• English
  • Cymraeg

 

Darn o wialen apotropäig sydd ar fenthyg gan yr Amgueddfa Brydeinig (BM 38192). Mae’n 16cm o hyd ac wedi’i gwneud o ddant hipopotamws.

Yn y Deyrnas Ganol tan yr Ail Gyfnod Canol (2055–1550 CC) mae’r ‘gwialennau apotropäig’ rhyfeddol yn ymddangos. Gwyddom am ryw 150 ohonynt. Mae’n bosibl bod y rhain wedi parhau i’r Deyrnas Newydd gan eu bod wedi’u darlunio ym meddrodau’r Deyrnas Newydd, er enghraifft beddrod Rekhmire (Roberson 2009, troednodyn 66).

Fel arfer, mae’r gwialennau hyn wedi’u gwneud o ysgithrddannedd hipopotamws wedi’u torri’n ddau hanner i greu dwy wialen grom ag un ochr amgrom a’r llall yn wastad. Roedd y deunydd o bosibl yn galw Taweret, duwies hipopotamws genedigaeth. Mae’n bosibl bod ifori hipopotamws yn cael ei ystyried yn bwysig oherwydd pŵer, cryfder a rhinweddau magu’r hipo benywaidd.

Er bod y cyfan fel arfer wedi’i gerfio a’i loywi’n ofalus, gyda phennau anifeiliaid wedi’u llunio’n dda ar bennau enghreifftiau mwy cyflawn, ymddengys bod y creaduriaid mytholegol a ddarluniwyd arnynt wedi’u hysgythru’n llawer mwy bras. Efallai bod hyn yn dangos bod y gwaith o wneud y gwialennau cyflawn, ond heb eu hysgythru, wedi’i wneud gan un grŵp o bobl fedrus a bod yr ysgythriadau o anifeiliaid wedi’u gwneud gan grŵp arall a oedd yn llai medrus. Fodd bynnag, nid oes anifeiliaid wedi’u llunio’n fras ar yr holl wialennau. Cafodd darn o wialen o Amgueddfa Gelf Berlin (9611) ei ddisgrifio gan Adolf Erman fel ‘y gwaith ifori gorau a welais erioed’. Mae’n cynnwys baner llyffant a jacal wedi’i llunio’n hyfryd mewn cerfwedd uchel (Oppenheim et al. 2015: 200­–201 ynghyd â chyfeiriadau).

Mae’r ysgythriadau ar wialennau o’r fath yn dangos duwiau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant ifanc a geni plant, er enghraifft duwies broga Hekat, Taweret a Bes. Mae gan y wialen hon o’r Amgueddfa Brydeinig, sydd wedi torri, ddelwedd o dduw broga yn dal llafn cyllell yn ei droed. Ar gyllyll eraill hefyd mae duwiau yn aml yn cario cyllyll amddiffynnol neu nadroedd. Mae’r arysgrifau hefyd yn tystio i’r ffaith y bwriadwyd i’r ‘gwialennau’ fod yn amddiffynnol, e.e. ‘Cut off the head of the enemy when he enters the chamber of the children whom the lady…has borne’ a ‘Protection by night, protection by day’ (Steindorff 1946, 50).

Mae’r gyfres o anifeiliaid mytholegol ar wialennau fel hyn yn aml i gyd yn wynebu’r un ffordd, fel pe baent mewn gorymdaith. Fodd bynnag, yn yr enghraifft hon, ac mewn rhai enghreifftiau eraill (e.e. Louvre 3614 a gyhoeddwyd yn Oppenheim, et al. 2015: 200), mae’n ymddangos bod dwy ‘orymdaith’ yn wynebu ei gilydd.

Ar eitem EA38192 o’r Amgueddfa Brydeinig, mae’n ymddangos mai neidr yw’r ddelwedd ar ochr chwith eithaf y wialen. Dim ond ei phen a ddangosir. O flaen y neidr y mae creadur mytholegol, sef cath â gwddf sarff a chot fraith (weithiau gelwir y rhain yn ‘sarffpardiaid’ (serpopards)). Mae’n ymddangos bod y sarffpard yn fotiff Swmeraidd a gyflwynwyd i’r Aifft yn y Cyfnod Naqada II. Mae creaduriaid o’r fath yn ymddangos ar wialennau apotropäig eraill, e.e. yn y Metropolitan Museum of Art (MMA 22.1.154, yn Hayes 1953 cyfrol 2, ffig. 159) a Walters Art Gallery 71.510 (Capel a Markoe 1996, 64). Maen nhw hefyd yn ymddangos ar y cwpan bwydo faience, hefyd yn y Metropolitan Museum of Art, ond heb smotiau (MMA 44.4.4). Gan ei bod yn ymddangos bod eitemau o’r fath â chreaduriaid apotropäig eraill, ac y dangosir o leiaf un â’r arwydd sa am amddiffyniad ar ei chefn (Walters Art Gallery 71.510), tybir bod y gath â gwddf sarff yn apotropäig hefyd.

