• English
  • Cymraeg

sickle1

Mae’r llun hwn yn dangos llafnau cryman yn y Ganolfan Eifftaidd sy’n dod o safle Amarna.

Llafnau cryman yw’r math lithig ffurfiol mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Newydd ac yn hwyrach. Mae enghreifftiau o’r Deyrnas Newydd yn ymddangos i fod yn fwyfwy cadarn na mathau cynt, ac o ran eu ffurf, maent yn fyrrach ac yn ehangach. Gallant gael cefn a bod yn ddeintiog. Ymddengys y gwnaed nifer ohonynt ar naddyn yn hytrach na llafnau. Yn aml, mae cortecs yn bresennol, yn enwedig ar grymanau pen.

Mae Tillmann (1992, 94-99, pl. 26-38) yn trafod math A a B o lafnau cryman o’r 18fed a’r 19eg Frenhinlin o Qantir. Mae math A a B yn tueddu i fod wedi’u hatgyffwrdd ar bob ochr ac mae math A yn tueddu i fod yn hynod ddeintiog. Mae darluniadau Tillmann yn dangos cortecs ar sawl cryman pen. Mae ef hefyd yn dangos y marciau tonnog yn glir, sy’n awgrymu o’u honglau yr oedd y ‘llafnau’ hyn wedi’u creu o lafnau yn hytrach na naddion. Fodd bynnag, ar nifer o ‘lafnau’ o’r Deyrnas Newydd rwyf wedi’u harchwilio o Amarna, nid oeddwn i wedi gallu dod o hyd i gyfeiriad y tonnau ac, mewn rhai achosion, roedd yn ymddangos y gwnaed yr arteffact o naddyn yn hytrach na llafn.

Mae Spurrell (1894, 37) yn disgrifio rhannau o gerrig mân a oedd wedi cael eu rhannu’n naturiol ‘gan weithredoedd y tywydd’ a oedd wedi cael eu casglu at ei gilydd i’w defnyddio ar ben deheuol Amarna, gan ddatgan y cafodd y deunydd ei ddefnyddio mewn ffordd debyg yn Gurob. Roedd yn ymddangos i Spurell fod rhai o’r darnau hyn wedi cael eu defnyddio i weithgynhyrchu llafnau cryman. Mae archwilio enghreifftiau o amgueddfeydd Prydain yn cefnogi hyn. Nid yw 56.20.764-5 o Amarna, sydd bellach yn Amgueddfa Lerpwl, er ei fod wedi’i rannu, yn dangos unrhyw arwyddion o hollt goncoidaidd (cafodd y darn hwn hefyd ei gynhyrchu o fflint byrddol). Nid oes gan Pitt Rivers 1922.30.2, sy’n llafn cryman o Amarna, arwyddion amlwg o hollt goncoidaidd chwaith, ond mae’r wyneb yn awgrymu braidd ei fod yn ddarn a dorrwyd yn naturiol. Felly, nid yw ‘llafnau’ y Deyrnas Newydd bob amser yn ‘llafnau’. Yn wir, yn aml gall fod yn anodd dweud a ddefnyddiwyd llafn neu naddyn, e.e. BM EA58013, BM EA55155. Mae hefyd yn ymddangos yn bosib y gwnaed rhai llafnau cryman ar naddion a gynhyrchwyd gan bobl. Mae Tillmann (2004, pl.226.1) yn rhoi enghraifft o gryman pen a allai fod wedi cael ei greu ar naddyn.

Er i lafnau’r Deyrnas Newydd fod yn ddeintiog yn amlach na pheidio, mae hefyd yn glir y cynhyrchwyd llafnau nad oeddent yn ddeintiog chwaith (Spurrell 1894, 37). Yn Qantir, nodwyd llafn a oedd heb ei atgyffwrdd o gwbl gan Tillmann (1992, pl. 37.6) fel llafn cryman. Gall eraill, megis math B Tillmann, a drafodwyd uchod, gael eu hatgyffwrdd ond prin iawn yw’r dannedd.

