• English
  • Cymraeg

 

W1018

W1018

O Gyfnod Naqada II (3500-3100CC), mae cynwysyddion cosmetig ar ffurf pysgodyn i’w cael ym meddrodau’r cyfoethog a’r tlawd, dynion a menywod. Fodd bynnag, mae mwyafrif y rhai yn y Ganolfan Eifftaidd, fel yr enghraifft hon, mwy na thebyg yn dyddio o’r Deyrnas Newydd, y 18fed Frenhinllin (1550-1295 CC).

Mae’n ymddangos fod y rhan fwyaf o’r paletau hyn ar ffurf y pysgodyn bulti. Mae’n ddigon posib fod y pysgodyn bulti, Tilapia nilotica, yn amlygiad o dduw’r haul. Mae’r pysgodyn hwn yn cadw’r wyau sydd wedi’u ffrwythloni yn ei geg nes y byddant yn sildod ac yna’n eu poeri allan. Mae felly’n ymddangos fe pe bai’n eu llyncu ac yn ‘rhoi genedigaeth’ iddynt ac o’r herwydd yn symbol o ailenedigaeth.

Does neb yn gwybod i sicrwydd pam y dylai paletau cosmetig fel hon fod ar ffurf pysgodyn. Mae’r rhan fwyaf o gyd-destun claddu neu deml. Efallai bod paletau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer defodau fel eneinio cerfddelw, neu gallent fod yn gysylliedig ag angladd. Yn y naill achos a’r llall byddai’r symbolaeth yn addas. Roedd colur llygaid ac ennaint yn hanfodol i atgyfodiad. Cyn ymddangos yn ‘Neuadd Cyfiawnder’ byddai’n rhaid i’r unigolyn buro ei hun, gwisgo dillad gwyn, coluro ei lygaid/llygaid ac eneinio’i hun. Roedd rhoi colur ar y llygaid hefyd mae’n amlwg yn rhan o’r defodau addoli beunyddiol. Mae portreadau o wartheg sydd wedi’u tynghedu i gael eu lladd yn seremonïol weithiau’n cael eu dangos yn gwisgo colur llygaid!

Yn ôl Brewer a Friedman (1989, 9) mae papyri meddygol yn sôn am y pysgodyn bulti fel cynhwysyn ar gyfer paratoi eli. Yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel addurn, roedd addurn-llygaid o bosib yn diogelu’r llygaid rhag yr haul llachar ac yn gweithredu fel diheintydd naturiol.

Rheswm arall dros ddefnyddio’r pysgodyn mewn cynwysyddion cosmetig oedd mai un o’r enwau am y bulti oedd ‘wadj’ sy’n golygu ‘gwyrdd ac ifanc’. Dyna’r enw a roddir i golur llygaid gwyrdd hefyd.

Mae’r pysgodyn hefyd yn cael ei ddefnyddio fel amwled.

 

For other open cosmetic palettes click here.

 

Darllen Pellach

Brewer, D.J. and Friedman, R.F. Fish and Fishing in Ancient Egypt. Warminster.

Delanges, E. 1993. Rites et beauté: objets de toilette égyptiens. Paris.

Frédéricq, M. 1927. “The Ointment Spoons in the Egyptian Section of the British Museum”, in Journal of Egyptian Archaeology, 13, 11, pl. 4.

Kozloff, A.P. and Bryan, B.M. and Berman, L.M. 1993. Egypt’s Dazzling Sun. Amenhotep III and his World. Cleveland: the Cleveland Museum of Art,

Peck, W.H. 1982. Spoons and Dishes. In Brovarski et al. (ed.) Egypt’s Golden Age: The Art of Living in the New Kingdom. Boston.

css.php