O flaen y sarffpard y mae epa ar ei eistedd yn dal llygad wedjat. Mae’n wynebu baner â phen ci arni. Mae pen ci ar faner, neu’n rhan o faner, yn cynrychioli wsr, sef yr arwydd am bŵer, ac mae hefyd yn ymddangos ar wialen apotropäig Walters Art Gallery 71.510. Fodd bynnag, nid yw enghraifft Walters wedi’i darlunio mor amlwg yn faner, ond yn hytrach yn ben ci â choesau. Yn enghraifft Walters ac yn enghraifft yr Amgueddfa Brydeinig, mae’r arwydd yn dal cyllell.

Hefyd, mae enghraifft Walters Art Gallery yn dangos disg haul â choesau, sef y ffigur ar ochr dde eithaf gwialen yr Amgueddfa Brydeinig.

Ar yr ochr dde eithaf y mae cyfres o linellau cyfochrog. Yn aml, mae gan wialennau o’r fath ben anifail ar un pen neu ar y ddau ben.

Hefyd, mae arysgrifau fel arfer yn enwi’r fam a’r plentyn. Bachgen yw’r plentyn bob tro. Gall fod sawl rheswm dros hyn. Efallai mai’r rheswm cyntaf yw bod yr eitemau hyn wedi’u gwneud i fechgyn yn unig. Efallai mai’r ail reswm yw, gan fod y rhan fwyaf o’r beddrodau lle cafwyd y gwialennau yn perthyn i ddynion, fod y rhan fwyaf o’r gwialennau yn perthyn i ddynion, ond nid yw hyn yn golygu nad oeddent gan ferched yn ystod eu bywydau. Gallai’r ffaith bod enwau gwrywaidd ar y mwyafrif ohonynt hefyd fod oherwydd bod enwau yn cael eu rhoi ar ddannedd cyn genedigaeth y plentyn a gallai ddangos bod pobl yn gobeithio am blant gwrywaidd fel arfer (Szpakowska 2008, 30). Ond gan fod yr eitemau hyn wedi’u hatgyweirio a bod swynion arnynt yn awgrymu nifer o blant, mae’n debygol bod y rhain wedi’u defnyddio ar gyfer babanod benywaidd yn ogystal â rhai gwrywaidd.

Mae Eifftolegwyr fel arfer yn honni bod y gwialennau hyn wedi’u defnyddio i amddiffyn menywod wrth iddynt roi genedigaeth, neu blant ifanc, er y cafwyd hyd i’r rhan fwyaf ohonynt mewn beddrodau. Mae’r ffaith bod blaenau rhai o’r gwialennau wedi treulio ar un ochr yn awgrymu i rai eu bod wedi’u defnyddio i dynnu cylch hud o amgylch y plentyn (Hayes 1953, 249). Mae gan rai enghreifftiau dyllau ar bob pen a chordyn yn mynd drwyddynt, o bosibl er mwyn cario neu symud gwrthrychau eraill (Teeter a Johnson 2009, 77). Ar waliau beddrodau, dangosir gwialennau yn cael eu cario gan nyrsys (Robins 1993, 87), ond yma mae eu presenoldeb yn dangos bod ganddynt swyddogaeth eilaidd, sef amddiffyn yr ymadawedig adeg eu haileni.

 

Cyhoeddwyd yr eitem hon yn:

Altenmüller, H. 1983. Ein Zaubermesser aus Tübingen, Yn Welt des Orient 14, 30-45

Goodridge, Wendy a Williams, Stuart 2006. Offerings from the British Museum, Abertawe.

Cyfeiriadau a darllen pellach

Altenmüller, H. 1965. Die Apotropaia und die Götter Mittelägyptens : eine typologische und religionsgeschichtliche Untersuchung der sogenannten “Zaubermesser” des Mittleren Reichs. Munich.

Altenmüller, H. 1983. Ein Zaubermesser aus Tübingen, Yn Welt des Orient 14, 30-45.

Capel, A.K. a Markoe, G. (gol.) 1996. Mistress of the House, Mistress of Heaven. Women in Ancient Egypt. Efrog Newydd: Cincinnati Art Museum, Brooklyn Museum.

Hayes, W.C. 1953. The Sceptre of Egypt. A background for the study of Egyptian antiquities in the Metropolitan Museum of Art. Cyfrol I. Efrog Newydd: The Metropolitan Museum of Art.

Oppenheim, A., Arnold, D., Arnold D. a Yamamoto, K. 2015. Ancient Egypt Transformed. The Middle Kingdom. The Metropolitan Museum of Art: Efrog Newydd.

Roberson, J. 2009. The Early History of ‘New Kingdom’ Netherworld iconography: A Late Middle Kingdom Apotropaic Wand Reconsidered. Yn gol. Silverman, D.P., Simpson, W.K. a Wegner, J. (gol.) Archaism and Innovation: Studies in the Culture of Middle Kingdom Egypt. New Haven, a Philadelphia, 427–445.

Robins, G. 1993. Women in Ancient Egypt. Llundain: British Museum Press.

Steindorff, G. 1946. The magical knives of ancient Egypt. Journal of the Walters Art Gallery, 9, 41-51; 106-107.

Teeter, E. a Johnson, J.H. 2009. The Llife of Meresamun. A Temple Singer in Ancient Egypt. Chicago: The Oriental Institute of the University of Chicago.

 

css.php