• English
  • Cymraeg

 

PM2

 

Er bod achosion o farwolaeth o ganlyniad i frathiadau nadroedd yn brin yn yr Aifft, maent yn digwydd. Ymhlith y nadroedd gwenwynig yw’r cobra poerllyd gyddfddu (Naja mossambica pallida) sy’n gallu chwistrellu gwenyn peryglus dri metr i’r llygaid a dallu’r dioddefwr yn barhaol. Ceir hefyd gobra’r Aifft (Naja haje haje) sy’n fwy na dau fetr a’r neidr ddu gorniog llai (Cerastes sp.).

Nid oedd yr holl nadroedd yn bresennol drwy gydol hanes yr Aifft. Er enghraifft, nid yw’r peithon cerrig Affricanaidd enfawr (Python sebae), a oedd yn bresennol yn y Cyfnod Cynfreninlinol, yn byw yn y wlad mwyach. Mae dolenni cyllyll ifori weithiau yn dangos pâr o nadroedd wedi’u plethu â’i gilydd o dan eliffant. Mae’n ddadleuol a oedd yr eliffant yn sathru ar y neidr neu yn gweithio gyda hi. Mae Houlihan (1996, 172-173) yn credu bod yr eliffant yn ymosod ar y neidr, sef syniad sy’n cael ei atgyfnerthu gan y chwedl bod peithoniaid cerrig Affricanaidd yn elynion i’r eliffant Affricanaidd. Fodd bynnag, creda Johnson (1990, 40-41) fod y nadroedd yn cefnogi ac yn amddiffyn yr eliffantod.

Mae nifer fawr o destunau’r Hen Aifft a ysgrifennwyd er mwyn gweithredu yn erbyn nadroedd. Er enghraifft, mae swyngan 33 o Lyfr y Meirwon yn dweud er mwyn gyrru nadroedd i ffwrdd, dylid adrodd y canlynol: ‘O neidr, cer ymaith, canys caf fy amddiffyn gan Geb; cod, gan dy fod wedi bwyta llygoden, y mae Re yn ei chasáu, a dy fod wedi cnoi esgyrn cath bwdr.’ Roedd gan archelyn yr heuldduw Re, sef Apophis, ffurf neidr, ac am ganol dydd, mae’n bygwth taith y duw drwy’r byd arall. Fodd bynnag, caiff ei drechu ac mae Re yn parhau ar ei ffordd. Yn y Testunau Arch a Llyfr y Meirwon , caiff neidr ei chrybwyll sydd wedi’i gwneud yn rhannol o fflint. Nodwyd y neidr hon fel Apophis. Dengys nadroedd peryglus wedi’u torri’n ddarnau neu eu difrodi mewn rhyw ffordd arall. Ym meddau’r Aifft gynnar, roedd hyd yn oed hieroglyffau nadroedd wedi eu torri â chyllyll, rhag ofn y byddai’r portread yn dod yn fyw ac yn niweidio’r meirwon. Mewn llyfrau swynion Eifftaidd, caiff nadroedd eu lladd yn aml â chyllell.

Er gwaethaf y ffaith yr oedd llawer o nadroedd yn amlwg yn niweidiol, nid oedd yr Eifftwyr yn ystyried pob neidr i fod yn beth gwael. Yn wir, gallai llawer o dduwiau a duwiesau amddiffynnol gymryd ffurf neidr. Renenutet a Meretseger, er enghraifft. Roedd Meretseger yn amddiffyn tre’r meirwon Thebes, ac roedd Renenutet yn warcheidwad y brenin a hefyd yn amddiffyn y cynhaeaf. Mae gan yr oriel isaf lech fawr gyda dwy neidr wedi’u plethu ynghyd. Maent yn cynrychioli Isis-Thermouthis a Serapis (Serapis yw’r un â barf ar y dde). Roedd Isis yn gymar Serapis, a daeth y ddau ohonynt i gynrychioli grymoedd ffrwythlondeb benywaidd a gwrywaidd. Weithiau, cânt eu cynrychioli ar byst drws fel nadroedd â phen dynol. (Mae taflen wybodaeth ar wahân ar gael ar y llech hon y gellir ei phrynu).

Gallai Wadjet, duwies yr Aifft Isaf, gymryd ffurf neidr. Ei chymhares hithau oedd Nekhbet, duwies yr Aifft Uchaf, a chyda’i gilydd, roedd y pâr yn cynrychioli undeb y ddwy wlad. Gellir eu gweld ar ddarnau o arch yn y Ganolfan.

Mae nadroedd hir torchog hefyd yn ymddangos yn y gêm Eifftaidd ‘Mehen’ (gellir prynu copïau ohonynt yn y Ganolfan Eifftaidd). Roedd gêm wreiddiol mehen yn cael ei chwarae ar ffurf y neidr dorchog. Canfuwyd enghreifftiau ym meddau’r Aifft gynnar, sy’n dyddio’n ôl 4,000 o flynyddoedd. Byddai darnau, ar ffurf marblis a darn ar ffurf llew, yn cael eu symud o amgylch y bwrdd. Mae Llyfr y Meirwon yr Hen Aifft yn sôn am Mehen, amddiffynnydd yr heuldduw Re fel gelyn marwolaeth.

Gelwir y cobra sy’n ymddangos ar dalcen brenhiniaeth yr Aifft gan Eifftolegwyr yn ‘uraeus’. Roedd duwiesau benywaidd a oedd yn ferched i’r heuldduw Re yn benodol gysylltiedig ag uraeus, a oedd hefyd yn Llygad Re. Hathor, Neith ac Isis, er enghraifft. Caiff yr uraeus ei amddiffyn gan y brenin. Weithiau, caiff uraei eu dangos yn rhannu fflam neu dân, er enghraifft, yn Llyfr Amduat. 

Mae’n bosib bod dewiniaid Eifftaidd yn cario ffyn hud ar ffurf nadroedd. Caiff duw swyn, Heka, ei bortreadu yn dal dwy neidr, un ym mhob llaw. Gellir gweld enghraifft ohono ar arch yr Offeiriades Eifftaidd yn yr oriel isaf.

Yn achos ‘Crefydd yn y Cartref’, mae Tŷ Marwolaeth yn arddangos colofn fer yn y Ganolfan Eifftaidd. Yma, mae Horus y plentyn yn dal neidr ym mhob llaw. Credir y cafodd y cippi eu defnyddio i amddiffyn rhag brathiadau, ymysg pethau eraill.

Yn olaf, ar ddarn o arch yn y Tŷ Marwolaeth, gallwch weld yr ouroboros, sef neidr sy’n cnoi ei chynffon ei hun wrth iddi amgylchynu’r bydysawd. Roedd y neidr hon yn cynrychioli atgyfodiad ac adfywiad.

 

Darllen pellach

Houlihan, P.F. 1996. The Animal World of The Pharaohs. Llundain: Thames and Hudson.

Johnson, S.B. The Cobra Goddess of Ancient Egypt. Llundain ac Efrog Newydd: Kegan Paul 

 

Items associated with snakes in the Egypt Centre

W1159 stone uraeus from Amarna

Bed legs with snake decoration.

W56 Isis and Serapis as intertwined snakes

PM2 a faience snake amulet

EC308 A mummified snake

W277 Necklace of cornelian beads including snake head example

Other animal related artefacts in the Egypt Centre

 

css.php