• English
  • Cymraeg

W868

W868

Mae’r darn hwn o Lyfr y Meirw Ptolemaidd yn dangos Pedwar Mab Horus. Mae wedi’i ysgrifennu ar rwymyn mymi.[i] Mae’r Pedwar yn berthnasol yma gan fod yr adran hon yn Llyfr y Meirw yn ymwneud ag addoli Osiris.

Mae’n debyg y byddai swynion Llyfr y Meirw yn cael eu hysgrifennu ar rwymynnau mymi er mwyn amddiffyn y corff. Dechreuodd yr arfer o ddeutu 400 C.C., ond mae’r rhan fwyaf o’r enghreifftiau sy’n goroesi’n dyddio o’r Cyfnod Ptolemaidd.

Maint y darn hwn yw 69 x 9cm, ac fel yn achos rhwymynnau mymi eraill, mae’r llawysgrif yn hieratig, mewn inc du ac yn darllen o’r dde i’r chwith. Roedd llawysgrif hieratig yn seiliedig ar hieroglyffau ond roedd yn caniatáu i sgrifellwyr ysgrifennu’n gyflymach. Roedd y rhwymyn hwn yn perthyn i Djed-Her, mab Ta (ei fam). Mae darnau eraill bellach yn Llundain ac yn Efrog Newydd.[ii] Y rheswm fod darnau i’w canfod mewn casgliadau gwahanol yw bod rhwymynnau mymis yn aml yn cael eu torri i’w gwerthu.

Mae testun W868 yn cynnwys rhannau o Swynion 148 a 149 yn Llyfr y Meirw tra bo’r darluniau’n dod o Lyfr y Meirw 149 gan ddangos pum twmpath cyntaf yr Arallfyd. Fel gyda fersiynau eraill o’r Swyn, nid yw’r berthynas rhwng darluniau a disgrifiadau ysgrifenedig yn amlwg.

Gwelwn gysyniad twmpathau’r Arallfyd y mae’n rhaid i’r meirw fynd drwyddynt a’u daemoniaid cysylltiedig yn y Testunau Coffin. Dechreuodd cysyniad y pedwar twmpath ar ddeg penodol yn swynion Llyfr y Meirw yng Nghyfnod y Deyrnas Newydd. Roedd swyn 149 yn disgrifio bryniau a phorthladdoedd, caeau a mynyddoedd. Erbyn y cyfnod Groeg-Rufeinig, roedd gan ‘ddecaniaid daemonaidd’ (grwpiau o sêr a ddefnyddid mewn seryddiaeth hynafol oedd decaniaid) yr un enwau â llawer o ddaemoniaid twmpathau, oedd yn cysylltu’r twmpathau â wybren y nos.[iii]

Mae fersiwn cynharaf Swyn 149 yn agor drwy addoli Osiris. Gosodir fersiynau diweddarach nesaf at Swyn 148 sy’n gorffen gydag addoli Osiris yn ei ffurf fel Ptah-Sokar-Osiris.[iv] Mewn rhai papurfrwyn, teitl Swyn 149 yw ‘Swyn ar gyfer dirnad twmpathau Tŷ Osiris ym Maes y Brwyn’.[v]

Mae’r twmpath cyntaf ar y dde’n dangos ffigur yn dal dwy ffon neu wialen. I’r dde iddo ceir pedwar ffigur ar ffurf mymi, Pedwar Mab Horus. Byddai disgwyl iddynt fod yn y wybren Osiriaidd. Roedd Pedwar Mab Horus yn gysylltiedig â gwylnos Osiris. Hefyd, mae Swyn 148 mewn papurfrwyn eraill yn gorffen gydag addoli Ptah-Sokar-Osiris (Lucarelli 2015, 276). Nodir y twmpath ei hun gyda hieroglyff ‘tŷ’.

Ar yr ail dwmpath ceir hieroglyff y mynydd, efallai’n cynrychioli’r akhet, sef porth y gorwel i’r Arallfyd.[vi] Hefyd ceir ffigur gyda phen epa neu siacal, cynffon a choesau anifail. Mae’n dal dwy ffon neu wialen. Mae’r disgrifiad o’r ail dwmpath yn disgrifio’r porth y mae Re’n mynd drwyddo i groesi’r awyr.

