• English
  • Cymraeg

 

EC1302

EC1301

EC1301(left) and EC1302(right) are fragments of braziers.

 

 

 

Teilchion yw’r rhain o lestr crochenwaith oedd yn dal basged dân. Mae pob telchyn yn  10cm o uchder. Mae’r ddau yn ddarnau o gasgliad Wellcome, ond nid yw’n wybyddus ble y casglodd Wellcome hwy. Roedd basgedi tân yn cael eu defnyddio i goginio a gwresogi, ac o bosib fel allorau cludadwy. Maent yn portreadu ffigwr gyda steil gwallt unionsyth, clustiau pigfain a barf hir, yn sefyll allan. Roedd y barfau’n gweithredu fel standiau y gallai’r potiau sefyll arnynt. Roedd i bob basged dân dri chynhaliwr, neu labedau.

Roedd basgedi tân o’r fath yn cael eu defnyddio ledled y byd Helenistaidd o tua 200-CC i AD 100. Darganfuwyd llawer yn Naukratis. Mae tarddiad ein rhai ni yn dal yn ddirgelwch. Mae eu ffurf yn ffitio’r rhai y gwyddom iddynt ddod o’r Aifft gan fod ganddynt steil gwallt unionsyth yn hytrach na’r pilos (math o het gonig oedd yn cael ei gwisgo gan Hephaistos a daemoniaid tân eraill oedd pilos; Şahin 2001, 118). Mae niferoedd mawr wedi’u darganfod yn Alexandria, sy’n awgrymu eu bod yn cael eu gwneud yno. Mae archwiliad petrograffig o enghreifftiau Eifftaidd yn awgrymu eu bod yn cael eu gwneud o silt yr afon Nîl (Rotroff 2006, 202, 218, pl.83; gweler hefyd Didelot 1998). Mae’n bosib fod yr enghreifftiau a wnaed yn yr Aifft yn copïo’r rhai Groegaidd.

Mae’r llaweroedd o’r math hwn o fasged dân a gafwyd o gwmpas cysegrfannau’n awgrymu defnydd defodol posibl (Şahin, M. 2003). Ar y llaw arall, mae llawer hefyd wedi’u cael mewn cyd-destun domestig.

Caiff y ffigwr a bortreadir gan amlaf ei adnabod fel satyr neu fel y daemon Seilenos (Selenos), dilynwr Dionysus a chysylltiedig â meddwdod. Mae clustiau pigfain rhai enghreifftiau, gan gynnwys ein un ni, yn awgrymu mai satyriaid ydynt (Rotroff 2006, 204).

Mae awgrym pellach wedi’i wneud, mai o fasgiau theatrig y daeth y motiffau’n wreiddiol. Yn ôl Dionysios o Halikarnassos, pan fyddai dawnswyr wedi’u gwisgo fel satyriaid yn dilyn arfer Groegaidd, gwisgent ‘wallt gosod arswyd’, hynny yw gwallt oedd yn sefyll i fyny (Webster 1967, 15 a Mayence 1905, 398-401, dyfynnwyd yn Rotroff 2006, 204 troednodyn 120. Mae Rotroff hefyd yn rhoi enghreifftiau o fasgiau satyr gyda gwallt unionsyth). Gall y gwallt unionsyth fod yn gopi o’r ffordd roedd gwallt yn cael ei gribo’n ôl i orchuddio’r onkos, yr allaniad ar ffurf côn ar fasgiau trasig Groegaidd fyddai’n cael ei ddefnyddio i roi urddas i’r masg. Mae enghraifft dda o fasg Groegaidd gyda barf ac onkos o’r 2il ganrif, sy’n edrych yn debyg iawn i’n llabedau ni, yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Boston, 01.7911.

Mae Julius Pollux (Onom IV, 143ff), oedd yn ysgrifennu yn yr 2il ganrif AD, yn rhestru rhyw 76 math o fasgiau yn ei wyddoniadur masgiau. Dyn ym mlodau’i ddyddiau yw Rhif 16, ac mae ganddo farf ‘ar ffurf lletem’ ac onkos (cyfieithiad Saesneg yn Csapo a Slater 1995, 399).

