• English
  • Cymraeg

  YouTube video on thisAB110

Mae’r gwrthrych hwn yn 11.5cm o uchder ac wedi’i wneud o sebonfaen, carreg feddal. Mae’r tu blaen yn dangos Horus y Plentyn yn sefyll ar grocodeil ac yn cydio mewn nadredd, ac uwchlaw iddo mae pen y duw Bes. Ar y tu cefn a’r ochrau mae arysgrifau sydd wedi treulio gormod i’w darllen. Stela neu ‘gipws’ Horus yw hwn (ystyr ‘cipws’ yw stela), a byddai’n cael ei ddefnyddio i sicrhau diogelwch. Credir bod dŵr yn cael ei arllwys dros eitemau o’r fath a’i roi wedyn i ddioddefwyr i hwyluso’u hadferiad. Mae’n dyddio, mwy na thebyg, o’r Cyfnod Diweddar i’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig (c.700CC–AD300).

Anfonwyd ef at J.B. Williams ym 1903 gan Margaret Murray, o grŵp o wrthrychau roedd hi wedi’u cael o Abydos. Dydyn ni ddim yn gwybod ai o gloddiad y daethant ai eu prynu gan ddeliwr wnaeth hi. Rhoddodd J.B. Williams ei arteffactau i Brifysgol Aberystwyth ac ym 1998 trosglwyddodd Aberystwyth nhw i ni.

Roedd cipi i’w cael yng nghartrefi’r cyfoethog a’r tlawd, ac mae’r rhai cynharaf yn dyddio o’r Deyrnas Newydd. Fodd bynnag, roedd rhai enghreifftiau mwy (30cm neu fwy o uchder) yn cael eu gosod yng nghyrtiau temlau, a chafwyd rhai mewn beddrodau. Mae’n ymddangos iddynt ddatblygu o deipiau’r Deyrnas Newydd oedd yn portreadu Horus y Gwaredwr (Shed). Mae mwyafrif y cipi’n dyddio o’r 6ed ganrif CC ymlaen ac mae rhai hyd yn oed wedi goroesi tan y cyfnod Cristnogol Bysantaidd. Roedd y rhai cynnar wedi’u gwneud o bren, ond o garreg y mae’n un ni, fel llawer o rai eraill, wedi’i gwneud.

Mae tu blaen AB110 yn dangos Horus y Plentyn (Hor-pa-chered yn yr Eiffteg sy’n cyfateb i Harpocrates yn y Groeg) yn sefyll ar grocodeil ac yn dal nadredd yn ei ddwylo, a thrwy hynny’n arddangos buddugoliaeth dros anifeiliaid peryglus. Mae’n gwisgo ‘cudyn gwallt ieuenctid’, arwydd o blentyndod. Roedd yn cael ei gymryd yn ganiataol y byddai’r stela yn sicrhau rôl fuddugoliaethus Horus y Plentyn i’r dioddefydd. Rôl Harpocrates, ymhlith eraill, oedd heddychu anifeiliaid a chaiff ei bortreadu ar wahanol gipi yn gyrru cerbyd ac yn ymosod ar anifeiliaid peryglus (Berlandini, 2002).

Uwchlaw pen Horus mae pen (masg) treuliedig iawn y duw Bes (sy’n cael ei ddisgrifio mewn taflenni gwybodaeth eraill yn y Ganolfan Eifftaidd). Yn y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig roedd Bes a Harpocrates wedi’u cysylltu mor agos fel y byddent yn aml yn cael eu cyfuno (Barrett 2011, 277). Mae rhai’n ystyried y portreadau o dduwiau teip Bes gydag adenydd, sy’n ymddangos o’r Deyrnas Newydd ymlaen, fel rhagflaenwyr y delwau Horus-Bes diweddarach ar ffurf Harpocrates-Bes. Roedd Bes a Horus yn cael eu hystyried yn warcheidiol a heulol (Malaise 1990, 699-701), ac, fel y gwelwn, yn feistriaid ar anifeiliaid. Duw ifanc oedd Horus, gyda Bes withiau’n cael ei adnabod fel yr ‘Hen Ddyn’ (Seele 1947, 47).

