• English
  • Cymraeg

 

w1702

Tamaid o grochenwaith, yn ôl pob tebyg o Deir el-Medina, yn dangos Bes (ysgrifennir ‘Deir el Medina’ mewn glas ar y cefn). 9.5cm o uchder gydag olion paent glas. Yn ôl pob tebyg, roedd llestri o’r fath yn cynnwys gwin neu laeth. Y Deyrnas Newydd. 9.5 x 3.5 x 8.2cm.

Caiff y term ‘Bes’ ei ddefnyddio ar gyfer nifer o dduwiau o’r Deyrnas Ganol ymlaen. Mae’r duwiau hyn yn tueddu i fod â nodweddion llewod a chaent eu cysylltu â duw’r haul. Ymddengys hefyd eu bod wedi gwarchod merched a phlant. I gael mwy o wybodaeth a chyfeiriadau pellach gweler Anna Stevens 2006 ‘Private Religion at Amarna’, BAR International Series 1587, 31-34. Fel yn y fan hon, yn aml dangosir Bes fel duw bychan, gyda’i dafod allan a mwng fel llew.

I gael gwybodaeth am lestri Bes ceramig gweler Kaiser, R.K. 2003 ‘Water, Milk, Beer and Wine for the Living and the Dead: Egyptian and Syrio Palestinian Bes-Vessels from the New Kingdom through the Graeco Roman period’, Traethawd doethuriaeth heb ei gyhoeddi, Prifysgol California.

Other Bes vessels

css.php