• English
  • Cymraeg

Cysylltir yr Hen Eifftiaid yn aml â marwolaeth, nid oherwydd eu bod yn arbennig o angladdol ond oherwydd bod llawer o’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos mewn amgueddfeydd yn dod o feddau. Mae’r gyfrol hon yn defnyddio arteffactau o Ganolfan Eifftaidd Abertawe i esbonio credoau’r Hen Aifft am ddemoniaid ac ysbrydion y meirw.

Fel y gellir dyfalu, daeth demoniaid yr Hen Aifft o bob lliw a llun; o rai a oedd yn rhannol crocodeilod, yn rhannol llewod ac yn rhannol hipo a fyddai efallai yn bwyta calon y meirw anghyfiawn, i gymeriad llewaidd coraidd a oedd yn helpu i amddiffyn plant.

Gallai’r meirwon eu hunain gyfathrebu â’r enaid byw, ond a allant yn wirioneddol ddod yn ôl o’r byd arall i dir y rhai byw? Mae rhai gwrthrychau o’r Ganolfan yn awgrymu bod yr Eifftiaid yn credu y gallai fod yn bosib.

Mae’r llyfr ar werth yn gyffredinol am £37.99, ac yn y Ganolfan Eifftaidd, mae ar werth am bris gostyngedig o £35. Fodd bynnag, ar 31 Hydref (Calan Gaeaf), gallwch ei brynu am £30 yn unig.

Gwasg Prifysgol Cymru

css.php