• English
  • Cymraeg

Anifeiliaid

Roedd anifeiliaid yn yr hen Aifft yn cael eu defnyddio ar gyfer bwyd, dillad, i ddarparu cludiant a thyniant a hefyd yn gysylltiedig â gwahanol dduwiau a duwiesau. Ni ddylem feddwl, fodd bynnag, fod yr Eifftiaid yn addoli pob anifail. Yn hytrach portreadent nodweddion eu duwiau trwy eu dangos ar ffurf anifail. Er enghraifft, gallai duwies ffyrnig gael ei dangos fel llewes; duwies heddychlon, dyner fel buwch. Dyna pam y byddai’r Eifftiaid yn aml yn portreadu eu duwiau ar ffurf anifeiliaid neu â phennau anifeiliaid.

Roedd Hathor, fel duwies heddychlon a thyner yn cael ei dangos fel buwch. Gallai Bastet, duwies ffrwythlondeb a mamolaeth gael ei dangos fel cath. Gallai Sekhmet waetgar gael ei dangos fel llewes. Mae broga’n cael llawer o benbyliaid ac mae felly’n symbol o’r ffrwythlondeb sy’n cael ei roi gan y dduwies Heket.

Yn achlysurol, byddai’r Eifftiaid hefyd yn credu y gallai’r duwiau breswylio mewn anifeiliaid. Dyna , mae’n debyg, oedd y peth agosaf yn hanes yr Aifft i addoli anifeiliaid. Ymgnawdoliad o’r duw Montu, er enghraifft, oedd y tarw Buchis. Yn y gist hon gallwch weld clampiau eirch sydd o arch tarw Buchis. Roedd y tarw Apis, sy’n cael ei ddangos at droedfyrddau tair arch yn y gist hon, yn ymgnawdoliad o Ptah. Roedd yr Apis yn aml yn cael ei beintio ar droedfyrddau oherwydd y gred mai’r Apis oedd yn cario’r ymadawedig i’r byd tu hwnt i’r bedd. Roedd yn bosib adnabod yr Apis a’r Buchis oddi wrth eu marciau neilltuol a’u symudiadau. Unwaith roedd y Buchis neu’r Apis yn cael ei adnabod byddai’n cael ei addoli fel duw a phan fyddai farw’n cael ei fymïo. Byddai Buchis neu Apis arall yn cael ei ddewis i gymryd ei le.

Mae nifer o fymïau anifeiliaid yn y gist hon. Roedd yr Eifftiaid yn mymïo anifeiliaid am lawer o resymau. Weithiau caent eu mymïo am eu bod yn anifeiliaid anwes a bod yr Eifftiaid am iddynt fynd i’r byd nesaf fel eu perchnogion. Byddai anifeiliaid yn cael eu mymïo hefyd i ddarparu bwyd i’r ymadawedig yn y byd tu hwnt i’r bedd. Fodd bynnag, y math mwyaf cyffredin o anifail mymïedig yw’r offrwm diofryd. Roedd cyflwyno anifeiliaid mymïedig i’r duwiau yn arbennig o boblogaidd yn ystod cyfnodau diweddarach hanes yr Aifft. Offrymau diofryd yw pob un o’r anifeiliaid mymïedig yn y gist hon.  Cawsant eu lladd a’u mymïo ar gyfer cael eu rhoi i’r duwiau fel rhodd. Crocodeil ifanc, er enghraifft, oedd y mymi crocodeil, wedi’i ladd a’i fymïo a’i roi i’r duw Sobek. Yn ystod y cyfnod Groegaidd-Rufeinig cafodd miloedd ar filoedd o anifeiliaid eu lladd a’u mymïo yn y modd hwn. Un o’r anifeiliaid mwyaf cyffredin i ddioddef tynged o’r fath oedd y gath fyddai’n cael ei rhoi i’r gath dduwies, Bastet. Mae astudiaethau o weddillion cathod yn dangos mai dim ond cathod bach oeddent pan gawsant eu lladd.

 

Animal related objects in the Egypt Centre include:

Amulets of animals (general)

Apes and monkeys

Crocodiles

Mummified animals

Fish-shaped palettes or dishes from Amarna

Open cosmetic palettes or spoons in the shape of fish or ducks.

W1327 Ostracon showing Hathor in cow form

Aderyn

Cathod

Lions

W1155 Gazelle ring bezel

W1155a Centipede, hedgehog or gazelle ring bezel

Nadroedd

W946 Stela to the mother of a Buchis bull

W2060 Duck-legged stool

css.php