• English
  • Cymraeg

 

W962Ffyn Taflu/Bwmerangau

Mae gennym nifer o eitemau yn y Ganolfan Eifftaidd sy’n ddarnau o fodelau o ffyn taflu:

W962 (â’r enw Akhenaten); EC295; EC528; ac W1007 (math ar ôl Amarna ).

Mae’r eitemau hyn yn cael eu hadnabod fel bwmerangau hefyd ac, yn wir, mae gwaith arbrofol wedi dangos y bydd enghreifftiau pren yn dychwelyd at y taflwr. Rhagdybir mai modelau yw’r enghreifftiau faience oherwydd y tebygolrwydd y byddent yn torri pe baent yn cael eu taflu. Mewn gwirionedd, darnau yn unig sy’n cael eu darganfod o’r rhan fwyaf o ffyn taflu faience. Un yn unig o’n rhai ni (W107) sy’n enghraifft o fodel cyflawn. Ymddengys fod rhai pren wedi cael eu defnyddio i hela adar ac roedd yr enghreifftiau faience yn cael eu defnyddio ar gyfer defodau yn gysylltiedig â’r  brenin.

Er bod enghreifftiau pren wedi cael eu darganfod mewn beddrodau preifat, ni cheir rhai faience byth yn y fath gyd-destunau. Yn ogystal, ceir fersiynau faience o feddrodau brenhinol ac o demlau, ond yn anaml y cânt eu darganfod ar safleoedd domestig. Ceir ambell enghraifft: ffon daflu a ddarganfuwyd ym Mhalas y Brenin ym Malkata (Amgueddfa Gelf Fetropolitan 11.215.510; Hayes 1959, 252); enghreifftiau o ddinas Amarna (Pendlebury 1951, 70-1[1]). Gellir dod o hyd iddynt hefyd mewn gwaddodion sylfeini. Gwyddys am o leiaf dwy enghraifft o waddodion sylfaen Hatshepsut yn Deir el-Bahri (Amgueddfa Gelf Fetropolitan 23.3.83); ac Amgueddfa Cairo JE 47715; Pinch 1993, 295). Mewn rhai achosion, ymddengys fod ffyn talu’n gysylltiedig â Hathor. Weithiau, mae enghreifftiau addunedol yn disgrifio’r brenin fel ‘annwyl gan Hathor’ (Pinch 1993, 295).

Yn ôl golygfeydd pysgota ac adara ar waliau beddrodau, defnyddid y ffon daflu i hela adar. Yn debyg i’r bwmerang mwy enwog o Awstralia, ymddengys fod rhai ffyn taflu wedi’u dylunio i ddychwelyd i’w perchennog ar ôl iddynt gael eu taflu. Disgrifiodd Pitt-Rivers ei arbrofion â chopi o ffon daflu bren o’r Aiff hynafol:

Rwyf wedi ymarfer gyda bwmerangau o wledydd gwahanol. Fe wnes i gopi o’r bwmerang Eifftaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig ac ymarferais gydag ef am beth amser ger Wormwood Scrubs a, gydag amser, llwyddais i gynyddu’r pellter o bum deg cam i gant, sy’n llawer pellach nag y gallwn daflu ffon gyffredin o’r un maint ag unrhyw gywirdeb. Llwyddais hefyd, o’r diwedd, i gael iddo hedfan yn ôl, fel bod yr arf, ar ôl hedfan ymlaen am saith deg cam, yn dychwelyd i o fewn saith cam o le’r oeddwn i’n sefyll [Lane-Fox 1872; gweler hefyd Pitt-Rivers 1883)

Erys y cwestiwn sut roedd bwmerangau faience yn gallu gweithio. Daeth Feucht (1992) i’r casgliad bod ffyn taflu’n gysylltiedig â’r brenin a’u bod yn cynrychioli defodau’n ymwneud â physgota ac adara. Gallent fod yn gysylltiedig â bywyd newydd hefyd. Mae’r geiriau ‘taflu’ a ‘cenhedlu’ yn debyg yn Eiffteg. Mae Pinch (1993, 296-7) yn nodi eu tebygrwydd i hudlathau apotropäig. Yn sicr, mae ganddynt ddiben apotropäig yn ôl y Testunau Eirch; mae’r ymadawedig yn ei amddiffyn ei hun yn erbyn demoniaid ar ffurf nadredd â ffon daflu.

Newidiodd dyluniad cyffredinol y ffon daflu a’r addurno ar enghreifftiau faience dros amser (a amlinellwyd gan Pinch 1993, 295). Mae cromlin ffyn taflu o Amarna yn llai nag enghreifftiau cynt, sy’n awgrymu, efallai nad oeddent yn cael eu defnyddio at ddiben hela bellach. Gwyddys am enghreifftiau o ffyn taflu faience ffaroaid, wedi’u harysgrifennu, ar gyfer y 19eg Frenhinlin.

Cyfeiriadau

Feucht, E. 1992, Fishing and fowling with the spear and the throwstick reconsidered. In Luft, U. (ed) The Intellectual heritage of Egypt. Studies presented to László Kákosy by friends and colleagues on the occasion of his 60th birthday. Budapest, 157-169.

Hayes, C. 1959. The Sceptre of Egypt: The Hyksos Period and the New Kingdom (1675-1080), New York.

Lane-Fox, A.H. 1872 ‘Opening Address to Section D, sub-section Anthropology of the British Association Meeting at Brighton, 1872’, Nature 6:  323- 4, 341-3.

Loeben, C. 1987. A Throwstick of Princess Nfr-Nfrw-Ra, with Additional Notes on Throwsicks. Annales du Service des Antiquités de l’Egypte 71: 143-159.

Pendlebury J.D.S. 1951, The City of Akhenaten Part III, Text. Egypt Exploration Society: London.

Pinch, G. 1993. Votive Offerings to Hathor. Oxford.

Pitt-Rivers,A.L.F. 1883. ‘On the Egyptian Boomerang and its affinities’ Journal of the Anthropological Institute, 12: 454-63.

Stevens, A. Private Religion at Amarna. The material evidence. Oxford.

[1] Darganfuwyd dros 20 darn o ffyn taflu yn Amarna (Stevens 2006, 18).

 

 

css.php