• English
  • Cymraeg

 

ec490

Mae’r darn hwn o waith carton yn dangos duwies coeden. Tra bod gwreiddiau’r syniad o dduwies coeden yn mynd yn ôl i’r Pyramid Texts (Billing 2002), nid oedd dyluniadau’n gyffredin tan y Deyrnas Newydd – cafwyd yr enghraifft gyntaf ym meddrod Tuthmosis III. Gallwch weld golygfa arall o dduwies coeden ar yr arch o’r 21ain Frenhinllin sy’n cael ei harddangos yn y Tŷ Marwolaeth. Gan amlaf y dduwies yw Nut ac yn llai aml Hathor neu Isis. Y goeden gan amlaf oedd y sycamorwydden (er bod y gair am sycamorwydden, nht, yn cael ei ddefnyddio fel gair cyffredinol am ‘goeden’). Yn aml caiff y dduwies ei dangos yn arllwys hylif adfywiol i mewn i ddwylo’r ymadawedig tra bod ei ba (ar ffurf aderyn gyda phen dynol) yn sefyll gerllaw neu’n ysgwyd ei adenydd yn y canghennau.

Nut duwies yr awyr oedd y dduwies coeden fwyaf cyffredin.

Fi yw Nut, rwyf wedi dod gan ddwyn i ti roddion. Rwyt ti’n eistedd oddi tanaf ac yn oeri dy hunan oddi tanaf ac yn oeri dy hunan dan fy nghanghennau. Gadawaf i ti yfed o’m llaeth a byw a chael maeth o’m dwy fron, oherwydd y mae llawenydd ac iechyd ynddynt…Dy fam sy’n rhoi bywyd i ti. Mae’n dy osod o fewn ei chroth ble mae’n beichiogi….

  O feddrod Kenamun. Dyfyniad (wedi’i gyfieithu) o The Garden In Ancient Egypt Alix Wilkinson

Mae Hathor duwies coeden Memphis yn aml yn cael ei galw’n ‘Boneddiges y Sycamorwydden’. Yn ôl stori o’r Deyrnas Newydd, fel ‘Boneddiges y Sycamorwydden’ mae’n gwella llygad Horus gyda llaeth gafrewig. Mae’r sudd ddaw o’r ffrwyth a’r dail yn wyn llaethog ac roedd yn cael ei adnabod gan yr Eifftiaid fel ‘llaeth y sycamorwydden’. Byddai’n cael ei ddefnyddio i wella clwyfau a chornwydydd. Roedd dail y sycamorwydden yn cael eu defnyddio fel amwledau angladdol.

Mae rhai dyluniadau’n dangos y goeden yn ei ffurf ysgerbydol gyda’r dduwies yn codi ohoni. Roedd traddodiad hir, cysylltiedig â Memphis, o sycamorwydden noeth yn hytrach na’r goeden yn dwyn ffrwyth. Mae’r Pyramid Texts yn disgrifio coeden sy’n cysgodi’r duwiau fel un â’i ‘changhennau wedi sychu i fyny, a’i thu mewn wedi’i losgi’. Mae Pyramid Text 1485. Moftah (1965: 40-47) a Hermsen (1981: 74-85) yn cysylltu’r goeden noeth hon â ‘Boneddiges y Sycamorwydden’, duwies mynwent Giza. Mae Keel (1992: 86-87) yn trafod enghreifftiau.

Mae swyn y dduwies coeden i’w gweld ym Mhennod 59 o Lyfr y Meirw. Yn Llyfr y Meirw Penodau 109 a 149 – roedd efeilliaid o ‘sycamorwydd glasfaen’ yn sefyll wrth borth dwyreiniol y nefoedd y deuai Re allan ohoni bob dydd. Weithiau mae coed o’r fath yn ymddangos ym mhaentiadau beddrod y Deyrnas Newydd gyda tharw ifanc neu lo, symbol o Re, yn dod allan ohonynt. 

Rydym o’r farn bod y darn hwn yn dyddio o’r Deyrnas Newydd ddiweddar i’r 21ain Frenhinllin, ac yn fwy tebygol o’r 19eg Frenhinllin. Tra bod enghreifftiau’r Deyrnas Newydd o’r dduwies coeden yn ei dangos, fel yma, yn rhan o goeden (er enghraifft ym meddrod Sennedjem); mae enghreifftiau’r Trydydd Cyfnod Canol fel petaent yn dangos y dduwies wedi’i gwahanu oddi wrth ei choeden (Billing 2004). Dyma eiriau Kara Conney ‘ Beginning with the 19th Dynasty, the decoration of yellow coffins becomes more complicated, including polychrome scenes of the tree goddess on the feet of the coffin lid….’ (Cooney2015 , 284’). Yn ychwanegol, mae ochr arall y darn wedi’i gorchuddio â resin du, sydd yn gyson â dyddiad y Deyrnas Newydd. 

Mae hefyd yn y Ganolfan Eifftaidd arch o’r 21ain Frehinllin sydd â symbol duwies coeden. Yn yr eitem hon mae’r dduwies coeden wedi’i labelu’n ‘Nut y gorllewin’ ac yn sefyll ar wahân i ac o flaen y goeden yn gwisgo rhywbeth sy’n ymddangos fel pluen ar ei phen (mae’r arwydd yn aneglur).

Darllen Pellach

Billing, N. 2002. Nut the goddess of life in text and iconography. Uppsala Studies in Egyptology, 5. Uppsala. 

Billing, N. 2004. Writing an Image-The Formulation of the Tree Goddess Motif in the Book of the Dead, Ch. 59. Studien zur Altägyptischen Kultur, 32, 35-50. 

Brewer, D. J., Brewer D. B. and Redford, S. 1994. Domestic Plants and Animals: The Egyptian origins. Warminster, Aris & Phillips.

Buhl ML ‘The Goddesses Of The Egyptian Tree Cult’ JNES 6 (1947) 80-97.

Moftah, R. 1965 Die uralt Sykomore und andere Erscheinungen der Hathor. ZAS, 92. 

Hermsen, E. 1981. Lebebsbaumsymbolik im alten Ägypten. Köln. E.J. Brill.  

Keel, O. 1992. Das Recht der Bilder gesehen zu werden: Drei Fallstudien zur Methode der Interpretation altorientalishcer Bilder. Freiburg and Göttingen, 86-7.

css.php