• English
  • Cymraeg

 

Gwydr Amarna

Er, fel y dywed Paul Nicholson, fod Amarna yn bwysig os am ddeall gweithio mewn gwydr yn yr Aifft (Nicholson a Peltenburg 2000, 183), dim ond un darn o wydr yn y Ganolfan Eifftaidd sy’n dod, o bosib, o’r safle hwn. Fodd bynnag, nid yw hynny’n syndod gan nad oes llawer o wydr o’r cyfnod hwn ar gael.

W244 mewnosodiad ar ffurf arwydd ‘h’ Eifftaidd. Gwydr glas. Prynwyd gan Wellcome mewn arwerthiant ym 1930. Darn o fewnosodiad dodrefnyn efallai (Bianchi 1993). Mae’n cael ei arddangos yn yr adran wydr.

Mae darnau eraill o wydr yn y Ganolfan Eifftaidd sy’n perthyn o ran arddull i’r 18fed Frenhinllin ond ni allwn fod yn siŵr ynglŷn â’r safle.

_________________________________________________________________________________________

 Mae’r gwydr cynharaf yn yr Aifft i’w ddyddio i tua 1500 CC ac mae o ansawdd uchel iawn. Oherwydd bod rhai o’r enwau am wydr yn yr Eiffteg yn Hurriaidd neu Arcadaidd credir i’r gwydr cynnar gael ei fewnforio. Yn wir mae llythyrau Amarna yn cyfeirio at wydr wedi’i fewnforio. Yn fuan wedyn ymddengys fod peth tystiolaeth o wydr yn cael ei weithio ond am nad oes gyfnod arbrofol awgrymwyd i’r gwydr hwn gael ei wneud gan weithwyr gwydr tramor, wedi eu dwyn drosodd, o bosib, gan Tuthmosis III (1479-1425 CC).

Yn aml caiff gwydr cynnar ei drin fel carreg a gellir ei dorri fel gem yn hytrach na’i chwythu neu’i fowldio. Mae pot cohl gwydr o’r 18fed Frenhinllin yn yr Amgueddfa Brydeinig wedi’i gastio’n solet ac yna’i ganol wedi’i naddu allan fel carreg. Roedd llafnau cryman gwydr oedd wedi’u gwneud yn yr un ffordd â llafnau cryman fflint ym medd Tutankhamun. Yn wir, un o’r geiriau am wydr yn yr hen Eiffteg yw ‘y garreg sy’n llifo’.

Credai Petrie fod y gwydr yn cael ei wneud yn Amarna ac amlinellodd ddull posibl. Fodd bynnag, mae peth dadlau wedi bod ynglŷn â’r modd y gwneid hynny ac mae rhai sylwebwyr diweddar yn credu mai cael ei fewnforio i’r Aifft yr oedd gwydr yn ystod Cyfnod Amarna. Mae Nicholson (1998, 809), fodd bynnag, yn credu, er nad ydym yn deall manylion cynhyrchu gwydr yn Amarna, fod yna odynau a ddefnyddid, mwy na thebyg, i gynhyrchu ffrit. Mae’r odynau hyn yn llawer mwy na’r odynau crochenwaith y gwyddom amdanynt ac yn cynnwys slag sy’n dangos eu bod yn cael eu twymo i dymheredd llawer uwch nag a fyddai’n angenrheidiol i gynhyrchu faience. Mae hefyd yn dweud fod pob cam i gynhyrchu gwydr yn bresennol yn Amarna ond ychydig iawn o ddarganfyddiadau a wnaed gan ei fod yn ddeunydd newydd.

Roedd gwydr Eifftaidd yn cael ei wneud o’r un deunyddiau â faience, hynny yw silica, lludw natron/planhigion a chalch. Fel faience, câi ei liwio â chobalt (gweler taflen wybodaeth ar faience am y lleoedd lle y gellid cael gafael ar y rhain). Ymddengys, hefyd, fod cynhyrchu faience a gwydr yn digwydd ochr yn ochr.

Yn fyr, i gynhyrchu gwydr, byddai’r deunyddiau crai’n cael eu malu gyda’i gilydd ac yna’u twymo mewn proses a elwid ‘ffritio’. Mae angen tymheredd o 750-850 gradd i wneud hyn. Mae’r broses ffritio’n caniatáu i’r nwyon ddianc fel na fydd swigod yn ymddangos yn y gwydr. Byddai’r ffrit wedyn yn cael ei adael i oeri ac yn cael ei falu. Byddai’r deunydd wedyn yn cael ei roi mewn llestri a’i boethi i rwng 1,000 a 1,200 gradd C. Crynswth gludiog fyddai’r gwydr ar y tymheredd hwn. Byddai, o bosib, angen oeri, ail falu ac ail dwymo i gael gwared â rhagor o swigod. Wedyn byddai’r bariau gwydr yn cael eu torri i fyny a’u gweithio. Daethpwyd o hyd i nifer o ffyn neu gansenni gwydr yn Amarna.

 

Darllen Pellach

Bianchi, R.S. 1983. Those ubiquitous glass inlays from pharaonic Egypt, Part 1. Journal of Glass Studies 25, 29-35. 

Nicholson, P.T. 1998. Glass and glazing at Tell el-Amarna. In Eyre, C.J. Proceedings of the Seventh Iinternational Congress of Egyptologists. Cambridge, 3-9 September 1995. Leuven: Peeter, 805-812. 

Nicholson, P.T. 2007. Brilliant Things for Akhenaten. The Production of glass, vitreous materials and pottery at Amarna site 045.1. London: Egypt Exploration Society.

Nicholson, P.T. and Henderson, J. 2000. Glass. In Nicholson, P.T. and Shaw, I. Ancient Egyptian Materials and Technology. Cambridge: Cambridge University Press, 195-224. 

Nicholson, P.T. and Peltenburg, E. 2000. Egyptian faience. In Nicholson, P.T. and Shaw, I. Ancient Egyptian Materials and Technology. Cambridge: Cambridge University Press, 177-194.

Other items from Amarna

css.php