Mae Bes yn feistr ar anifeiliaid (gweler Ritner 1993, troednodyn 1041 am rôl Bes yn y Deyrnas Ganol) [i]. Mae pot cosmetigau Tutankhamun yn dangos anifeiliaid gwyllt. At y top mae llew a’i dafod allan yn wrthfelltithiol, sy’n ein hatgoffa o Bes. Mae pen Bes ar bob ochr i’r pot (Ritner, 1993, ffig. 9). Mae Bes hefyd yn ymddangos ar gerbyd A2 Tutankhamun (Carter rhif 120). Mae stelau fel JE 55526 o’r Cyfnod Diweddar yn dangos Bes yn dal dau lew a gyda dwy afrewig wrth ei goesau. Gweler hefyd gipws Turin o’r Cyfnod Diweddar sy’n portreadu Horus-Shed mewn cerbyd, gyda Bes yn dal yr awenau tra bod anifeiliaid peryglus yn cael eu hela (Berlandini, J. 2002, 88, ffig. 5).

Mae Bes hefyd, o bosib, yn briodol yma oherwydd ei gysylltiadau â dŵr. Mae ar lawer o’r cipi swynion yn erbyn anifeiliaid dŵr peryglus. Er enghraifft, mae un o’r cipi mwyaf adnabyddus, stela 30ain Frenhinllin Metternich sydd yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Efrog Newydd (rhif derbyn 50.85) yn cynnwys stori Horus mewn Cors. Mae gan rai stelau Horus mawr o demlau, er enghraifft stela o Djedher y Gwaredwr, o Athribis, sy’n awr yn Amgueddfa Cairo (rhif derbyn 46341; Jelinkova-Reymond 1956), fowlenni mawr i gasglu dŵr. Ac, wrth gwrs, ar gipi, caiff Horus y Plentyn ei bortreadu’n gorchfygu anifeiliaid dŵr, fel crocodeiliaid. Dychwelaf at y pwynt hwn isod.

Mae Bes hefyd yn ddyfriog nid yn unig ar gipi. O’r Deyrnas Newydd ymlaen caiff ei gysylltu â’r dduwies rhan-hipopotamws Taweret (sy’n cael ei galw hefyd yn Opet, Reret, Isis, ayb.). Bydd y pâr yn aml yn cael eu dangos gyda’i gilydd mewn golygfeydd o Enedigaeth Ddwyfol, ar goesau gwely (gweler y Ganolfan Eifftaidd W2052). Duwies y corsydd yn fwyaf arbennig yw Taweret. Ac mae gan Bes hefyd ei gysylltiadau â chorsydd. Mae’n ymddangos ar welyau diofryd o’r 22ain Frenhinllin i’r 25ain mewn golygfeydd o gorsydd (Vesco 2009;Teeter 2010). Mae’n ymddangos bod gwelyau diofryd o’r fath yn gysylltiedig ag ailenedigaeth fenywaidd, ond hefyd â’r Llif a stori Dychweliad yr Un Pell, Hathor, a’r ddefod o dynnu’r papyrws. Mae yn Amgueddfa Gelfyddyd Gain y Brifddinas (Met. Mus. of Art 42.5.19; <http://metmuseum.org/art/collection/search/546189>) amwled yn dyddio o’r 27ain Frenhinllin i’r 30 ain gyda phen Bes ar un ochr ac Isis a Horus yn y corsydd ar y llall. Gall y cysylltiad â Dychweliad yr Un Pell esbonio, i ryw raddau, gysylliad Bes â Shu. Credir bod y ddau yn bodoli rhwng nef a daear, ond roedd Shu hefyd weithiau’n cael ei gydnabod fel un o’r duwiau a ddaeth yn ôl â’r Dduwies Bell. Erbyn y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig roedd Bes yn enwog am ddawnsio  wrth dderbyn y Dduwies Bell yn ôl (Darnell 1995, 91; Richter 2010, 155-166; Barrett 2011, 274).

