• English
  • Cymraeg

Bes 

w961p

Fel arfer, caiff Bes ei bortreadu fel duwdod corachaidd gyda mwng llew a choesau cam. Yn aml, mae ei dafod yn dangos ac efallai bydd yn dal cyllell neu ei gynffon. Weithiau, mae’n dal yr arwydd amddiffyn ‘sa’ neu caiff ei bortreadu yn chwarae drwm llaw crwn neu dambwrîn (o bortreadau hwyrach lle gellir gweld y gwrthrych hwn yn gliriach, mae’n edrych fel drwm llaw). Mae’n bosib mai pwrpas ei hylltra oedd atal ysbrydion drwg. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o dduwiau eraill, caiff Bes ei bortreadu bob tro gydag wyneb llawn.

Defnyddir yr enw Bes i ddisgrifio nifer o dduwdodau a demoniaid tebyg sy’n amrywio o gyfnod i gyfnod. Mae Quirke (1992, 108) yn crynhoi hanes y duwdodau: Mewn cerfwedd galchfaen o oddeutu 2400 CC, portreadir ffigwr gwrywaidd â phen llew mewn cywair o’r enw ‘dawnsio gyda phlant’. Yn y Deyrnas Ganol, ymddengys corach llewaidd gyda’r label Aha ‘y duwdod sy’n ymladd’ ar ‘ffyn hudol’ a gerfiwyd. Yn y 18fed frenhinlin ac yn hwyrach, mae’n ymddangos ar ffurflen amwledaidd (gallwch weld enghreifftiau yn y Ganolfan Eifftaidd). Gwisgid yr amwledau mewn bywyd, yn bennaf gan fenywod a dynion, ond maent hefyd yn ymddangos mewn beddau. Fodd bynnag, nid tan yn ystod cyfnodau hwyrach y caiff y duwdod corchaidd â mwng llew a’i gyfatebydd benywaidd eu henwi’n Bes a Beset. 

Yn y Deyrnas Newydd, caiff Bes ei bortreadu’n aml wedi’i gysylltu ag adeiladau domestig, megis yn Deir el-Medineh. Yn y tai yno, caiff ei baentio ar waliau, o bosib o ganlyniad i’w gysylltiad â menywod (Manniche 1987, 18). Yn ogystal, un o’i brif rolau oedd amddiffyn menywod wrth geni babanodd a phlant ifanc. Caiff ei bortreadu mewn golygfeydd o enedigaeth frenhinol ar waliau temlau Thebes.

Mae hefyd yn gysylltiedig â dodrefn ystafelloedd gwely, gan ymddangos ar welyau, ategion pen, cadeiriau, dolenni drychau ac eitemau cosmetig eraill. Yn ‘Nhŷ Bywyd’ y Ganolfan Eifftaidd, mae gwely a choesyn cadair sy’n dangos Bes.

Mae tatŵs o Bes wedi’u portreadu ar fodelau o ferched yn nofio ac ar gerfweddau sy’n portreadu dawnswyr a cherddorion. Mae’r tatŵs ar eu cluniau. Mae rhai Eifftolegwyr wedi awgrymu mai dawnswyr yn unig oedd â thatŵs o Bes. Fodd bynnag, mae Vandier d’Abbadie wedi dangos nad oedd hyn yn wir (1938, 31).

Yn aml, mae Bes yn ymddangos ar lestri. Mae enghreifftiau o hyn yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’n bosib y byddai wedi ymddangos ar lestri sy’n gysylltiedig ag yfed oherwydd ei natur lawen.

Dyma rai o’r eitemau yn y Ganolfan Eifftiaidd sy’n gysylltiedig â Bes:

Llestri Bes

Pedestal Cist

W961p Crogdlws sy’n dangos Bes gyda drwm neu damborïn

W2052 Coesau gwely sy’n dangos Bes a Tawaret

W1151 Modrwy besel sy’n dangos Bes yn dawnsio (Amarna)

W1156 Pen Bes arferol o Amarna

Beset amwled

Cloch ar ffurf pen Bes

 

Darllen Pellach 

Hart, G., 1986. Dictionary of Egyptian Gods and Goddesses. 

Malaise, M. 1990. “Bes et les croyances solaires”, in Israelit-Groll, S. (ed.), Studies in Egyptology Presented to Miriam Lichtheim, Jerusalem, pp680-729.

Manniche, L. 1987. Sexual Life In Ancient Egypt. London and New York: Kegan Paul. 

Quirke, S., 1992. Ancient Egyptian Religion. London: British Museum. 

Romano, J.F., 1980. ‘The origin of the Bes image’, Bulletin of the Egyptological Seminar 2, 39-56. 

Sadek, A.I., 1987. Popular Religion in Egypt during the New Kingdom. Hidesheim: Pelizaeus Museum. 

Vandier d’Abbadie, J., 1938. Une fresque civile de Deir el-Medineh. Revue d’Egyptologie.

css.php