Karnak
Yn Karnak y gwelir y cymhlyg mwyaf o demlau yn y byd.
Porth deheuol y deml yn Karnak a adeiladwyd o flaen Teml Khonsu. Dyma borth Ptolemy III, Euergetes.
Fel hyn y dywed nodiadau darlith Is-Sarsiant Johnson:
Dyma borth deheuol y deml yn Karnak (Ystyr Karnak yn Arabeg yw ffenestr)….
Yr un olygfa heddiw. Hawlfraint Lenka Peacock.
.
Karnak 1917 gyda rhodfa’r sffincs enwog yn arwain i’r peilon cyntaf.
Yr un olygfa heddiw, hawlfraint Ken Griffin.
Scarab gerllaw’r Llyn Cysegredig a gysegrwyd gan Amenhotep III. Mae’r scarab yn arwydd o ail-eni. Efallai iddo gael ei leoli ger y Llyn Cysegredig fel rhan o seremonïau adfywio yn gysylltiedig â’r llyn.
Y scarab heddiw, hawlfraint Ken Griffin. Dywedir wrth dwristiaid heddiw (2008) os cerddant o’i gwmpas 7 waith daw ateb i’w holl broblemau caru.
Obelisgau Thutmose I a Hatshepsut.
Yr un olygfa heddiw, hawlfraint Karen O’Flanagan
Yr Akh-menu (‘y gofeb fwyaf gogoneddus’), Neuadd Gŵyl Thutmose III ym 1917.