bod yn siŵr. Mae gan goes yr hipopotamws uchder o 23.7cm a choes wely Bes uchder o 24.2cm. Mae ‘Akhmim’ wedi’i nodi mewn pensil glas ar un ohonynt, gan awgrymu iddi ddod o’r ardal hon.[ii]

W2052b

Nid yw’r dyddiad creu yn hysbys, er i’r cysylltiad rhwng Bes a’r daemon hipopotamws ddechrau yn ystod y Deyrnas Ganolog pan ymddangosai’r ddau ar ffyn y Deyrnas Ganolog ac ar fricsen geni Abydos (t. 00–00). Mae’r arddull yn gyson â choesau gwely o Oes Ramesses.[iii] Mae hefyd olion o Bes o dduwdod hipopotamws ar flwch o’r Drydedd Frenhiniaeth ar Ddeg (1795 – tua 1725 CC).[iv] Mae portreadau o’r pâr o’r Deyrnas Newydd mewn cysylltiad â gwelyau yn nodwedd o olygfeydd o enedigaeth ddwyfol o Hatshepsut yn Deir el -Bahri ac Amenhotop III yn Lucsor.[v] Mae hefyd enghreifftiau ar ostraca o’r Deyrnas Newydd.[vi] Nid wyf yn ymwybodol o enghreifftiau o’r ddau gyda’i gilydd ar welyau go iawn, ond maent yn ymddangos ar y cyd ar gadeiriau merch y brenin, Satamun, tua’r flwyddyn 1375 CC.[vii] O tua’r flwyddyn 1750 CC ymlaen, mae Bes a hipopotamysau yn ymddangos gyda’i gilydd ar ategion pen.[viii] Yn yr holl enghreifftiau o’r Deyrnas Newydd a hwyrach lle mae’r ddau yn ymddangos gyda’i gilydd, nid enwir yr hipopotamws ac nid oes ganddo benwisg gwahaniaethol.

Mae coesau gwely’r Ganolfan Eifftaidd, fel llawer ohonynt, ar ffurf coesau llew. Fel yr oedd y llew yn gysylltiedig yn symbolaidd ag aileni’r haul, roedd gwely ar ffurf llew yn annog deffroad iachol ar ôl cysgu. I amddiffyn eu hunain rhag bygythiadau gyda’r nos, byddai’r Eifftiaid yn galw duwdodau megis Bes a’r hipopotamws. Mae’r cysylltiad nos yn awgrymu y byddai Ipet wedi bod yn benodol o briodol. Fodd bynnag, mae ategion pen, a oedd hefyd yn gysylltiedig ag amddiffyn, yn solar. Mae eu ffurf, ynghyd â phen yr un sy’n cysgu, yn cynrychioli’r haul yn codi ar y gorwel.[ix]

Fel arall, gall y coesau hyn fod o wely angladdol yn unig, ac mae sawl enghraifft hysbys o’r rhain. Ar stela, dangosir gwelyau llew yn cefnogi corff yr ymadawedig. Ceir amwledau ac ategion pen Bes wedi’u haddurno â ffigyrau eu darganfod mewn beddau o’r Deyrnas Newydd, er nad yw bob amser yn glir a gawsant eu defnyddio ar un adeg fel dodrefn mewn bywyd go iawn neu a oeddent fel arfer yn cael eu gwneud ar gyfer y bedd yn benodol. Mae tystiolaeth ar gyfer rôl bwysig i Bes yn y y Cyfnod Hwyr ac erbyn y Cyfnod Ptolemiaidd, roedd yn adnabyddus am fod yn amddiffynnydd y meirwon. [x] Mae cysylltiadau angladdol Ipet yn hysbys iawn o Destunau’r Pyramid, lle mae’n amddiffyn ac yn rhoi’r fron i’r brenin wedi’i aileni, yn union fel y byddai Taweret yn ei wneud yn hwyrach i Horemheb.[xi] Roedd Ipet yn benodol yn gysylltiedig ag adfywio Osiris yn awyr y nos ac, felly aileni, tra bod Taweret yn gysylltiedig â geni, ac felly aileni.

