• English
  • Cymraeg

 

WK32

WK32 Shabti o Djed-Iset, fwy na thebyg o’r Ramesseum. Mae’n dyddio o’r 22ain Frenhinlin (945-747 BC).
Canfuwyd nifer o shabtis yn y Ramesseum o ddeutu 1895 (Quibell, J.E. 1898 The Ramesseum). Mae’r Ramesseum ar y lan orllewinol yn Thebae.

Gwnaed y shabti hwn o faience. Gallwch weld y sach hadau ar ei gefn.

 

 

WK36

WK36 Shabti o Neb-NeTru, fwy na thebyg o’r Ramesseum. Mae’n dyddio o’r 22ain Frenhinlin (945-747BC)

Gwnaed y shabti hwn o faience.

Sylwch fod ganddo sach hadau a photiau dŵr ar ei gefn.

 

WK35

WK35 Shabti o Djed-Khonsu. Sylwch ar osodiad anarferol y sach hadau (neu fwy na thebyg mowld bric) ar y cefn. Mae gennym 4 arall o’r set hon.

 

 

 

 

WK31

Gwnaed y shabti hwn o faience. Gallwch weld y sach hadau ar ei gefn. 

WK33

Shabti pren yw hwn. Mae olion bitumen resin du i’w gweld arno.

WK8

 

 

 

Hanner uchaf shabti crochenwaith. Gesso (plaster) yw’r olion gwyn. Byddai hwn yn ei orchuddio.

 

Rhagor o wrthrychau o Woking

Shabtis eraill yn y Ganolfan Eifftaidd a gwybodaeth am arwyddocâd y shabti

css.php