• English
  • Cymraeg

 

EC601

Aradr, hof neu aradr ddi-wadn fodel gyda chlymiad modern sydd yma. 32cm o hyd. Gweler Brovarski, et al. (1982 tud 46) a Petrie (1917, 54, pl. LXVIII, 62) am enghreifftiau tebyg. Roedd eitemau o’r fath yn cael eu defnyddio i chwalu’r pridd yn barod ar gyfer hau, defod chwalu’r pridd, ond hefyd i wneud priddfeini. Roedd eitemau bach yn cael eu cario gan shabtis.

Wyddom ni ddim ai mewn aneddiad neu fedd y cafwyd yr eitem hon er, yn sicr, roedd hofiau/erydr di-wadn go iawn yn cael eu defnyddio fel eitemau angladdol (Spencer 1980, 92). Os mai mewn bedd y cafwyd hon mwy na thebyg mai rhywun pwysig oedd ei pherchennog ac na fyddai wedi ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Yn hytrach, byddai arwyddocâd defodol iddi. Mae Nibbi (1978) yn esbonio bod hofiau’n cael eu portreadu’n eiconograffig fel symbol o ddechreuad. Mae defod Hofio’r Ddaear yn amlwg ar bapyri ac eirch o’r Trydydd Cyfnod Canol ymlaen (Niwiński 1987-88).

Roedd ffermio yn yr hen Aifft yn llafurddwys iawn. Gwaith ‘caib a rhaw’ oedd yr holl dasgau ffermio ar wahân i’r defnydd o geffylau weithiau i dynnu erydr. Ychydig iawn sy’n wybyddus am fywyd ffermwr yn yr hen Aifft. Byddai’r rhan fwyaf o’r rheiny oedd yn trin y tir yn anllythrennog ac felly’n annhebygol o adael dim o’u hanes ar ôl.

Ychydig mae ffermio’r oes bresennol wedi newid mewn pentrefi bach yn yr Aifft ac mae offer oedd yn cael eu defnyddio yn yr hen oes yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Er enghraifft, mae’r siadwff, offeryn llaw i hwyluso dyfrhau yn dal i gael ei ddefnyddio.

Byddai’r eitem hon hefyd wedi cael ei defnyddio i wneud y priddfeini roedd mwyafrif adeiladau’r hen Aifft wedi’u gwneud ohonynt.

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd ddwy aradr fodel ddi-wadn arall (EC291 a EC703).

Darllen Pellach:

 Brovarski, E. Doll, S.K. a Freed, R. E. 1982, Egypt’s Golden Age. The Art of Living in the New Kingdom. 1558-1085 BC. Boston: Museum of Fine Arts Boston.

 Nibbi, A. 1978, ‘The Hoe as a Symbol of Foundation in Some Early Egyptian Reliefs’. Göttinger Miszellen, 29, 89-94.

Niwiński, A. 1987-88, The Solar-Osirian unity as a principle of the theology of the ‘State of Amun’ yn Thebes Dynasty 21. Jaarbericht van het vooraziat-egyptische Genootschap, 30, 89-106.

Petrie, W.M.F. 1917, Tools and Weapons. Llundain: the British School of Archaeology in Egypt

Spencer, A. J. 1980, Catalogue of Egyptian Antiquities in the British Museum. V Early Dynastic Objects. Llundain: British Museum.

 

css.php