• English
  • Cymraeg

W865

Darn o fedaliwn sgwâr o wlân brown-porffor ar liain heb ei liwio. Mae’r patrwm yn dangos anifeiliaid yn rhedeg a phlanhigyn. Mae tafodau’r anifeiliaid wedi’u pwytho mewn coch.

Mae hwn yn edrych yn debyg i ddarnau Bysantaidd (527-640) yn Pritchard (2004, 60, 62, ffig. 4.11). Mae darn tebyg i’w weld yn Lewis (1969, 34 pl. 73) sy’n cael ei ddyddio i’r 6ed ganrif ac un arall yn Caroll (1988, 116-118) hefyd wedi’i ddyddio i’r 6ed ganrif.

Roedd darnau sgwâr fel y rhain yn cael eu defnyddio i addurno tiwnigau yn y mileniwm 1af OC. Roedd tiwnigau’r cyfnod yn cael eu haddurno â pharau o fedaliynau. Byddai un pâr yn mynd dros y ddwy ysgwydd a phâr arall dros y ddwy ben-glin. Awgrymwyd mai bwriad eu gosod oedd diogelu cymalau’r fraich a’r ben-glin rhag niwed (Carroll 1988, 84).

Yn y Cyfnod Rhufeinig Cynnar fe welwyd addurn unlliw (gwlân brown/porffor ar gefndir lliain) yn cael ei ddefnyddio. O tua’r 6ed ganrif OC roedd mwy a mwy o liwiau’n cael eu defnyddio yn y patrymau.

Darllen pellach:

Carroll, D.L. 1988. Looms and textiles of the Copts. California Academy of Sciences.

Lewis, S. 1969. Early Coptic Textiles. Stanford: Stanford Art Gallery.

Pritchard, F. 2004. Clothing Culture: Dress in Egypt in the First Millenium AD. Clothing from Egypt in the collection of The Whitworth Art Gallery, The University of Manchester. Manceinion.

css.php