Mae’r crogdlws faience glas hwn sy’n dangos Bes yn chwarae tambwrîn yn dod o Amarna a rhoddwyd ef i’r Ganolfan Eifftaidd gan Amgueddfa Frenhinol yr Alban yn 1978.
Mae amwledau o’r fath yn nodweddiadol o Amarna a Malqata. Mae Stevens (2006, 31) yn nodi bod mwy na 500 o’r eitemau tlyswaith o Amarna’n portreadu Bes. Mae’r nifer fawr o amwledau Bes yn dangos nad oedd y ddinas yn gyfan gwbl ymroddedig i addoli’r Aten. Gall yr eitem gron y mae’n ei dal fod yn dambwrîn, drwm neu symbal. Yn ystod Cyfnod Amarna yr ymddangosodd delwau o’r fath gyntaf.
Mae gennym daflen wybodaeth ar wahân am Bes.
Darllen pellach:
Stevens, Anna, 2006. Private Religion at Amarna. BAR International Series 1587. The material evidence. Rhydychen: Archeopress
We have a separate information sheet on Bes.
Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth yn y Ganolfan Eifftaidd