Mae wedi cael ei awgrymu fod y ffigyrau sy’n gwisgo pilos ac a welir ar lawer o labedau yn portreadu Hephaistos, neu ddaemoniaid tân llai pwysig (Rotroff 2006, 204 gyda chyfeiriadau). Ar ambell achlysur, mae teirw neu rosynnau, neu fasgiau theatrig eraill hyd yn oed, yn cael eu defnyddio fel elfennau addurnol, (Rotroff 2006, 204 gyda chyfeiriadau).

Mae sawl ysgrifennwr wedi awgrymu mai pwrpas yr wynebau gwrthun hyn yw cadw drwg i ffwrdd (Conze 1890, 138; Furtwängler 1891; Harrison 1903, 188-190. ffigau 27-29; Mayence 1905, 397-8; Siebert 1970, 275). Yng ngwlad Groeg mae masgiau o’r fath yn addurno poptai, er nad bob amser fel llabedi potiau.

Efallai bod y syniad o labed barfog yn tarddu o’r theatr (o bosib, fel y ffigwr gwrthun) yn nhraddodiad cymeriadau gwrthun fel Bes, sydd hefyd yn berfformiwr cerddoriaeth a dawns. Yn wir, mae ffigyrau ar gael sy’n cyfuno Bes a Selenos (Barrett 2011, 278–9, gyda chyfeiriadau).

Other Graeco-Roman items in the Egypt Centre

 

Darllen Pellach

Conze, A. 1890. Griechische Kohlenbecken, Jahrbuch des Deutschen Archäologischen Instituts 5, 118-141.

Csapo, E. and Slater, W.J. 1995. The context of Ancient Drama. Ann Arbor.

Dunand, F. 1990. Catalogue des terres cuites Greco-Romanines d’Egypte p.332. Paris.

Didelot, O. 1998. Réchauds hellénistiques du Muséee gréco-romain d’Alexandrie: Importations et productions locales. In Commerce et artisinant dans l’Alexandrie hellénistque et romaine. Actes du Colloque d’Athènes organise par CNRS, le Laboratoire de céramologie de Lyon, et l’École française d’Athènes, 11-12 décembre 1988 (BCH Suppl. 33) ed J-Y Empereur, Paris, 275-306.

Furtwängler, A. 1891. Zu den Köppfen der griechischen Kohlenbecken. Jahrbuch des Deutschen Archäologischen Instituts 6, 110-124.

Harrison, J.E. 1903. The Ker as Gorgon, Prolegoma to the Study of Greek Religion.

Leonard, M.R. 1973. Braziers in the Bodrum Museum, American Journal of Archaeology, 77, 1, 19-25.

Mayence, F. 1905. Fouilles de Délos: Les Rechauds en Terre-Cuite. Bulletin de correspondence hellénique, 29, 373-404.

Rotroff, S.I. 2006. Hellenistic Pottery. The Plain Wares. Vol.33 The Athenian Agora. The American School of Classical Studies at Athens.

Şahin, M. 2001. Hellenistic Braziers in the British Museum: Trade Contacts between Ancient Mediterranean Cities, Anatolian Studies, 51, 91-132.

Şahin, M. 2003. Hellenistische Kohlenbecken mit figürlich verzierten Attaschen aus Knidos (Knidos-Studien 3), Paderborn.

Siebert, G. 1970. Les réchauds in Bruneau, Philippe, C. Vatin, U. Bezerra de Meneses, G. Donnay, E. Levy, A. Bovon, G. Siebert, V. R. Grace, M. Savvatianou-Petropoulakou, E. Lyding Will, T. Hackens L’ilôt de la Maison des Comédiens.  Exploration archéologique de Délos 27, Paris, 267-276.

Webster, T.B.L. 1967. Monuments Illustrating Tragedy and Satyr Play (BIC Suppl. 20) 2nd ed. London.

 

 

 

css.php