• English
  • Cymraeg

EC25

Mae’r aderyn crochenwaith afluniaidd hwn tua 125mm o hyd a 40mm o led. Mae ei ben yn eisiau ac mae twll trwy’i ganol.

Mae eitemau crochenwaith o’r fath wedi’u darganfod ar nifer o safleoedd yn yr Aifft a Nubia, fel Amarna (Pendlebury 1951 I, 142 36/155; II, pl. 84), Mirgissa, Lahun ac Askut. Mae’r rhai a gafwyd yn Lahun a Mirgissa yn dyddio o’r Deyrnas Ganol (2025-1750 CC), a’r rhai o Amarna’n dyddio o’r Deyrnas Newydd. Hefyd cafwyd enghreifftiau yn dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig, gan gynnwys enghraifft bren o Hawara.

Awgrymwyd bod yr adar crochenwaith hyn yn cael eu defnyddio fel teganau plant, gyda ffyn neu olwynion crochenwaith yn cael eu rhoi yn y twll i ganiatáu symud. Mae digon o dystiolaeth bod clai a mwd yn cael eu defnyddio i wneud anifeiliaid tegan, gan gynnwys crocodeilod, hipopotamysau a mwncïod. Cafodd eitemau clai afluniaidd heb eu tanio eu darganfod yn anheddiad Lahun, sy’n awgrymu bod yr enghreifftiau arbennig hynny’n cael eu defnyddio fel teganau plant. Cafwyd enghraifft Amarna ym Mhafiliwn tŷ. Byddai clai’n ddeunydd delfrydol i wneud teganau plant oherwydd bod digonedd ohono a’i fod i’w gael am ddim. Mae Teeter (2010, 144) yn datgan bod adar tegan ar stelau Rhufeinig yn symbol o ddiniweidrwydd, ac mae Török (1993, 53) yn datgan bod adar tegan o glai yn boblogaidd fel teganau ledled yr hen fyd. Mae gan y Ganolfan hefyd gerflun carreg yn dangos bachgen gydag aderyn (W1161).

Mae llawer o broblemau’n codi o wrthrychau fel hyn, oherwydd tra gallant gael eu hystyried fel teganau plant, byddai’r hen Eifftiaid yn defnyddio modelau ar ffurf anifeiliaid neu ddynion fel offrymau diofryd i’r duwiau. Yn aml ble yn union y cafwyd yr eitemau sy’n rhoi i ni syniad o’r defnydd oedd iddynt.

Gallai fod arwyddocâd crefyddol i’r anifeiliaid clai sydd wedi’u darganfod ledled yr hen Aifft, gan fod crocodeilod a hipopotamysau yn anifeiliaid peryglus iawn i’r hen Eifftiaid ac i’w hofni’n fawr, ond roeddent hefyd yn gysylltiedig â duwiau. Mae llawer o anifeiliaid diofryd o glai wedi’u darganfod ar safleoedd caerau y Deyrnas Ganol, fel Buhen, yn ogystal ag mewn cysegrfâu wedi’u cysegru i Hathor.

Nid yw’r dewis o aderyn yn anarferol yn yr hen Aifft; roedd yna fathau amrywiol o adar yn byw yn yr Aifft neu’n mudo trwyddi, a gellir gweld y gwahanol fathau mewn llawer ffurf, o adar mymïedig i bortreadau ar furiau temlau. Roedd adar yn cael eu defnyddio fel ffynhonnell fwyd ac mae digon o dystiolaeth am ddifyrrwch, fel hela adar mewn corsydd yn yr hen Aifft. Roedd adar hefyd yn cael eu cysylltu â’r byd crefyddol gyda llawer duw a duwies, fel Horus, Isis a Nepthys, yn cymryd ffurf aderyn. Nid yw’n syndod felly fod adar yn cael eu dewis fel teganau plant neu hyd yn oed fel offrymau diofryd.

Llyfryddiaeth a Darllen Pellach

David, A.R. (1979) ‘Toys and Games from Kahun in the Manchester Museum Collection’ in Glimpses of Ancient Egypt: Studies in Honour of H.W. Fairman. Ed by John Ruffle et al. Warminster: Aris and Phillips Ltd. 12-15. 

Houlihan, P.F. (2001) ‘Birds’ in The Oxford Encyclopaedia of Ancient Egypt, Vol 1. Ed. by D.B. Redford. Oxford: Oxford University Press. 189-191. 

Pendlebury, J.D.S. (1951) The City Of Akhenaten Part III. The Central City and the Official Quarters. 2 volumes. London: Egypt Exploration Society. 

Teeter,  E. 2010. Baked Clay Figurines and Votive Beds from Medinet Habu. Chigaco: The Oriental Institute of the University of Chicago. 

Török, L. 1993. Coptic Antiquities.Volume 1. Stone Sculpture, Bronze Objects, Ceramic Coffin Lids and Vessels, Terracotta Statuettes, Bone, Wood and Glass Artefacts. Monumenta antiquitatis extra fines Hungariae reperta 2. Rome: “L’Erma” di Bretschneider. 

Tyldesley, J. (2007) Egyptian Games and Sports. Buckinghamshire: Shire Egyptology.

 

css.php