• English
  • Cymraeg

Llestri coch gydag thop du

W5303

Yn yr oriel i fyny’r grisiau yng Nghanolfan yr Aifft (yng nghist y crochenwaith ac yng nghist ‘Yr Aifft Cyn Ysgrifennu’) gallwch weld crochenwaith o waith llaw, llyfn ei arwyneb, a elwir gan Eifftolegwyr yn ‘llestri coch gyda thop du’ neu ‘llestri-B’. Fel yr awgryma’r enw, crochenwaith coch yw hwn gydag ymyl wedi’i duo. Dosbarthwyd gan yr Eifftolegwr Flinders Petrie.

Roedd y llestri hyn yn cael eu gwneud o silt yr afon Nîl, dyddodion llifwaddod dyffryn yr afon, a’i liw’n amrywio o ddu i goch. (Mae’r math arall o glai sydd i’w gael yn yr Aifft, a elwir yn glai marl, yn dod o ardaloedd yr anialwch). Byddai’r llestri’n cael eu gwneud trwy ddefnyddio’r dull o dorchi (Arnold and Bourriau 1993, 33-36). Yn achos rhai mae’n bosib i’r torchau gael eu hadeiladu ar drofyrddau a hynny’n gwneud ffurf y llestr yn fwy rheolaidd. Nid gwydro sydd wedi rhoi iddo’i arwyneb sgleiniog ond rhwbio neu gaboli â charreg fach neu ryw wrthrych llyfn tebyg ar ôl i’r llestr sychu ond cyn iddo gael ei danio.

Mae sut y llwyddwyd i gael yr ymyl ddu yn achos tipyn o ddadlau. Mae tanio llestr mewn atmosffer gostyngol (heb ocsigen) yn gwneud i’r clai droi’n ddu. Mae atmosffer ocsideiddiol yn ei droi’n goch. Felly, os yw’r atmosffer yn wahanol i wahanol rannau’r llestr, bydd yn ddeuliw. Byddai ychwanegu huddygl hefyd yn help i dduo’r llestr (gweler Arnold a Bourriau 1993, 95; Bourriau, Nicholson a Rose 2000, 128; neu Hendrickx et al. 2000 am drafodaeth ar sut, o bosib, y cafodd crochenwaith o’r fath ei liwio).

Mae llesir coch gydag ymyl ddu’n dyddio i’r Cyfnodau Badarian a Naqada (5500-3100 CC.). Gallwch weld, o edrych yn nes arnynt, fod crochenwaith y llestri hyn yn deneuach nag mewn mathau diweddarach. Mae rhai o’r farn eu bod hefyd yn fwy chwaethus.

Other Predynastic and Early Dynastic items in the Egypt Centre

Darllen Pellach:

Arnold, D., and J. Bourriau (eds.), 1993. An Introduction to Ancient Egyptian Pottery. Mainz. 

Bourriau, J., P. Nicholson and P. Rose 2000. Pottery, in P.T. Nicholson and I. Shaw, (eds.), Ancient Egyptian Materials and Technology, 121-148. Cambridge.  

Hendrickx, S., Friedman, R. and Loyens, F. 2000. Experimental Archaeology concerning Black-topped red war from Ancient Egypt and the Sudan. Cahiers de le Ceramique Egyptienne 6, 171-185.

css.php