• English
  • Cymraeg

‘Mae crochenydd dan (h.y. mae’n cario) glai. Mae ei fywyd yn debyg i un anifail. Mae mwy o faw drosto nag a fyddai ar fochyn…Mae ei ddillad wedi’u caledi gan glai gwlyb, mae ei liain lwynau fel cerpyn.’

Dychan o Bapyrws Crefftau Sallier II a ddyfynnir yn Bourriau, 1981

Mae’r testun hwn o’r Deyrnas Ganol yn dangos agwedd yr ysgrifenyddion tuag at y crochenydd. Tra’r oedd rhai crochenwyr yn berchen tir a thai, ymddengys eu bod yn isel ar raddfa gymdeithasol yr Aifft. Dynion yw mwyafrif y rhai a bortreadir yn cynhyrchu crochenwaith ond weithiau dangosir plant yn eu helpu.

Mae gan Ganolfan yr Aifft yn ei gasgliad dros 60 o eitemau o grochenwaith y credwn iddynt ddod o Amarna. Fodd bynnag, darnau o grochenwaith unigol yw llawer ohonynt! Nid llestri crochenwaith yw eraill ond arteffactau fel EC538, pen crochenwaith a ddisgrifir yn CoA II fel ‘pen estron o’r domen’; stôl grochenwaith yw W345 a restrir yn CoA II tud48. Mae’r daflen hon yn canolbwyntio ar lestri crochenwaith.

I gynhyrchu crochenwaith, nid yn unig yng Nghyfnod Amarna, tasg gyntaf y crochenwyr oedd pwdlo’r clai, ei daenu allan â’u traed er mwyn torri’r lympiau yn y clai i lawr. Dyma pryd y byddai ychwanegion yn cael eu hychwanegu i’r clai i sicrhau ei fod yn clymu. Yna byddai’r llestr yn cael ei lunio ar droell. Wedyn byddai’n rhaid ei adael i sychu, ei beintio os oedd angen a’i danio yn yr odyn. Mae troellau (Powell 1995) yn ogystal ag odynau wedi eu darganfod yn Amarna. Mae gwaith arbrofol gan Powell (1995) yn awgrymu y byddai angen cynorthwywr ar y crochenydd i sicrhau bod y droell yn dal i droi. Mae nifer o odynau wedi’u dynodi mewn ardaloedd preswyl (Nicholson 1989), mewn stadau diwydiannol a rhai preifat.

Mae Paul Nicholson wedi gwneud cyfres o daniadau crochenwaith arbrofol seiliedig ar grochenwyr diweddar yr Aifft, enghreifftiau a thystiolaeth eiconograffig (Nicholson 1995). Bu’r arbrofion yn help i esbonio’r rhesymau am rai o’r ffyrdd y portreadir odynau yn eiconograff yr Aifft. Dangosodd yr arbrofion hefyd mor hawdd fyddai cynhyrchu niferoedd mawr o grochenwaith yn Amarna.

Nwyddau o silt cochlyd y Nîl yw’r rhan fwyaf o grochenwaith Amarna yng Nghanolfan yr Aifft, fodd bynnag mae rhai darnau o farl. Darganfu Petrie deilchion Mycenaidd hefyd yn Amarna, (http://www.digitalegypt.ucl.ac.uk/amarna/myc.html) er nad oes gennym rai o’r rheiny yn y Ganolfan.

Mae llawer o’n teilchion crochenwaith wedi’u haddurno â phaent glas. Weithiau gelwir crochenwaith wedi’i beintio’n las yn ‘nwyddau Malqata’ gan mai yno y darganfuwyd hwy gyntaf. Mae Arnold a Bourriau (1993, 100) yn awgrymu mai ym Memphis y cychwynnodd nwyddau wedi’u peintio’n las. Yn gyffredinol caiff crochenwaith o’r fath ei ddyddio i ganol y 18fed neu ddiwedd yr 20fed Frenhinllin.

Ymddengys mai mewn tai a phlasau brenhinol yn unig y byddai nwyddau wedi’u peintio’n las yn cael eu gwneud a hynny, mae’n debyg, gan nifer fach o grefftwyr mewn ychydig weithdai. Fodd bynnag, gweler Borriau et al (2000, 140), sy’n dweud i grochenwaith Amarna wedi’i beintio’n las gael ei ddarganfod mewn ardaloedd tlotach. Ymddengys mai’r prif wahaniaeth rhwng crochenwaith yr ardaloedd cyfoethog a’r rhai tlawd yw ansawdd yr addurno. Defnyddid crochenwaith yn y tŷ, mewn gweithgareddau crefyddol ac mewn beddau a châi ei fasnachu ar gyfrif ei rinwedd ei hun yn hytrach nag fel cynwysyddion.

