• English
  • Cymraeg

Tasa

w2036

Mae’r llestr hwn wedi’i wneud o drafertin ac mae tua 5.2cm o uchder. Yn aml, gelwir y math hwn o lestr yn dasa (lluosog tasâu). Ymddengys y gwrthrychau hyn yn yr Aifft yn ystod teyrnasiad Thutmose III, er y credir eu bod yn gopïau o enghreifftiau tramor, o Syria efallai. Mae’r siâp yn awgrymu eu bod wedi’u seilio’n wreiddiol ar enghreifftiau metel. Gwnaed enghreifftiau cynnar mewn dau ddarn, gyda’r droed a’r bowlen ar wahân. Un darn yn unig yw’r enghraifft hon.

Ym Meddrod y Ddau Gerflunydd (Davies 1925, pls. 5, 6, 7) caiff tasâu mawr eu cludo gan weision er mwyn darparu eneiniau ac olew i westeion, gyda’r gwesteion yn dal enghreifftiau llai. Hefyd, ceir enghreifftiau ohonynt yn cael eu defnyddio o bosibl i gynnig gwin i’r meirwon. Dywed Pliny fod eneiniau’n cadw ar eu gorau mewn cynwysyddion trafertin (Manniche 1989, 56). Byddai eitem o’r fath wedi bod yn werthfawr.

Yn wreiddiol, roedd yr enghraifft hon yn rhan o gasgliad Arglwydd Aberdâr, a drosglwyddwyd o Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Andrews, C.A.R. a van Dijk, J. (gol.), 2006. Objects for Eternity. Egyptian Antiquities from the W Arnold Meijer Collection. Mainz.

Brovarski, E., Doll, S.K., a Freed, R. E. (gol.), 1982. Egypt‘s Golden Age: The Art of Living in the New Kingdom 1558-1085 BC. Boston t 129.

Davies, N. de G. 1925. The Tomb of the Two Sculptors at Thebes. Efrog Newydd.

Manniche, L. 1989. An Ancient Egyptian Herbal. Llundain: British Museum Press.

 

 

 

css.php