• English
  • Cymraeg

 

Pennau brysgyll

W939

 

W939 Pen brysgyll wyffurf

Gan Gebelein. Prynwyd gan Wellcome o gasgliad MacGregor ym 1922. Cyfnod Naqada II. Calchfaen melyn

W152

Pen brysgyll ar siâp disg W152

Gwyrddfaen. Cloddiwyd ym Mostagedda 1929. Am adroddiad ar y cloddio gweler Brunton, (1937, 72). Caiff bedd 1854 ei ddisgrifio fel bedd gyda chyllell fflint wedi torri a phen brysgyll yn gorwedd yn ddarnau o flaen y pen a’r breichiau. Cafwyd hyd i bestl yn yr un bedd. Mae fwy na thebyg yn dyddio i Naqada I.

Roedd pennau brysgyll yn cael eu defnyddio fel arfau ac mewn seremonïau. Mae nifer o ddarluniau’n dangos brenhinoedd yn lladd eu gelynion â gwrthrychau o’r fath. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod brysgyll fel y rhain mor fach yn awgrymu mai pethau i’w dangos ac nid i’w defnyddio oeddent. Awgrymwyd y byddai pennau brysgyll naill ai’n cael eu cysylltu wrth garrai lledr, neu wedi’u rhoi ar goes bren. Mae nifer wedi’u darganfod sydd â charnau pren (gweler Stevenson am enghreifftiau).

Mae’n ymddangos, yn gyffredinol, bod y pen brysgyll siâp disg yn hŷn na’r pen brysgyll siâp gellygen. Mae’r ddau’n dyddio i’r cyfnodau Cynddynastig neu Ddynastig Cynnar (4000-3000CC) ac i’w cael mewn beddau. Yn aml maen nhw’n edrych fel petaent wedi’u torri’n bwrpasol cyn cael eu rhoi yn y beddau.

Mae un astudiaeth (Podzorski 1993) wedi awgrymu mai â beddau dynion y mae brysgyll yn dueddol o fod wedi’u cysylltu (er y gall y gydberthynas fod yn ddibwys gan mai dim ond dau ben brysgyll oedd yn yr astudiaeth) ac mae astudiaeth Hassan a Smith (2002, 52) o 426 o feddau o 5 mynwent yn awgrymu bod pennau brysgyll mor debygol o fod yn gysylltiedig â beddau menywod ag â rhai dynion.

Gwyddom am bennau brysgyll model, rhai enghreifftiau’n fach iawn, rhai’n anarferol o fawr. Mae’r ddwy elfen hyn yn dangos bod gan bennau brysgyll werth symbolaidd yn ogystal ag ymarferol (mae pennau brysgyll sydd o bosib yn amwledaidd yn y Ganolfan e.e. EC3037).

 

Other weapons in the Egypt Centre

Other Predynastic items in the Egypt Centre

Further Reading

Needler, W. 1985. Predynastic and Archaic Egypt In The Brooklyn Museum Brooklyn. (see page 258 for information on similar items). 

Brunton, G. 1937. Mostagedda and the Tasian Culture.  London. 

Cialowicz, K. M. 1989. Predynastic mace-heads in the Nile Valley. In Krzyżaniak, L. and Kobusiewicz, M. eds. Late Prehistory in the Nile Basin and the Sahara, Poznań, 261-266. 

Hassan, F. A. and S. J. Smith (2002). Soul birds and heavenly cows: Transforming gender in Predynastic Egypt. In Nelson, S.N. and Rosen-Ayalon, M. eds. In Pursuit of Gender. Worldwide Archaeological Approaches. Walnut Creek, 43-65. 

Podzorski, P. V. (1993). The correlation of skeletal remains and burial goods: an example from Naga-ed-dêr N7000. In  Davies, W.V. and Walker, R. Biological Anthropology and the Study of Ancient Egypt. London, 119-129.

css.php