Mae bosib y gallai’r coesau hyn fod yn rhan o ‘wely menyw’ ar gyfer geni babi a/neu orffwys ar ôl genedigaeth. Mae Bes, Taweret a nadroedd, fel y dengys coesau gwely’r Ganolfan Eifftaidd, oll yn gysylltiedig â genedigaeth. Yn Deir el-Medina’r Deyrnas Newydd, mae’n debyg bod ‘gwelyau menywod’ wedi’u haddurno (wedi’u paentio?) wedi’u prynu ynghyd ag amwledau geni.[xii]

Yn anffodus, nid ydym yn gwybod sut welyau oedd y rhain. Fel arfer, mae Ostraca yn dangos menywod sy’n rhoi llaeth yn eistedd ar stolau, er bod o leiaf un portread o wely.[xiii] Yn aml, mae taglys yn y cefndir, ac weithiau portreadir nadroedd.[xiv] Efallai bydd portread o fenywod yn cael eu gwallt wedi’u trin ac efallai y bydd drych yn amlwg. Mae golygfeydd yn ymddangos yn ystafelloedd blaen rhai o’r tai yn Deir el-Medina. Efallai y bydd y golygfeydd hyn hefyd yn nodi rhyw ardal arbennig i fenywod yn dilyn geni babi neu er mwyn adfer yn dilyn hynny, sef deildai geni’ neu ‘siambrau mamolaeth’.[xv] Mae hefyd fodelau o welyau clai sy’n dangos menywod, weithiau gyda phlentyn.[xvi] Ar y modelau clai, efallai y bydd coesau’r gwely yn cymryd ffurf Bes. Yn yr un modd â golygfeydd ‘deildai geni’, portreadir nadroedd. Fodd bynnag, un gwely maint llawn a chyflawn yn unig sy’n bodoli sy’n portreadu nadroedd, o fedd Iyeferti a’i gŵr Sennedjem (TT1 1). Dyma ddau neidr wedi’u paentio ar ffrâm y gwely, un ar bob ochr. Gellid tybio bod y neidr yn amddiffynnol. Er y dywedid bod cobraod yn amddiffyn pobl yn cysgu, nid oes gan y nadroedd a bortreadir mewn golygfeydd geni ac ar y coesau gwely hyn, ac ar wely TT 1, gwcwll cobra.[xvii] Yn y golygfeydd deildy geni, nodwyd y neidr i fod yn neidr ffrwythlondeb amddiffynnol gan Brunner-Traut.[xviii]

Felly, gallai’r hipopotamws ar goesau’r gwely fod yn Ipet yn awyr y nos, yn Taweret yn yr awyr heulog neu efallai hyd yn oed yn gyfuniad o’r ddwy. Gallai’r gwely fod yn wely menyw neu’n wely angladdol yn unig. Os yw’n wely angladdol, y tebygrwydd yw mai Ipet yw’r hipopotamws. Dylem hefyd gofio bod tebygrwydd rhwng geni ac aileni, ac felly dylid disgwyl i’r demoniaid fod yn debyg yn y ddau gyd-destun.[xix]

[i]Catalog gwerthu Sotheby Catalog Casgliad o Henebion Eifftaidd a grëwyd yn yr Aifft gan R. de Rustafjaell, Ysw. 19fed Rhagfyr 1906, a’r ddau ddiwrnod dilynol, lot 152.

[ii]Ni allwn fod yn sicr pwy a nododd ‘Akhmim’ arnynt, er bod nodiadau mewn pensil glas ar sawl gwrthrych Wellcome sydd bellach mewn amgueddfeydd eraill.

[iii]Killen type BDg Geoffrey Killen, Ancient Egyptian Furniture Volume III, Ramesside Furniture (Rhydychen, 2017), t. 53.

[iv]Flinders Petrie, Gizeh and Rifeh (Llundain, 1907), t. 24.

[v]Trafodir genedigaeth ddwyfol yn M. Rikala, ‘Sacred marriage in the New Kingdom of ancient Egypt: Circumstantial evidence for a ritual interpretation’, yn M. Nissinen a R. Uro (golygyddion), Sacred Marriages. The Divine-Human Sexual Metaphor from Sumer to Early Christianity (Winona Lake, 2008) 115–44.

[vi] Er enghraifft, Deir el-Medinah 2340 (gweler Raven, M. Women’s beds from Deir el-Medina, yn: B. Haring/O. Kaper/R. van Walsem (gol.), The workman’s progress, Studies in the village of Deir el-Medina and documents from western Thebes in honour of Rob Demarée (Egyptologische Uitgaven 28, Leiden/Leuven, 2014), 191–204.

