• English
  • Cymraeg

 


 w1155a

Mae W1155a yn fodrwy fesel faience (sef rhan addurniadol y fodrwy), a gedwir yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’n ymddangos ei bod hi’n deillio o’r Amgueddfa Brydeinig ym 1978 gyda bocs o fodrwyon besel o Amarna, y mae un ohonynt yn cynnwys besel o ganwr liwt (Bosse-Griffiths 1980). Yn ôl pob tebyg, mae’n dangos gasél.

Mae’n debyg iawn i’r hyn a gyhoeddwyd yn Frankfort a Pendelbury (1933, 115, pl. XLIX I.D.II), ac yn wir, mae ei nodweddion anarferol yn ei gwneud hi’n debygol mai dyma’r union fesel. Mae besel tebyg wedi’i restru fel un o’r ‘Neuadd Goroni’ (‘Neuadd Smenkare’) i dde-orllewin Plasty Mawr y Ddinas Ganolog (Dinas Akhenaten III, 85.

Ond beth yw e? Cafodd ei gatalogio’n wreiddiol fel neidr gantroed. Gellir gweld y tebygrwydd i neidr gantroed os ydych chi’n dal yr arteffact â’i ben i waered. Fodd bynnag, y ffordd hon mae’n edrych mwy fel draenog gyda phedair coes a dwy glust hir. Mae hyd y coesau’n debyg i’r hyn a bortreadir ar rai amwledau (e.e. Andrews 1994, ffig. 54).

Nid oes yr un besel draenog arall wedi’i restru yn naill ai Pendlebury (1933) na Frankfort a Pendlebury (1951). Mae’n annhebygol iddo gael ei gloddio cyn 1926 gan ei fod wedi’i restru fel ‘math newydd’ yn Frankfort a Pendlebury (1933, 155). Mae Stevens (2006, 859) yn trafod yn fras sgaraboid draenog a gyhoeddwyd gan Petrie (1894, pl. XV.152) o Amarna.

Yr astudiaeth gyhoeddedig fwyaf helaeth o’r draenog yn yr Hen Aifft yw honno gan von Droste zu Hülshoff, V (1980). Mae’r draenog yn ymddangos mewn cerfweddau beddau’r Hen Deyrnas mewn golygfeydd o’r anialwch, fel pennau ar gychod solar, fel offrymau ac mae hefyd lestri clai ar ffurf draenogod. O’r Deyrnas Ganol, mae’r draenog yn ymddangos ar amwledau sgaraboid ac yn hwyrach yn yr aryballoi enwog sy’n rhan o lawer o gasgliadau Eifftaidd ac mae’n debyg y caent eu hallforio i bob rhan o fyd y Canoldir (gweler Webb 1975 am drafodaeth lawn am yr eitemau hyn). Mae ganddo arwyddocâd solar (fel y dengys y portreadau ar gychod solar), ac mae’n amddiffynnol gan ymosod ar anifeiliaid ‘drwg’ fel nadroedd. Mae ei allu i oroesi’r anialwch hefyd yn rhoi nodweddion amddiffynnol iddo. Mae draenogod wedi’u cynnwys mewn ryseitiau P. Ebers o’r Deyrnas Newydd a dogfennau meddygol eraill ac mae’r draenog yn symbol o’r dduwies Iusaâs/ Âbâs o Werddon Bahariya. Mae bosib y defnyddid draenogod fel offrymau yn nhymor peret fel symbol o atgyfodiad, neu fel ffordd o amddiffyn yr heuldduw.

Yn olaf, mae Aufrère ac Erroux-Morfin (2001) yn amlinellu awgrym bod arybeli draenogod o’r Cyfnod Hwyr (mae’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r 26ain Frenhinlin ac mae’n debyg y caent eu prynu o Naukratis) wedi cynnwys darnau o bigau draenogod a darnau eraill o’u cyrff, a ddefnyddid fel triniaeth ar gyfer colli gwallt. Nid yn unig mae triniaethau o’r fath i’w canfod yn nhestunau’r Hen Aifft, maent yn parhau mewn ryseitiau dwyreiniol amrywiol heddiw hefyd.

Fodd bynnag, os ydych chi’n eu hystyried o safbwynt arall, mae’n bosib mai gasél a wnaed yn wael yw’r gwrthrych, a bod ‘pigau’ y draenog yn gangen palmwydden sy’n cynrychioli rnp mewn gwirionedd, gyda’r ystyr o ifanc sy’n awgrymu newydd-deb a hoen. Fel y dywed Strandberg (2009, 158-159), mae’r gasél yn symbol benywaidd merch-solar, yn ogystal â symbol o adfywiad. Dengys gaseliaid mewn cysylltiad â’r tywysogesau brenhinol yn Amarna, o bosib fel anifeiliaid anwes. Mae’n bosib bod portread ohonynt ar waliau bedd Meryre II (Davies 1905, 39, pl. XXXVII; Strandberg 2009, 30). Mae modrwyon besel ar ffurf gasél yn gyffredin yn Amarna (mae gennym un yn y Ganolfan Eifftaidd) ac mae rhai yn ymddangos gyda’r gangen rnp (e.e. Stevens 2006, 58, ffig. II.2.27).

References

Andrews, C. 1994. Amulets of Ancient Egypt. London: British Museum Press.

Aufrère, S.H. and Erroux-Morfin, M. 2001. Au sujet du hérisson. Aryballes et preparations magiques à base d’extraits tires de cet animal. In Aufrère, S.H. ed. Encyclopédie religieuse de l’Univers végétal Croyances phytoreligieuses de l’Égypte ancienne II, 521-533.

Bosse-Griffiths, K. 1980. Two Lute-players of the Amarna era. Journal of Egyptian Archaeology  66, 70-82.

 Davies, N. de G.  2005. The Rock cut tombs of El Amarna II. The tombs of Panehesy and Meryra. London: EEF.

von Droste zu Hülshoff, V. 1980. Der Igel im alten Ägypten. Hildesheimer Ägyptologische Beiträge 11. Hildesheim: Gernstenberger.

Frankfort, H. and Pendlebury, J.D.S. 1933. The City of Akhenaten Part II. The North suburbs and desert Altars. The excavations at Tell el-Amarna during the seasons 1926-1932. London: Egypt Exploration Society.

Pendlebury, J.D.S. 1951. The City of Akhenaten Part III, Volume I Text. The Central City and The Official Quarters. The excavations at Tell el-Amarna during the seasons 1926-1927 and 1931-1936. London: Egypt Exploration Society.

Petrie, W.M.F. 1894. Tell el Amarna, Warminster.

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. BAR International Series 1587. Oxford: Archeopress.

Strandberg, Å 2009. The Gazelle in Ancient Egyptian Art: Image and Meaning. Uppsala: Uppsala University. 

Webb, V. 1978. Archaic Greek faience: miniature scent bottles and related objects from East Greece, 650-500 B.C. Warminster, England: Aris and Phillips.

Other objects from Amarna in the Egypt Centre

css.php