• English
  • Cymraeg

 

ec624ec625

Mae’r sitwlâu enghreifftiol hyn wedi’u haddurno’n amlwg gyda duwiau amrywiol. Mae’r un ar y chwith (EC624) yn cynnwys Amun-Min.

Roedd sitwlâu maint llawn yn ddysglau seremonïol a ddefnyddid mewn temlau a defodau angladdol o’r Deyrnas Newydd. Fe’u defnyddid ar gyfer diod-offrymau o ddŵr neu laeth adfywiol. Roedd eu ffurf yn dwyn y blodyn lotws i gof, y credid yr oedd ei arogl yn rhoi bywioldeb i Dduw yr Haul ar wawr y byd. Mae’r golygfeydd a ddewisid i’w haddurno’n portreadu digwyddiadau mytholegol a chrefyddol i atgyfnerthu eu swyddogaeth ddefodol o greu ac adfywio.

Darganfuwyd sitwlâu addunedol fel y rhain mewn niferoedd mawr yn libart y deml yn ninas y meirwon i anifeiliaid cysegredig yn Saqqara, gan awgrymu mai pererinion a oedd yn eu rhoi.

Mae’r enghraifft ar y chwith yn dangos y golygfeydd cliriaf, ond nid yw’r un ar y dde wedi’i chadw mor dda. Mae gan yr un ar y chwith ar ei gaead gwch yr haul cysegredig sy’n cynnwys disg haul. Mae’n cael ei dynnu gan ddau jacal. Yn y cefndir, ceir dau fabŵn yn dal eu dwylo i fyny yn addoli.

O dan, gellir gweld yr unigolyn marw yn sefyll yn dal un llaw i fyny. O’i flaen, ceir pedwar duwdod, y tri cyntaf yn eu plith yn cario teyrnwialennau was. Y duwdod cyntaf yw Isis ac y tu ôl iddi, Nephthys. Yna, ceir Horus ac yn olaf, Amun-Min. Mae Amun-Min yn dal ffust.

Mae’r caead gwaelod ar ffurf blodyn lotws, sy’n symbol o aileni. Mae nobyn bach ar waelod y darn.

Mae’r ddau sitwla enghreifftiol wedi’u gwneud o aloi copr ond yn yr oriel lan llofft, mae gennym sitwla enghreifftiol o faience ar arddangos.

 

More information on EC624 and EC624

 

Darllen pellach

Ben-Tor, D. 1997. The Immortals of Ancient Egypt: From the Abraham Guterman Collection of Ancient Egyptian Art,Jerusalem: the Israel Museum, 88 – 89. 

Green, C.I. 1987. The Temple Furniture from the Sacred Animal Necropolis at North Saqqara 1964-1976, London: The Egypt Exploration Society.

 

 

css.php