• English
  • Cymraeg

Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion

P1050392

Mae’r rhaglen gwirfoddoli i oedolion ar waith rhwng 10am a 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn

ac mae’n agored i unrhyw un sy’n 18 oed a throsodd.

Lawrlwytho Ffurflen Gais i Wirfoddolwyr

.

Pam bod angen gwirfoddolwyr?

Heb wirfoddolwyr, ni allai’r Ganolfan Eifftaidd agor ei drysau. Mae’r Amgueddfa ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ac mae’n cynnwys dwy oriel ar loriau gwahanol. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal a chadw ein horielau, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn lân a bod yr holl gyfarpar yn gweithio. Mae gwirfoddolwyr yn siarad â’n hymwelwyr, yn eu croesawu, yn ateb eu hymholiadau ac yn cynnal teithiau tywys.  Maent hefyd yn gweithio fel arweinwyr addysgol ar gyfer grwpiau o ysgolion ac yn gweithio’n agos gyda’r Swyddog Addysg i ddatblygu gweithgareddau ymarferol. Mae llawer yn addasu gweithgareddau sydd eisoes ar gael drwy wneud propiau i wella’r gweithgaredd, fel penwisgoedd, wigiau ac ati. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn treialu gweithgareddau newydd cyn i ni eu cynnig i’n hymwelwyr ac yn eu gwerthuso. Mae rhai gwirfoddolwyr yn helpu â dyletswyddau’r siop gan weini cwsmeriaid, ateb ymholiadau a chyflawni dyletswyddau cyffredinol y dderbynfa.

Pa fath o bobl sydd eu hangen arnom?

Rydym yn chwilio am unrhyw un rhwng 18 a 99 oed! Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, mwynhau gweithio gydag eraill a chwrdd â phobl o bob cwr o’r byd. Mae diddordeb yn yr Aifft yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol! Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn bobl sydd wedi ymddeol, mae rhai hefyd yn gweithio’n rhan-amser ac mae rhai yn fyfyrwyr. Gall gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe gymryd rhan yng ngwobrau HEAR.

I bobl sy’n chwilio am yrfaoedd neu brofiad yn un o’r meysydd canlynol, gall gwirfoddoli fod yn ffordd ddefnyddiol o gael profiad gwaith gwerthfawr:

  • Y rhan fwyaf o yrfaoedd sy’n gysylltiedig â threftadaeth
  • Gwaith Ieuenctid
  • Gwaith cymdeithasol
  • Addysgu/hyfforddi
  • Academia/Ymchwil
  • Llyfrgellyddiaeth
  • Twristiaeth
  • Gofal cwsmeriaid
  • Manwerthu
  • Marchnata

Felly, os hoffech wybod pa mor ddefnyddiol yw gwirfoddoli, dyma hanes rhai o’n llwyddiannau:   Sally Fung,  Cat Lumb

Beth alla i ei wneud?

Mae angen gwirfoddolwyr ar yr Amgueddfa i gyflawni tair rôl graidd a hollbwysig, sef:

  1. Goruchwylio a chynnal a chadw’r orielau
  2. Gofal/Rhyngweithio ag Ymwelwyr a Chwsmeriaid
  3. Addysgu.

Mae amrywiaeth o rolau y gallwch eu cyflawni ac mae pob un ohonynt yn cynnwys o leiaf un elfen o’r swyddogaethau craidd. Mae’r disgrifiadau swydd canlynol ar gael.

Nodwch nad ydym yn cynnig unrhyw “waith curadurol y tu ôl i’r llenni”. Mae pob rôl yn cynnwys rhywfaint o ryngweithio ag ymwelwyr.

* Mae hon yn rôl y mae’n rhaid camu ymlaen ati – ni allwch ddechrau ar y lefel hon.

A oes unrhyw gyfyngiadau?

Oes. Mae’n rhaid i bob darpar wirfoddolwr gael dau eirda boddhaol a gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Y rheswm am hyn yw ein bod yn gwneud llawer o waith â grwpiau sy’n agored i niwed. Rhaid inni gael y dogfennau hyn cyn i chi ddechrau ac mae’n rhaid eu bod yn foddhaol. Mae pob gwirfoddolwr newydd yn cael cyfnod sefydlu neu gyfnod prawf pan fydd yn dechrau, a fydd yn para 20 awr o leiaf.

Faint o amser sydd angen ei ymrwymo a phryd y gallaf wirfoddoli?

Mae’r Amgueddfa ar agor i wirfoddolwyr rhwng 10am a 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.  

Er mwyn gwirfoddoli yn yr Amgueddfa, mae angen i chi ymrwymo o leiaf 3 awr yr wythnos, neu 1 awr dros ginio fel arfer. Mae’r sifftiau 3 awr yn para hanner diwrnod fel arfer, rhwng 10am ac 1pm neu rhwng 1pm a 4pm, yn ogystal â chyfarfod 10 munud cyn y sifft. Neu gallwch wirfoddoli am ddiwrnod llawn rhwng 10.00 a 4.00.  Gallwch wirfoddoli am fwy na diwrnod os dymunwch! Rydym hefyd yn rhoi cyfle i bobl wirfoddoli am awr dros ginio.

Os nad yw’r amseroedd hyn yn gyfleus i chi, peidiwch â phoeni. Cysylltwch â Rheolwr y Gwirfoddolwyr i drafod trefniadau eraill.

Sut mae cymryd rhan?

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at Reolwr y Gwirfoddolwyr. Bydd yn cydnabod eich cais ac yn ei brosesu drwy ofyn am eich geirdaon. Dylech ddilyn yr holl gyfarwyddiadau dilynol i wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Caiff y gwiriad hwn ei anfon i’ch cyfeiriad cartref.  Ar ôl i chi ei gael, cysylltwch â Rheolwr y Gwirfoddolwyr a chyn belled â’i fod wedi cael eich geirdaon, bydd yn trefnu dyddiad ar gyfer eich hyfforddiant sefydlu.

 

Lawrlwytho Ffurflen Gais i Wirfoddolwyr http://www.egypt.swan.ac.uk/wp-content/uploads/2010/12/Adult_Application_2015_FINAL_-_USE_THIS.pdf

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yn yr Amgueddfa, cysylltwch â Rheolwr y Gwirfoddolwyr:

Syd Howells

Y Ganolfan Eifftaidd

Prifysgol Abertawe

Abertawe

SA2 8PP

Ffôn: 01792 295960/606065

 

E-bost: l.s.j.howells@swansea.ac.uk

css.php