• English
  • Cymraeg

 

W504

W505

 

 

 

W504 sydd ar y chwith a W505 ar y dde.

Mae bwyelli fel hyn yn dyddio o tua 1700 i 1600 CC. Credid bod bwyelli o’r fath yn cael eu datblygu i dreiddio drwy arfwisg y corff, oedd wedi dod yn fwy cyffredin erbyn y cyfnod hwn. Mae Yadin (1963, 60) er enghraifft yn dweud eu bod wedi’u bwriadu i dreiddio drwy helmedau’r cyfnod. Fodd bynnag, dadleuir hefyd mai prin oedd helmedau o’r fath yn y cyfnod (Philip 2006, 139). Mae’r rhain yn disodli’r cadfwyelli gyda llafnau llydan yn slaesio. Mae arfau o’r fath i’w canfod ym Mhalestina ac ymddengys iddynt ddod i’r Aifft drwy ddylanwad Palestina (Philip 1995a, 71). Yn wir, mae’n debygol fod y ddwy enghraifft hyn yn dod o Balestina yn hytrach na’r Aifft, er bod enghreifftiau a ganfuwyd yn yr Aifft yn debyg o ran eu harddull (Philip 1995a). Gallai dadansoddiad metelegol o bosibl helpu i ganfod y ffynhonnell ddaearyddol a chronolegol (Shalev et al).

Mae enghreifftiau wedi’u canfod yn Tell el Dab’a (Philip 2006) lle’r ymddengys iddynt gael eu dethol fel gwrthrychau addas i’r bedd (Philip 1995a, 71). Yn wir, ceir peth tystiolaeth y gallai fod iddynt ddiben defodol (Philip 2006, 141).

Gelwir bwyelli fel hyn weithiau’n fwyelli ‘llygad’ neu fwyelli ‘twll coes’.

 Cyfeiriadau

Davies, W.V. 1987, Catalogue of Egyptian Antiquities in the British Museum. VII Tools and Weapons I Axes. London: British Museum Publications.

Miron, E., 1992, Axes and adzes from Canaan, Praehistorische Bronzefunde IX, 19, Stuttgart.

Philip, G., 1995a, Tell el-Dab`a metalwork patterns and purpose, in Egypt, the Aegean and the Levant (eds. W. V. Davies and L. Schofield), London: British Museum Press, 66–68.

Philip, G. 1995b, The same but different: a comparison of Middle Bronze Age metalwork from Jericho and Tell el Dab’a, Studies in the History and Archaeology of Jordon, 5, 523–30.

Philip, G., 2006, Tell el-Dab`a XV: metalwork and metalworking evidence of the Late Middle Kingdom and the Second Intermediate Period, Verlag der Österreichischen Akademie der Wissenschaften, Wien.

Shalev, S., Caspi, E.N., Shilstein, S., Paradowska, A.M., Kockelmann, W., Kan-Kipor Meron, T. and Levy, Y. 2014, Middle Bronze Age II Battle Axes from Lezion, Israel: Archaeology and Metallurgy. Archaeometry 56(2), 279–295.

Yadin, Y. 1963. The Art of Warfare in Bilblical Lands. Jerusalem.

Other weapons in the Egypt Centre

Other Second Intermediate Period items

  

 

css.php