• English
  • Cymraeg

W1288

Jar a chanddi handlen a throed gron ac addurn rhiciog ar ffurf dotiau. O’r Ail Gyfnod Canol. Dyma grochenwaith Tell el Yahudiyeh. Cafodd y math hwn o grochenwaith ei enwi gan Flinders Petrie ar ôl iddo ddod o hyd iddo am y tro cyntaf ar safle Tell el Yahudiyeh.

Cafodd y math yma o jwg fach ei henwi ar ôl safle yn y Delta dwyreiniol, oddeutu 20 cilometr i’r gogledd-ddwyrain o Gairo. Fodd bynnag, maen nhw i’w cael hefyd yng Nghyprus, ym Mhalesteina ac yn Nubia, ac yn aml maen nhw’n cael eu cysylltu gyda’r Hycsos. Cred Maureen Kaplan mai enghreifftiau o’r Aifft yw’r rhai cynharaf, er bod eraill yn credu eu bod yn tarddu o Balesteina. Cânt eu gwneud yn yr Aifft a hefyd yn y Dwyreindir.

Mae rhai wedi awgrymu bod eitemau o’r fath yn cael eu masnachu, naill ai ar gyfer yr eitemau eu hunain neu fel llestr i ddal sylweddau a gâi eu masnachu. Mae’r ffaith fod amrywiadau rhanbarthol a thymhorol i’w cael yn awgrymu na châi’r eitemau eu hunain eu masnachu. Awgryma dadansoddiad cemegol eu bod yn cynnwys olion olew anifeiliaid ac olew llysiau. Mae’r ffaith fod y jariau hyn yn fach yn awgrymu bod y deunydd a fyddai’n cael ei gadw ynddynt yn werthfawr iawn – olewau persawr, efallai.

Fel arfer mae llestri o’r fath i’w cael ar ffurf jygiau bach, er y gwyddom am ffurfiau eraill, fel rhai ar ffurf anifeiliaid. Fel arfer, câi’r llestri eu gwneud ag olwyn (mae Bourriau wedi dod o hyd i enghreifftiau Eifftaidd wedi eu gwneud â llaw) a’u haddurno trwy bigo tyllau yn y clai a’u llenwi â chlai gwyn neu sialc. Yna, câi’r twll ei gaboli.

Prynwyd yr eitem gan Wellcome yng ngwerthiant MacGregor 1922.

Darllen Pellach

Bourriau, J. 1981, Umm El-Ga’ab Pottery From the Nile Valley Before the Arab Conquest. Caergrawnt, 41-43.

Kaplan, M. F. 1980, The Origin and Distribution of Tell el-Yehudiyeh Ware, [Studies in Mediterranean Archaeology 42], Göteborg: Paul Åström.

Maquire, L.C. 1995. Tell el-Dab’a. The Cypriot connection. Yn gol. W.V. Davies a L. Schofield. Egypt, the Aegean and the Levant. Interconnections in the Second Millennium BC. Llundain: British Museum Press, 54–65.

Llestri eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Other Second Intermediate Period items

css.php