• English
  • Cymraeg

EC8. Pen eithaf ar ffurf pen llew

 

EC8

Pen llew o bren, pen eithaf o ddodrefnyn mwy na thebyg. Roedd hwn unwaith yn rhan o gasgliad Rustafjaell a brynwyd gan Wellcome.

 

Roedd llewod yn cael eu cysylltu ag ailenedigaeth ac maen nhw’n cael eu portreadu ar gadeiriau/gorseddau o’r Deyrnas Ganol ymlaen, ac ar welyau angladdol o’r Deyrnas Newydd ymlaen. Fodd bynnag, mae cyfeiriadau at orseddau gyda phen llew mor gynnar â Thestunau’r Pyramidiau.

PT 1124. ‘Mae ef [y brenin] yn eistedd ar hon, ei orsedd haearn, wynebau’r hon yw rhai llewod, a’i thraed, carnau’r Tarw Mawr Gwyllt”

Mae Lot 151 arwerthiant 1906 Sotheby o ddeunydd Rustafjael yn darllen: ‘Supports of Chairs or Thrones, shaped as the foreparts of lions [Plate XVII, 23]; two tall standing Figures of Men, and various fragments; all of wood. 11.’ Mae’n bosib mai o’r lot yma y prynwyd y pen llew.

Gwely angladdol pen-llew sy’n cael ei ddangos ar W1041

 

Darllen Pellach

Killen, G.P. 1980 (vol 1), 1994 (Vol 2), Ancient Egyptian Furniture. Warminster: Aris and Phillips. 

Killen, G.P. 1994, Egyptian Woodworking and Furniture. Princes Risborough: Shire Egyptology.

css.php