• English
  • Cymraeg

w1156

Rhan uchaf crogdlws faience (mae’r rhan isaf ar goll). Mae’r eitem hon yn dod o Amarna ac fe’i rhoddwyd i ni gan yr Amgueddfa Brydeinig. Daeth gydag eitemau eraill o gloddio EES yn Amarna. Mae’r ffigwr yn gwisgo coler trwm.

Cafodd ei gatalogio’n wreiddiol fel pen carcharor ac yn hwyrach fel pen Bes. Mae amwledau â phen Bes a phen carcharorion wedi cael eu darganfod yn Amarna. Yn ogystal, mae’n ymddangos bod gan rai portreadau o Bes sy’n deillio o Amarna ben sy’n edrych fel carcharorion Syriaidd (Stevens 2006, 32 ffig. 11.2.2 no.30/784). Mae eitem a ddisgrifiwyd fel pen Bes yn yr adroddiad cloddio (Frankfort a Pendlebury 1933, 58) wedi’i ddisgrifio fel Syriad yng nghronfa ddata Amarna (gweler darllen pellach). Gellir gweld pen tebyg iawn yn Frankfort a Pendlebury (1933, 30, pl. XXIX, 1). Mae’n amlwg bod yr un hynny’n Bes. Mae un arall ar ffurf corff llawn, sy’n dal ei gynffon mewn ffordd sy’n nodweddiadol o Bes yn Peet a Wooley (1923 pl. XIII.2) sy’n dod o’r Brif Ddinas.

Yng Nghyfnod Amarna, mae’n debyg y bu amrywio o ran portreadu Bes.

Further reading: 

Peet, T.E. and Woolley, C.L. 1923. The City of Akhenaten I. Excavations of 1921 and 1922 at El-Amarneh. London: The Egypt Exploration Society.

Frankfort, H. and Pendlebury, J.D.S. 1933. The City of Akhenaten Part II. The North Suburbs and Desert Altars. The Excavations at Tell el-Amarna During the Seasons 1926-1932. London: Egypt Exploration Society.

Amarna database http://www.amarnaproject.com/images/recent_projects/material_culture/amarna_object_database.xls

Stevens, A., 2006. Private Religion at Amarna. BAR International Series 1587. The Material Evidence. Oxford: Archeopress.

Other Amarna objects in the Egypt Centre

Bes

css.php