Credir bod potiau o’r fath yn cael eu haddurno cyn eu tanio. Cobalt glas yw’r paent glas. O ocsidiau haearn(ocr) a manganîs yr oedd coch a du yn dod. Mae’n bosib mai o’r haenau o alwm sydd i’w cael yng ngwerddonau Kharga a Dakhleh y deuai’r cobalt. Mae’r elfennau addurnol fel petaent yn efelychu’r garlantau blodau fyddai’n cael eu rhoi o amgylch llestri (Freed et al. 1982, 38). Mae rhai (er nad oes un yn y Ganolfan) yn dangos anifeiliaid neu dduwiau fel Bes. Awgrymwyd mai pwrpas y garlantau oedd oeri neu, yn syml, cyflenwi’r profiad o harddwch. Awgrymwyd hefyd y gallai tra-niferedd y lotws fod yn gysylltiedig â’r posibilrwydd fod y gwin mewn llestri o’r fath wedi’i hydreiddio â lotws. Mae addurniadau blodeuog eraill yn dangos y lotws gwyn, penlas yr ŷd, pabi, mandrag a blodyn Mihangel yr haf (Freed et al. 1982, 38).

Deuconig yw ffurf llawer o’r llestri yn y Ganolfan Eifftaidd fel y potyn deuconig W193.

Mae hefyd yn y Ganolfan gostrel win, W960, sy’n cael ei harddangos yn y galeri ar y llofft. Labeli gwin yw’r arysgrifau sydd wedi eu peintio ar ochrau Amphora yn cofnodi’r flwyddyn y gwnaed y gwin, gan bwy ac ymhle. Ar ein un ni, mae arysgrif mewn hieratig yn dweud i’r gwin ddod o Afon y Gorllewin ac iddo gael ei gostrelu yn 12fed blwyddyn teyrnasiad Akhenaten. Daethpwyd o hyd i labeli ym Mhentref y Gweithwyr yn ogystal ag yn y ddinas ei hun. Nid yw Leahy (1985, 66) yn credu y gallai’r trigolion fforddio gwin, ond mai ailddefnyddio’r costreli oeddent.

Darllen pellach a chyfeiriadau

Arnold, D. and Bourriau, J. eds. 1993. An Introduction to ancient Egyptian pottery. Philipp von Zabern: Mainz. 

Bourriau, J.D., Nicholson, P.T. and Rose, P.J., 2000. Pottery. In Nicholson, P.T. and Shaw, I. Ancient Egyptian Materials and Technology. Cambridge: Cambridge University Press, 121-147. 

Freed, R.E., Haynes, J.L, Markowitz, Y.J., 1982. Egypt’s Golden Age: The Art of Living in the New Kingdom 1558-1085 BC. Museum of Fine Art Boston: Boston. 

Hope 1991. Colin A. Hope. Blue-painted and Polychrome Decorated Pottery from Amarna: a Preliminary Corpus. Cahiers de la céramique égyptienne 2 (1991), 17-93. Hope, C.A. “Blue-Painted and Polychrome Decorated Pottery from Amarna”, Cahiers de la céramique égyptienne  2 (1991), 105-118.

Hulin, L.C. 1984. Pottery cult vessels from the Workmen’s Village.In Kemp, B.J., ed. Amarna Reports I. Occasional Publications 1. London: Egypt Exploration Society, 165-177.

Leahy, M.A. 1985. The hieratic labels. In Kemp, B.J. Amarna Reports II, Exploration Society. 65-109. Nicholson, P.T. 1989 The pottery kilns in building Q48.4. In Kemp, B.J., ed., Amarna Reports V. London: Egypt Exploration Society, 64-81.

Nicholson, P.T. 1995a. Kiln excavations at P47.20 (house of Ramose complex). In Kemp, B.J. ed. Amarna Reports VI, London: Egypt Exploration Society, 226-238.  

Nicolson, P.T. 1995b. Construction and firing of an experimental updraught kiln, In Kemp, B.J. Amarna Reports VI, London: Egypt Exploration Society, 239-278. 

Nicholson, P.T. 1995b. The potters of Deir Mawas, an ethnoarchaeological study, In Kemp, B.J. Amarna Reports VI, London: Egypt Exploration Society, 279-308.

Nicholson, P.T. 2007. Brilliant Things for Akhenaten. The Production of glass, vitreous materials and pottery at Amarna site 045.1. London: Egypt Exploration Society.

Nicholson, P.T and Rose, P. 1985. Pottery fabrics and ware groups at el-Amarna. In Kemp, B.J., ed. Amarna Reports II. London: Egypt Exploration Society, 133-174.

Powell, C. 1995. The nature and use of ancient Egyptian potter’s wheels, In Kemp, B.J. Amarna Reports VI, London: Egypt Exploration, 309-335.

Rose, P.J. 1984. The pottery distribution analysis. In Kemp, B.J., ed. Amarna Reports I. Occasional Publications 1. London: Egypt Exploration Society,135-153.

Rose, O. 1986. Pottery from the Main Chapel In Kemp, B.J., ed. Amarna Reports III. London: Egypt Exploration Society, 99-117. 

Rose, P.J. 1987 The Pottery from Gate Street. In Kemp, B.J ed. Amarna Reports IV. London: Egypt Exploration Society, 132-143.

Rose, P.J., 1989. The evidence for pottery making at Q48.4 In Kemp, B.J. ed. Amarna Reports V. London: Egypt Exploration Society, 82-101. 

Rose, P.J. 1995. House P46.33: the pottery. In Kemp, B.J. ed. Amarna Reports VI. London: Egypt Exploration Society, 137-145.

Rose, P.J. 2007. The Eighteenth Dynasty Pottery Corpus from Amarna. London: Egypt Exploration Society.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

css.php