Gwelir yr un ffigur ar y trydydd twmpath, ond y tro hwn mae’n sefyll dros dwmpath a gynrychiolir â siâp pedol. Mewn fersiynau eraill o Swyn 149, mae’r teitl ‘Twmpath y Nerthol Rai’ wedi’i ysgrifennu y tu mewn i’r Twmpath.[vii]

Ar y pedwerydd twmpath gwelir sarff yn cael ei godi fry gan dri dyn. Mewn man arall caiff y sarff ei lurgunio a thybir bod hyn yn cynrychioli ei fod yn cael ei gipio. Mewn fersiynau eraill o’r Swyn, disgrifir y sarff fel ‘Saethwr (dwy) Gyllell’. Mae’r daemon hwn yn bwyta pennau ysbrydion y meirw.

Oherwydd difrod, dim ond rhan o’r pumed twmpath sydd i’w weld. Mae’n dangos ffigur ar ffurf mymi gyda phen sarff dwbl yn dal dwy ffon neu wialen a llew yn eistedd wrth ei ochr.

Mae daemoniaid y twmpathau’n nodweddiadol o gopïau Ptolemaidd eraill o Swyn 149. [viii] Maent yn dal ffyn neu wialenni, a fwy na thebyg yn cynrychioli ceidwaid pyrth sy’n gyfrifol am warchod pob ‘porth’ yn y bywyd nesaf. Mae copïau cynharach o Swyn 149 yn darlunio ceidwaid pyrth yn nodweddiadol yn chwifio cyllyll (tt. 00-00). [ix]

 

Gallwch weld amdo prin iawn gyda rhan o Lyfr y Meirw wedi’i beintio arno yn yr oriel yn y llofft.

[i]Ar gyfer swynion Llyfr y Meirw ar rwymynnau gweler Kockelmann, H., Untersuchungen zu den späten Totenbuch-Handschriften auf Mumienbinden. (Wiesbaden, 2008); Irmtraut Munro, ‘The Evolution of the Book of the Dead’ yn Taylor, Journey Through the Afterlife, tt. 78–9.

[ii]Darparwyd yr wybodaeth drwy haelioni Totenbuch-Projekt. http://totenbuch.awk.nrw.de/objekt/tm114180: Amgueddfa Brydeinig EA 10028 a 10047 (10-11); Amgueddfa Brydeinig EA10065; Amgueddfa Brydeinig EA10271; Amgueddfa Brydeinig EA10349, Amgueddfa Brydeinig EA75047; M. Cambridge E.Misc 36 a M; Casgliad y New York Historical Society).

[iii]Alexandra von Lieven, Der Himmel über Esna: Eine Fallstudie zur religiösen Astronomie in Ägypten am Biespiel der kosmologischen Decken- und Archatravinschriften im Tempel von Esna. Ägyptologische Abhandlungen 64. (Wiesbaden, 2000), tt. 16–17, 27–8, 46–50. I gael rhagor o wybodaeth am ddecaniaid fel daemoniaid gweler: László Kákosy, ‘Decans in Late-Egyptian Religion’, Oikumene 3 (1982a), 163–91.

[iv]Rita Lucarelli, ‘The Inhabitants of the Fourteenth Hill of Spell 149 of the Book of the Dead’ yn L. D. Morenz and A. el Hawary (goln.), Weitergabe: Festschrift für Ägyptologin Ursula Rößler-Köhler zum 65. Geburtstag. Gottinger Orientforschungen, IV. Reihe: Agypten, (Weisbaden, 2015), tt. 275–91.

[v]Rita Lucarelli, The Book of the Dead of Gatseshen. Ancient Egyptian Funerary Religion in the 10th Century BC (Leiden, 2006), t. 173.

[vi]Henk Milde, The Vignettes In The Book of The Dead of Neferrenpet (Leiden, 1991), t. 115.

[vii]Er enghraifft Llyfr y Meirw o Neferrenpet: Milde, Vignettes, t. 116.

[viii]Milde, Vignettes, p. 121.

[ix]Er enghraifft, Eighteenth Dynasty British Museum EA10477/28, 29 a 30; Carol Andrews a R. O. Faulkner, The Ancient Egyptian Book of the Dead, (London, 1972) tt. 140–1; Günther Lapp, The Papyrus of Nu. Catalogue of the Books of the Dead in the British Museum (Llundain, 1997), platiau 83–6.

 

 

An unedited undergraduate student project on W868

 

 

Notes

1. [1] http://totenbuch.awk.nrw.de/objekt/tm114180: British Museum EA 10028 and 10047 (10-11);
British Museum EA10065; British Museum EA10271; British Museum EA10349, British
Museum EA75047; M.Cambridge E.Misc 36 and M; New York Historical Society’s
Collection).

Other Book of the Dead items in the Egypt Centre

css.php