• English
  • Cymraeg

EC425

Darn o ben yr arch yw hwn. Dynodi stribedi o wallt y mae’r stribedi melyn. Nephthys yw’r dduwies sy’n penlinio. Roedd Nephthys yn eistedd wrth ben yr arch ac Isis wrth ei throed. Mae’n bosib gweld hyn ar stelau fel yr un sydd yn y gist gyfagos.

Dywed swyn 151b yn Llyfr y Meirw fod Nephthys yn gwarchod yr ymadawedig; yn swyn 161T1 mae’n cael ei disgrifio fel gwynt y dwyrain. Mae’n cael ei rhestru fel un o naw duw’r Ennead. Mae eirch fel hon, gyda melyn ar ddu, i’w dyddio i’r Deyrnas Newydd.

 

 

css.php