• English
  • Cymraeg

 

AB15

ab15

Crogdlws pen gwydr oren a glas. 19mm o uchder. Roedd pen tebyg iawn a ddarganfuwyd yn Amarna yn rhan o gasgliad Hilton Price (Hilton-Price 1908, 62, rhif 4547). Darganfuwyd pen bron yn union yr un fath yn y Fayum ac mae’n awr yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon (30/002/1965). Gellir dyddio’r olaf i’r Cyfnod Ptolemaig.

Roedd crogdlysau pen o’r math hwn yn cael eu gwneud yn y Lefant/Dwyrain Agos ac yn cael eu dosbarthu gan y Phoeniciaid. Maen nhw wedi’u ffurfio’n greiddiol. Mae’r rhan fwyaf o grogdlysau pen yn farfog, ond ychydig, fel ein rhai ni, heb fod felly. Efallai mai er gyfer y farchnad Eifftiaid yn fwyaf neilltuol y gwnaed yr enghreifftiau di-farf, neu i gynrychioli menywod. Mae’n bosib eu bod i’w dyddio mor gynnar â’r 15fed ganrif CC ond mae’r mwyafrif i’w dyddio i’r Cyfnod Dynastig Diweddar (747 CC-AD 30).

Rhodd gan Brifysgol Cymru Aberystwyth yw ein darn ni.

Cyfeiriadau

Hilton-Price, F.G. 1908. A Catalogue of the Egyptian Antiquities in the Collection of F. G. Hilton Price. Vol. II. London.

css.php