[vii]Quirke, Exploring Religion in Ancient Egypt (Chichester, 2015), t. 189.

[viii]Quirke, Exploring Religion, t. 190.

[ix]B. R. Hellinckx, ‘The symbolic assimilation of head and sun as expressed by headrests’, Studien zur Altägyptischen Kultur, (2001), t. 29–95.

[x]D. Frankfurter, ‘Ritual expertise in Roman Egypt and the Problem of the category ‘magician’’, yn P. Schäfer a H. G. Kippenberg (golygyddion), Envisioning Magic. A Princeton Seminar and Symposium (Leiden, 1997), t. 124. Am rolau angladdol Bes, gweler: L. Kákosy, ‘Der Gott Bes in einer koptischen Legende’, Acta Antique Academiae Scientiarum Hungaricia, 14 (1966), 193–4. Dasen, Dwarfs, t. 47 sy’n trafod rôl angladdol corrach dienw ar ffurf llew a rôl angladdol Bes.

[xi]Testunau’r Pyramid, 381.

[xii]Jaana Toivari-Viitala, Women at Deir el-Medina. A Study of the Status and Roles of the Female Inhabitants at the Workmen’s Community During the Ramesside Period (Leiden, 2001), t. 178.

[xiii]Ar gyfer y portread o wely, gweler Ostraca Medelhavsmuseet MM14 005.

[xiv]Ar gyfer ostraca gyda mamau sy’n rhoi llaeth, gweler EA8506 yr Amgueddfa Brydeinig lle mae portread o stôl.

[xv]Er y gelwir y rhain yn ‘ddeildai geni’, portreadir y menywod yn hynod rywiol, sy’n awgrymu bod y deilai yn gweithredu fel mwy nag ardal orffwys yn unig: Lynn Meskell, Archaeologies of Social Life (Rhydychen, 1999), t. 100–2.

[xvi]G. Pinch, ‘Childbirth and Female Figurines at Deir el-Medina and el-Amarna’, Orientalia, 52 (1983), t. 406, pl. 5.

[xvii]Ar gyfer cobraod yn amddiffyn yn erbyn peryglon gyda’r nos, gweler: Szpakowska, Behind Closed Eyes, t. 170–1.

[xviii]E. Brunner-Traut, ‘Die Wochenlaube’, Mitteilungen des Instituts für Orientforschung, 3 (1955), t. 24. Yn ogystal, gall nadroedd sy’n gysylltiedig â Bes fod yn amddiffynnol. Mae Willems yn awgrymu y gallai’r nadroedd y mae Bes (neu, yn hytrach Aha) yn eu dal fod yn nadroedd amddiffynnol mewn gwirionedd: Willems, coffin of Heqata, t. 129, troednodyn 546. Mae Willems yn dyfynnu cyhoeddiad Berlandini o wely sy’n dangos Osiris yn cyplu gyda menyw: J. Berlandini, ‘L’ “acéphale” et le rituel de revirilisation’ Oudheidkundige mededeelingen van het Rijksmuseum van Oudheden te Leiden 73 (1993), 29–37. Mae gwely Osiris yn cael ei warchod gan ffigwr Bes sy’n dal dwy neidr. Mae nadroedd yn amddiffyn yn erbyn all-lifiadau corff Osiris. Yn wir, mae sawl demon amddiffynnol yn dal nadroedd (gweler y gyfrol hon t. 00-00 ar gyfer enghraifft o’r ‘Fenyw sy’n Cofleidio’).

[xix]Ar gyfer siambrau geni sy’n gysylltiedig â geni ac aileni, gweler: Dorothea Arnold, The Royal Women of Amarna. Images of Beauty from Ancient Egypt (Efrog Newydd, 1996), t. 100.

 

Darllen Pellach  

Brunner-Traut, E. Die Wochenlaube, Mittelilingen des Instituts für Orientforschung, 3, 11-30.

Graves-Brown, C. 2010. Dancing for Hathor, Women in Ancient Egypt. New York and London.

Killen, G., 1980-1984. Egyptian Furniture. 2 volumes. Warminster. 

Pinch, G., 1983. Childbirth and Female Figurines at Deir el-Medina and el-Amarna, Orientalia, 52, 405-414. 

Toivari-Viitala, J., 2001. Women at Deir el-Medina. A Study of the Status and Roles of the Female Inhabitants at the Workmen’s Community During the Ramesside Period. Leiden.

css.php