Yn ychwanegol, ar Stela Metternich, dywedir bod Horus pan yn y corsydd, dan warchodaeth gwahanol dduwiau, gan gynnwys ‘Y Corrach Mawr’. Ar yr un stela, dywed Isis wrth ei mab Horus mai ‘hwch a chorrach’ oedd ei warcheidwaid (Borghouts 1978, 70). Efallai mai Taweret oedd yr hwch a Bes y corrach. ‘Moch y dŵr’ oedd enw’r Eifftiaid ar hipopotamysau (ystyr ‘reret’ yw hwch), ac mae’r dduwies hipopotamws hefyd yn gysylltiedig â Dychweliad yr Un Pell (Darnell 1995, 90-91). Gellir ychwanegu bod y bronnau pendiliog a welir weithiau gan Bes yn ei gysylltu i ryw raddau â Hapy, duw’r Nîl[1].

Mae Török (1995, 63) yn cyfeirio at ddyluniad o offeiriaid sy’n gwisgo plu paun, ac yn taenellu dŵr, ac o’r farn y gallent fod yn efelychu Bes. Ar yr un dudalen mae Török hefyd yn cyfeirio at ddelwau Groegaidd-Rufeinig terracotta o Bes a Harpocrates gyda photiau dŵr. Mae Barrett (2011, 288–290) hefyd yn trafod y wedd hon gan gynnwys rôl potiau Bes yn ystod y Deyrnas Newydd ac yn ddiweddarach (gweler Canolfan yr Aifft EC257; EC546; W1283; W1702).

Efallai bod y ffaith fod Bes hefyd yn ymddangos ar ffiol-sha Ptolemaidd o Naukratis yn llai arwyddocaol (British Museum 1885,1101.22; https://www.britishmuseum.org/pdf/Masson_Stone_vessels_SF_AV.pdf). Gan amlaf Hathor sy’n ymddangos ar wrthrychau o’r fath. Mae yna hefyd ffigyrau Rhufeinig o Bes fel pistylloedd, er enghraifft Amgueddfa Fitzwilliam GR.1.1818 (Willems a Clarysse 1999, 290).

Gall Bes fod wedi ei gysylltu â dŵr oherwydd ei nodweddion llewaidd. Roedd defnyddio delw o ben llew fel sbowt ddŵr yn gyffredin mewn temlau Eifftaidd.

Felly, roedd tebygrwydd amlwg rhwngThus, Bes a Harpocrates (fel gwarchodwyr heulol a meistriaid ar anifeiliaid) ac roeddent yn cyfannu’i gilydd fel yr hen a’r ifanc. Roedd Bes nid yn unig yn debyg i Harpocrates ond gellir ei ddangos yn ei warchod. Weithiau dangosir Bes yn magu’r duw-blentyn. Roedd y cysylltiad rhwng y ddau mor agos fel bod rhai o ffigyrau terracotta’r Cyfnod Diweddar yn dangos Bes â’i fys yn ei geg, hynny yw, mae’n cael ei ddangos ar wedd Horus y Plentyn (Török 1995, 63; am y cysylltiad agos rhwng yn ddau gweler Malaise 1990). Gall fod y cysylltiad hwn wedi dechrau’n gynharach. Mae cerfddelw wedi’i wneud o efydd yn portreadu corff plentyn-debyg noeth ac arno ben Bes (<http://project-min.de/home/english/herriat%20razna_en.html> rhif derbyn Mai 2016).

