• English
  • Cymraeg

W1312 Shabti yn perthyn i’r Cadfridog Ankhwahibre-sa-net

W1312

Shabti yn perthyn i gadfridog enwog o’r Aifft. Roedd shabtis yn dirprwyo ar ran eu perchnogion a hyd yn oed yn gwneud gwaith ar eu rhan yn y bywyd nesaf. Mae’r swyn ar y shabti hwn yn dod o Swyn 6 yn Llyfr y Meirw, sy’n gofyn i’r shabti wneud gwaith i’r perchennog.

Shabti sy’n eiddo i’r Cadfridog Ankhwahibre-sa-Net o’r 26ain Frenhinlin hwyr yw hwn. Mae ei feddrod yn Saqqara ar safle’r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn fynachlog Apa Jeremias. Pan ddadorchuddiwyd y beddrod gan Quibell ddechrau’r 20fed ganrif, dadorchuddiwyd 384 shabti o’r Cadfridog. Maent bellach i’w canfod ym mhedwar ban byd. Daeth y shabti hwn atom ni o’r Amgueddfa Brydeinig yn 1980.

Ar gefn y shabti ceir y geiriau Y goleuedig un, yr Osiris, Cadfridog y Fyddin, Ankh-wah-ib-Re-Sa-Net, a anwyd o Isis-Mry. Aiff yr arysgrif yn ei flaen ar y blaen gyda fersiwn o bennod 6 Llyfr y Meirw, gyda’r geiriau: O ti ushabti, os oes un yn fy nghyfrif i wneud unrhyw waith sydd i’w wneud yn y necropolis, pan fydd rhwystrau wedi’u gosod yno, fel dyn yn unol â’i ddyletswyddau, ‘Wele fi!’- dyna a ddywedi. Os wyt ti’n fy asesu ar unrhyw adeg i weithredu yno, i wneud y caeau’n âr, i orlifo’r glannau, i symud y tywod o’r Gorllewin i’r Dwyrain, ‘Wele fi!’- dyna a ddywedi.

Mae’r teitl ‘Goleuedig Un’ yn ymddangos o ddiwedd yr Ail Gyfnod Canolradd. Ystyrid bod y meirw’n sgleinio, fel y duwiau. Gelwir y perchennog ‘Yr Osiris’ oherwydd yr ystyrid bod cyswllt yn ffurfio rhwng y meirw a duw’r meirw, Osiris. Yn yr Hen Deyrnas, dim ond y Brenin a fyddai’n dod yn Osiris, ond ar ôl y cyfnod hwn cysylltid yr holl feirwon ‘a gyfiawnhawyd’ â’r duw hwn. Defnyddir y gair ‘ushabti’ yma yn hytrach na ‘shabti’. Defnyddir y term hwn yn fwy cyffredin yn y Trydydd Cyfnod Canolradd.

O’r Trydydd Cyfnod Canolradd ymlaen, gwnaed shabtis mewn mowldiau a’u cynhyrchu mewn niferoedd mawr. Yn aml iawn byddai un ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn debygol o fod yn wir gyda shabtis y Cadfridog.

Mae’r piler cefn a’r pedestal, y farf blethedig a’r wig dridarn heb ffiled ar y shabti hwn yn nodweddion sy’n awgrymu iddo gael ei greu yn ystod y 26ain Frenhinlin neu’n ddiweddarach. Yn nwylo’r shabti ceir hof a chaib ac mae’n cludo basged ar ei gefn. Rhoddir offer i’r shabtis am y tro cyntaf yn y 18fed Frenhinlin a chynhwysir ceibiau yn y Cyfnod Hwyr. Yn y 26ain Frenhinlin hefyd, fel arfer gosodir arysgrifau o swyn y shabti (pennod 6 Llyfr y Meirw) mewn llinellau llorweddol o gwmpas y corff, gyda thestun byrrach ar y cefn yn cynnwys yr enw a’r teulu. Canfuwyd y rhan fwyaf o’r shabtis hwyr hyn yng ngogledd yr Aifft.

Cadfridog ym myddin yr Aifft oedd Ankhwahibre o ddeutu 570BC. Roedd hwn yn gyfnod o anhrefn yn yr Aifft gyda miwtini yn Elephantine a rhyfel yn erbyn y Groegiaid Doraidd. Gorchfygwyd brenin yr Aifft, Apries, gan y Groegiaid Doraidd a phan ddychwelodd i’r Aifft cafwyd rhyfel rhwng byddin yr Aifft a hurfilwyr tramor. Roedd angen arweinydd cryf a chymerodd y Cadfridog Amasis, cydweithiwr i Ankhwahibre, yr awenau, gan lywodraethu am 44 o flynyddoedd.

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Cyfeiriadau

Aubert, J-F., 1974. Statuettes Égyptiennes. Chaoubtis, Ouchebtis. 

Châban, M. Annales Du Service Des Antiquités De L’Égypte. 1917, 177-182. 

Schneider, H.D., 1977. Shabtis. An Introduction To The History Of Ancient Egyptian Funerary Statuettes With A Catalogue Of The Shabtis In The National Museum Of Antiquities at Leiden. Vol II.  

Taylor, J.H.,2001. Death and The Afterlife in Ancient Egypt.

 

css.php