Yn yr Amgueddfa Fetropolitanaidd o bentref Oes Ramesses el-Lisht, ceir llawer o fflintiau cryman. Mae gan bob un ohonynt ymylon danheddog ac mae gan lawer ohonynt gromlin ysgafn sy’n cyd-fynd â bwa’r cryman (Hayes 1959, 408-409). 4 llafn cryman fflint gydag ymylon danheddog o ardal silo yn Tell el-Balamun sy’n dyddio o’r Trydydd Cyfnod Canolog (Spencer 1999, 77). Darganfuwyd llafnau cryman o’r 18fed-19eg Frenhinlin ym mhentref gweithwyr Deir el-Medina gan Bruyère (1939 pl. XLII) yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn ddeintiog.

Mae Giddy (1999, pl.51) yn rhestru llafnau cryman ac offer eraill a ddarganfuwyd ym Memphis. Yn eu plith, ceir 29 cryman o’r Deyrnas Newydd ac yn hwyrach. Mae rhai yn ddeintiog, ac mae atgyffyrddiad yn ymddangos ar bob un o’r pedair ochr ac mae cortecs yn bresennol.

Mae llafnau cryman hefyd wedi cael eu canfod mewn carnau. Cryman pren crwm gyda llafn rhigolog 16 modfedd er mwyn derbyn rhes o ddannedd fflint rhychog sy’n dyddio o’r 18fed Frenhinlin yn yr Amgueddfa Fetropolitanaidd (Hayes 1968, 215). Mae’n glir yr oedd gan rai o’r enghreifftiau hyn ddiben defodol.

Mae’n glir bod llafnau cryman yn parhau yn yr Aifft tan y Cyfnod Rhufeinig, sef yr 20fed Frenhinlin. Mae’r ffaith y parhaodd y math tan mor hwyr yn awgrymu nad oedd aloi copr yn ddewis amgen dichonadwy. Gallai hyn fod oherwydd y cyflenwad digonol o fflint o’i gymharu â chyflenwad copr. Gallai hefyd fod oherwydd bod fflint yn uwchraddol mewn rhai ffyrdd. Mae Steensberg (1943, 11-26) a Coles (1973, 34-39) wedi dangos bod crymanau fflint yn well na rhai copr ac yn gyfartal â rhai efydd. Dim ond ar ôl cyflwyno haearn yn dilyn y Deyrnas Newydd y bu cystadleuaeth ymarferol i fflint. Ac yna, rhaid ystyried ‘gwerth ychwanegol’ fflint, gan nad oedd yn ddeunydd ymarferol yn unig ond yn arwyddocaol yn grefyddol hefyd.

Darllen pellach

Bruyère, B. (1939) Rapport sur les Fouilles de Deir el Médineh. (1934-1935) FIFAO 16. Imprimerie de l’Institut Français D’Archéologie Orientale: Cairo.

Coles, J. (1973) Archaeology by Experiment. Scribner’s: Efrog Newydd.

Giddy, L. (1999) Kom Rabi’a: The New Kingdom and Post-New Kingdom Objects. Cymdeithas Fforio’r Aifft: Llundain.

Hayes, William Christopher. (1968) The scepter of Egypt: a background for the study of the Egyptian antiquities in the Metropolitan Museum of Art. (1675-1080 B.C.). Metropolitan Museum of Art ;Dosbaethwyd gan H.N. Abrams: Efrog Newydd.

Spencer, A. Jeffrey a’r Amgueddfa Brydeinig. Trustees. (1999) Excavations at Tell el-Balamun, 1995-1998. British Museum Press: Llundain.

Spurrell, F.C.J. (1894) ‘Flint Tools from Tell el Amarna’. Yn Petrie, W.H.F. Tell el Amarna. Methuen and Co.: Llundain t..37-8.

Steensberg, A. (1943) Ancient HarvestingIimplements. Nationalmuseets skrifter: Copenhagen.

Tillmann, Andreas. (1992) Die Steinartefakte des Dynastischen Ägypten, Dargestellt am Beispiel der Inventare aus Tell el-Dab’a und Qantir. Prifysgol Tübingen:

Eitemau eraill o Amarna yn y Ganolfan Eifftaidd

 

 

 

 

 

 

css.php