Mae ar gipws y Ganolfan Eifftaidd arysgrifau ar y tu cefn a’r ochrau. Maen nhw wedi treulio’n ofnadwy. Dros amser aeth yr hieroglyffau ar y cipi’n fwy di-lun ac efallai mai symbolaidd yn unig oeddent yn y cyfnodau diweddarach (Sternberg-el-Hotabi 1994). Am fod ein stela ni wedi treulio cymaint, mae’n anodd gwybod a oes yma swynion go iawn ai peidio. Mae lefelau isel llythrennedd yn awgrymu nad oedd effeithiolrwydd y swynion yn dibynnu ar y gallu i’w darllen. (Ritner 1989, 106).

Mae cymariaethau â swynion cipi eraill yn dangos mai swynion gwarcheidiol yn erbyn anifeiliaid peryglus, yn enwedig anifeiliaid y dŵr, oedd y rhain. Mae’n amlwg hefyd fod y llefarydd yn uniaethu’i hun gyda llu o dduwiau (Seele 1947, 48). Mae swynion cipi’n deillio o sawl ffynhonnell ond yn aml fe ymddengys eu bod yn perthyn i chwedl neilltuol ynghylch Harpocrates a’i fam Isis: tra’n cuddio yn y Delta, mae Horus yn cael ei bigo, ond caiff wellhad trwy swynion hud. Ar stela Metternich yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Efrog Newydd y cawn y rhestr fwyaf cyflawn o swynion.

Felly, sut roedd cipi’n cael eu defnyddio? Yr awgrym yw, os arllwysech chi ddŵr dros y cipws, byddai Bes a Harpocrates, ynghyd â’r swynion hud ar y cefn, yn trosglwyddo i’r dŵr bwerau iachusol. Yn sicr, fel y dywedwyd uchod, roedd powlenni ar gyfer casglu’r dŵr yn cael eu darparu yn achos cipi mwy o faint. Caiff y syniad hwn mai’r dŵr oedd yn effeithiol ei gadarnhau gan bortread o gipws ar ffiol garreg (Amgueddfa Cairo 18490; Ritner 1993, troednodyn 523 gyda chyfeiriadau). Hefyd, mae’r testun ar gerfddelw arall yn y Louvre yn datgan mai’r claf yw’r ‘dyn hwn sy’n yfed y dŵr’ (Louvre 10777; Lefbebvre 1931, 89-96; Jelínková-Reymond 1956; Ritner 1993, 107).

Yn ogystal, mae’n amlwg fod llawer o stelau, gan gynnwys ein un ni, wedi treulio’n ofnadwy. Gall hyn fod oherwydd bod pobl yn rhwbio a chusanu’r eitemau er mwyn elwa ar eu pwerau hud. Mae rhagor o dystiolaeth ynghylch eu defnydd yn dod o swyn cipws sy’n awgrymu aberthu o’i flaen ac wedyn rhoi’r cipws ar wddf y dioddefydd (Bourghouts 1978, 83–84).

Mae peth lle i gredu fod cipi bach fel hwn yn cael eu defnyddio gan deithwyr (Sternberg-el Hotabi 1987, 27-28). Yn sicr, er mai’r Aifft yw eu tarddle, maen nhw i’w cael ledled yr hen fyd. Caiff eu pwysigrwydd i deithwyr ei ddangos gan gerfddelw a godwyd gan Rameses III sy’n cynnwys testunau cipi. Codwyd y cerfddelw er mwyn bod o fudd i garafanau teithiol (Ritner 1989, 106).

Gwrthrychau perthnasol: Yng Nghist y Duwiau yn yr oriel ar y llawr gwaelod,  gallwch weld ffigwr o Harpocrates yng nghôl ei fam.

Yn y Gist Faience ar y llawr cyntaf gallwch weld cloch ac arni ben Bes yn unig.

Darllen Pellach

Barrett, C. E. 2011. Egyptianizing Figurines from Delos. A Study in Hellenistic Religion. Brill.

