• English
  • Cymraeg

Die

dice

Mae’r disiau sy’n cael eu dangos yma’n dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig. Cafodd gemau gyda deis ciwboid eu poblogeiddio yn yr Aifft yn ystod llywodraeth Rhufain. Mae’r hanesydd Groegaidd Plutarch yn disgrifio Cleopatra yn chwarae deis gyda Mark Anthony (er mai flynyddoedd ar ôl marwolaeth y frenhines yr oedd ef yn ysgrifennu). Cyn y cyfnod hwn byddai symudiadau ar fyrddau gemau gan amlaf yn cael eu penderfynu gan ffyn tafl.

Mae ychydig enghreifftiau cynharach o ddisiau ciwboid, o Amarna a Lisht (Hayes 1959, 405) er enghraifft, ac o deml yn Deir el-Bahri (Carnarvon a Carter 1912, 58, troednodyn 1).

Mae’n ddigon amlwg bod y pipiau (smotiau neu gylchoedd yn dynodi rhifau) sydd ar wynebau’r disiau sy’n cael eu dangos yma, wedi’u patrymu yn union fel deis modern, un gyferbyn â chwech, dau gyferbyn â phump, a thri gyferbyn â phedwar. Dyna yw’r cynllun sylfaenol wedi bod ers tua 1400CC.

Carnarvon a Carter, H. 1912 Five years’ explorations at Thebes : a record of work done 1907-1911.

Crist, W., Dunn-Vaturi, A-E., a Alex de Voogt 2016, Ancient Egyptians at Play: Board Games Across Borders. Llundain ac Efrog Newydd: Bloomsbury.

Hayes, W.C., The Sceptre of Egypt Volume II : A Background for the Study of the Egyptian Antiquities in The Metropolitan Museum of Art. Vol. 2, The Hyksos Period and the New Kingdom (1675–1080 B.C.).

Souter, K. 2012. The Pocket Guide to Dice and Dice Games

Other games in the Egypt Centre

Other Roman Period items in the Egypt Centre

css.php