• English
  • Cymraeg

 

EC734

Blwch faience gyda dau raniad. Cynhwysydd cosmetig/eli o bosib. Mae’n debygol fod hanner yr eitem ar goll ac y dylai fod pedwar rhaniad. Mae delltwaith wedi’i beintio ar y pedwar cornel a cholofn djed ar y tu blaen. Mae Rhif 2646 wedi’i ysgrifennu mewn inc ar ei waelod, rhif MacGregor fwy na thebyg (gweler isod).  

Mae’r eitem yn ffitio’r disgrifiad o wrthrych o gasgliad MacGregor a werthwyd mewn arwerthiant ym 1922 (casglwr arteffactau Eifftaidd oedd MacGregor ac oddi wrtho ef y prynai Wellcome). Mae’n ddigon tebyg i Syr Henry Wellcome ei brynu yn yr arwerthiant hwnnw.

 

css.php