Berlandini, J. 2002. “Un monument magique du ,Quatrième prophète d’Amon’ Nakhtemout”, In La magie en Égypte: À la recherché d’une définition; Actes du colloque organisé par le musée du Louvre les 29 et 30 septembre 2000, golygwyd gan Y. Koenig, pp. 85148. Paris: Musée du Louvre.

Bourghouts, J.F. 1978. Ancient Egyptian Magical Texts. Leiden.

Counts, D.B. a Toumazou, M.K. 2006. “New Light on the Iconography of Bes in Archaic Cyprus”, In Common Ground: Archaeology, Art, Science, and Humanities – Proceedings of the XVI International Congress of Classical Archaeology, edited by A. Donohue and C. Mattusch. Rhydychen: Oxbow Books, 565–569.

Darnell, J.C. 1995. Hathor Returns to Medamûd. Studien zur Altägyptischen Kultur, 22, 47–94.

Jelínková-Reymond, E. (1956), Les Inscriptions de la statue guérisseuse de Djed-Her-Le-Sauveur (Bibliothèque d’Étude 23; Cairo: Impr. de l’Institut français d’archéologie orientale).

Lefebvre, G, 1931. La statue <<guérisseuse>> du Musée du Louvre, BIFAO, 30, 89–96.

Malaise, M. 1990. “Bes et les croyances solaires”, in Israelit-Groll, S. (ed.), Studies in Egyptology Presented to Miriam Lichtheim, Jerusalem, 680–729.

Nunn, J.F. 2002. Ancient Egyptian Medicine, London, 107–110.

Quibell, M.J.E. 1908. Catalogue Général des Antiquités Égyptiennes du Musée du Caire No. 50001-51191. Tomb of Yuaa and Thuia, Cairo.

Richter, B.A. 2010. On the Heels of the Wandering Goddess. The Myth and Festival at the Temples of Wadi el-Hallel and Dendera. In Dolińska, M. a Beinlich, H. (gol.) Ägyptologische Tempeltagung, Interconnections Between Temples, Warsaw 25th–26th September 2008, Weisbaden: Harrassowitz-Verlag, 155–186.

Ritner, R.K.1989. “Horus on the Crocodiles: a Juncture of Religion and Magic in Late Dynastic Egypt”, in Allen, J.P. (gol.), Religion and Philosophy in Ancient Egypt, New Haven, 103­–116.

Ritner, R.K. 1993. The Mechanics if Ancient Egyptian Magical Practice, Chicago.

Seele, K.C. 1947. Horus on the Crocodiles, Journal of Near Eastern Studies, 6, 43–52.

Sternberg-el-Hotabi, H. 1987. Die Götterdarstellungen der Metternichsele, Göttinger Miszellen, 97, 25–70.

Sternberg-el-Hotabi, H. 1994. Der Untergang der Hieroglyphenschrift, Chronique d’Egypte 69, 218–248.

Sternberg-el-Hotabi, H. 1999. Untersuchungen zur Überlieferungsgeschichte der Horusstelen: ein Beitrag zur Religiongeschichte Ägyptens im 1. Jahrtausand v. Chr. Wiesbaden.

Teeter, E. 2010. Baked Clay Figurines and Votive Beds from Medinet Habu. Oriental Institute of the University of Chicago.

Török, L. 1995. Hellenistic and Roman Terracottas from Egypt. Rhufain.

Vesco, P. Del. 2009. A Votive bed fragment in the Egyptian Museum of Florence (Italy). EVO XXXII, 31–37.

Willems, H. and Clarysse, W. (gol.) 1999. Keizers aan de Nijl. Exhibition Tongeren. Leuven: Peeters.

© Y Ganolfan Eifftaidd 2015

 

[i] Roedd rôl Bes fel ‘Meistr yr Anifeiliaid’ yn arbennig o gryf yng Nghyprus (Counts and Toumazou 2006, gyda chyfeiriadau).

.

 

Other items showing Harpocrates

 

css.php